bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Numbers 6
Numbers 6
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 5
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 7 →
1
Llefarodd yr ARGLWYDD hefyd wrth Moses, gan ddywedyd,
2
Llefara wrth feibion Israel, a dywed wrthynt, Pan ymneilltuo gŵr neu wraig i addo adduned Nasaread, i ymneilltuo i'r ARGLWYDD:
3
Ymneilltued oddi wrth win a diod gref; nac yfed finegr gwin, na finegr diod gref; nac yfed chwaith ddim sugn grawnwin, ac na fwytaed rawnwin irion, na sychion.
4
Holl ddyddiau ei Nasareaeth ni chaiff fwyta o ddim oll a wneir o winwydden y gwin, o'r dincod hyd y bilionen.
5
Holl ddyddiau adduned ei Nasareaeth ni chaiff ellyn fyned ar ei ben: nes cyflawni'r dyddiau yr ymneilltuodd efe i'r ARGLWYDD, sanctaidd fydd; gadawed i gudynnau gwallt ei ben dyfu.
6
Holl ddyddiau ei ymneilltuaeth i'r ARGLWYDD, na ddeued at gorff marw.
7
Nac ymhaloged wrth ei dad, neu wrth ei fam, wrth ei frawd, neu wrth ei chwaer, pan fyddant feirw; am fod Nasareaeth ei DDUW ar ei ben ef.
8
Holl ddyddiau ei Nasareaeth,sanctaidd fydd efe i'r ARGLWYDD.
9
Ond os marw fydd un yn ei ymyl ef yn ddisymwth, a halogi pen ei Nasareaeth; yna eillied ei ben ar ddydd ei buredigaeth, ar y seithfed dydd yr eillia efe ef.
10
Ac ar yr wythfed dydd y dwg ddwy durtur neu ddau gyw colomen, at yr offeiriad, i ddrws pabell y cyfarfod.
11
Ac offrymed yr offeiriad un yn bech‐aberth, ac un yn boethoffrwm, a gwnaed gymod drosto, am yr hyn a becho wrth y marw; a sancteiddied ei ben ef y dydd hwnnw.
12
A neilltued i'r ARGLWYDD ddyddiau ei Nasareaeth, a dyged oen blwydd yn offrwm dros gamwedd; ac aed y dyddiau cyntaf yn ofer, am halogi ei Nasareaeth ef.
13
A dyma gyfraith y Nasaread: pan gyflawner dyddiau ei Nasareaeth, dyger ef i ddrws pabell y cyfarfod.
14
A dyged yn offrwm drosto i'r ARGLWYDD, un hesbwrn blwydd,perffaith‐gwbl yn boethoffrwm; ac un hesbin flwydd, berffaith‐gwbl, yn bech‐aberth; ac un hwrdd perffaith‐gwbl, yn aberth hedd;
15
Cawellaid o fara croyw hefyd, sef teisennau peilliaid wedi eu tylino trwy olew, ac afrllad croyw wedi eu heneinio ag olew, a'u bwyd‐offrwm, a'u diod‐offrwm hwy.
16
A dyged yr offeiriad hwynt gerbron yr ARGLWYDD, ac offrymed ei bech‐aberth a'i boethoffrwm ef.
17
Offrymed hefyd yr hwrdd yn aberth hedd i'r ARGLWYDD, ynghyd â'r cawellaid bara croyw; ac offrymed yr offeiriad ei fwyd‐offrwm a'i ddiod‐offrwm ef.
18
Ac eillied y Nasaread wrth ddrws pabell y cyfarfod ben ei Nasareaeth; a chymered flew pen ei Nasareaeth, a rhodded ar y tân a fyddo dan yr aberth hedd.
19
Cymered yr offeiriad hefyd balfais o'r hwrdd wedi ei berwi, ac un deisen groyw o'r cawell, ac un afrlladen groyw; a rhodded ar ddwylo'r Nasaread, wedi eillio ohono ei Nasareaeth;
20
A chyhwfaned yr offeiriad hwynt yn offrwm cyhwfan gerbron yr ARGLWYDD: sanctaidd yw hyn i'r offeiriad, heblaw parwyden y cyhwfan, a phalfais y dyrchafael. Ac wedi hyn y caiff y Nasaread yfed gwin.
21
Dyma gyfraith y Nasaread a addunedodd, a'i offrwm i'r ARGLWYDD am ei Nasareaeth, heblaw yr hyn a gyrhaeddo ei law ef: fel y byddo ei adduned a addunedo, felly gwnaed, heblaw cyfraith ei Nasareaeth.
22
Llefarodd yr ARGLWYDD hefyd wrth Moses, gan ddywedyd,
23
Llefara wrth Aaron ac wrth ei feibion, gan ddywedyd, Fel hyn y bendithiwch feibion Israel, gan ddywedyd wrthynt,
24
Bendithied yr ARGLWYDD di, a chadwed di:
25
A llewyrched yr ARGLWYDD ei wyneb arnat, a thrugarhaed wrthyt:
26
Dyrchafed yr ARGLWYDD ei wyneb arnat, a rhodded i ti dangnefedd.
27
Felly y gosodant fy enw ar feibion Israel, a mi a'u bendithiaf hwynt.
← Chapter 5
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 7 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36