bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Numbers 26
Numbers 26
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 25
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 27 →
1
A bu, wedi'r pla, lefaru o'r ARGLWYDD wrth Moses, ac wrth Eleasar mab Aaron yr offeiriad, gan ddywedyd,
2
Cymerwch nifer holl gynulleidfa meibion Israel, o fab ugain mlwydd ac uchod, trwy dŷ eu tadau, pob un a allo fyned i ryfel yn Israel.
3
A llefarodd Moses ac Eleasar yr offeiriad wrthynt yn rhosydd Moab, wrth yr Iorddonen, ar gyfer Jericho, gan ddywedyd
4
Rhifwch y bobl, o fab ugain mlwydd ac uchod; megis y gorchmynnodd yr ARGLWYDD wrth Moses, a meibion Israel, y rhai a ddaethant allan o dir yr Aifft.
5
Reuben, cyntaf‐anedig Israel. Meibion Reuben; o Hanoch, tylwyth yr Hanochiaid: o Phalu, tylwyth y Phaluiaid:
6
O Hesron, tylwyth yr Hesroniaid: o Carmi, tylwyth y Carmiaid.
7
Dyma dylwyth y Reubeniaid: a'u rhifedigion oedd dair mil a deugain a saith cant a deg ar hugain.
8
A meibion Phalu oedd Elïab.
9
A meibion Elïab; Nemuel, a Dathan, ac Abiram. Dyma y Dathan ac Abiram, rhai enwog yn y gynulleidfa, y rhai a ymgynenasant yn erbyn Moses ac yn erbyn Aaron yng nghynulleidfa Cora, pan ymgynenasant yn erbyn yr ARGLWYDD.
10
Ac agorodd y ddaear ei safn, ac a'u llyncodd hwynt, a Cora hefyd, pan fu farw y gynulleidfa, pan ddifaodd y tân ddengwr a deugain a dau cant: a hwy a aethant yn arwydd.
11
Ond meibion Cora ni buant feirw.
12
Meibion Simeon, wrth eu tylwythau. O Nemuel, tylwyth y Nemueliaid: o Jamin, tylwyth y Jaminiaid: o Jachin, tylwyth y Jachiniaid:
13
O Sera, tylwyth y Serahiaid: o Saul, tylwyth y Sauliaid.
14
Dyma dylwyth y Simeoniaid; dwy fil ar hugain a dau cant.
15
Meibion Gad, wrth eu tylwythau. O Seffon, tylwyth y Seffoniaid: o Haggi, tylwyth yr Haggiaid: o Suni, tylwyth y Suniaid:
16
O Osni, tylwyth yr Osniaid: o Eri, tylwyth yr Eriaid:
17
O Arod, tylwyth yr Arodiaid: o Areli, tylwyth yr Areliaid.
18
Dyma deuluoedd meibion Gad, dan eu rhif; deugain mil a phum cant.
19
Meibion Jwda oedd, Er ac Onan: a bu farw Er ac Onan yn nhir Canaan.
20
A meibion Jwda, wrth eu teuluoedd. O Sela, tylwyth y Selaniaid: o Phares, tylwyth y Pharesiaid: o Sera, tylwyth y Serahiaid.
21
A meibion Phares oedd; o Hesron, tylwyth yr Hesroniaid: o Hamul, tylwyth yr Hamuliaid.
22
Dyma dylwyth Jwda, dan eu rhif; onid pedair mil pedwar ugain mil a phum cant.
23
Meibion Issachar, wrth eu tylwythau oedd; o Tola, tylwyth y Tolaiaid: o Pua, tylwyth y Puhiaid:
24
O Jasub, tylwyth y Jasubiaid: o Simron, tylwyth y Simroniaid.
25
Dyma deuluoedd Issachar, dan eu rhif; pedair mil a thrigain mil a thri chant.
26
Meibion Sabulon, wrth eu teuluoedd oedd; o Sered, tylwyth y Sardiaid: o Elon, tylwyth yr Eloniaid: o Jahleel, tylwyth y Jahleeliaid.
27
Dyma deuluoedd y Sabuloniaid, dan eu rhif; trigain mil a phum cant.
28
Meibion Joseff, wrth eu teuluoedd oedd; Manasse ac Effraim.
29
Meibion Manasse oedd; o Machir, tylwyth y Machiriaid: a Machir a genhedlodd Gilead: o Gilead y mae tylwyth y Gileadiaid.
30
Dyma feibion Gilead. O Jeeser, tylwyth Jeeseriaid: o Helec, tylwyth yr Heleciaid:
31
Ac o Asriel, tylwyth yr Asrieliaid: ac o Sechem, tylwyth y Sechemiaid:
32
Ac o Semida, tylwyth y Semidiaid: ac o Heffer, tylwyth yr Hefferiaid.
33
A Salffaad mab Heffer nid oedd iddo feibion, ond merched: ac enwau merched Salffaad oedd, Mala, a Noa, Hogla, Milca, a Tirsa.
34
Dyma dylwyth Manasse: a'u rhifedigion oedd ddeuddeng mil a deugain a saith cant.
35
Dyma feibion Effraim, wrth eu teuluoedd. O Suthela, tylwyth y Sutheliaid; o Becher, tylwyth y Becheriaid: o Tahan, tylwyth y Tahaniaid.
36
A dyma feibion Suthela: o Eran, tylwyth yr Eraniaid.
37
Dyma dylwyth meibion Effraim, trwy eu rhifedigion; deuddeng mil ar hugain a phum cant. Dyma feibion Joseff, wrth eu teuluoedd.
38
Meibion Benjamin, wrth eu teuluoedd oedd; o Bela, tylwyth y Belaiaid: o Asbel, tylwyth yr Asbeliaid: o Ahiram, tylwyth yr Ahiramiaid:
39
O Seffuffam, tylwyth y Seffuffamiaid: o Huffam, tylwyth yr Huffamiaid.
40
A meibion Bela oedd, Ard a Naaman: o Ard yr ydoedd tylwyth yr Ardiaid: o Naaman, tylwyth y Naamaniaid.
41
Dyma feibion Benjamin, yn ôl eu teuluoedd: dan eu rhif yr oeddynt yn bum mil a deugain a chwe chant.
42
Dyma feibion Dan, yn ôl eu teuluoedd. O Suham, tylwyth y Suhamiaid. Dyma dylwyth Dan, yn ôl eu teuluoedd.
43
A holl dylwyth y Suhamiaid oedd, yn ôl eu rhifedigion, bedair mil a thrigain a phedwar cant.
44
Meibion Aser, wrth eu teuluoedd, oedd; o Jimna, tylwyth y Jimniaid: o Jesui, tylwyth y Jesuiaid: o Bereia tylwyth y Bereiaid.
45
O feibion Bereia, yr oedd; o Heber, tylwyth yr Heberiaid: o Malciel, tylwyth y Malcieliaid.
46
Ac enw merch Aser ydoedd Sara.
47
Dyma deuluoedd meibion Aser, yn ôl eu rhifedigion; tair mil ar ddeg a deugain a phedwar cant.
48
Meibion Nafftali, wrth eu teuluoedd oedd; o Jahseel, tylwyth y Jahseeliaid: o Guni, tylwyth y Guniaid:
49
O Jeser, tylwyth y Jeseriaid: o Silem, tylwyth y Silemiaid.
50
Dyma dylwyth Nafftali, yn ôl eu teuluoedd, dan eu rhif; pum mil a deugain a phedwar cant.
51
Dyma rifedigion meibion Israel; chwe chan mil, a mil saith gant a deg ar hugain.
52
A llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses, gan ddywedyd,
53
I'r rhai hyn y rhennir y tir yn etifeddiaeth, yn ôl rhifedi yr enwau.
54
I lawer y chwanegi yr etifeddiaeth, ac i ychydig prinha yr etifeddiaeth: rhodder i bob un ei etifeddiaeth yn ôl ei rifedigion.
55
Eto wrth goelbren y rhennir y tir: wrth enwau llwythau eu tadau yr etifeddant
56
Wrth farn y coelbren y rhennir ei etifeddiaeth, rhwng llawer ac ychydig.
57
A dyma rifedigion y Lefiaid, wrth eu teuluoedd. O Gerson, tylwyth y Gersoniaid: o Cohath, tylwyth y Cohathiaid: o Merari, tylwyth y Merariaid.
58
Dyma dylwythau y Lefiaid. Tylwyth y Libniaid, tylwyth yr Hebroniaid, tylwyth y Mahliaid, tylwyth y Musiaid, tylwyth y Corathiaid: Cohath hefyd a genhedlodd Amram.
59
Ac enw gwraig Amram oedd Jochebed, merch Lefi, yr hon a aned i Lefi yn yr Aifft: a hi a ddug i Amram, Aaron a Moses, a Miriam eu chwaer hwynt.
60
A ganed i Aaron, Nadab ac Abihu, Eleasar ac Ithamar.
61
A bu farw Nadab ac Abihu, pan offrymasant dân dieithr gerbron yr ARGLWYDD.
62
A'u rhifedigion oedd dair mil ar hugain; sef pob gwryw o fab misyriad ac uchod: canys ni chyfrifwyd hwynt ymysg meibion Israel, am na roddwyd iddynt etifeddiaeth ymhlith meibion Israel.
63
Dyma rifedigion Moses ac Eleasar yr offeiriad, y rhai a rifasant feibion Israel yn rhosydd Moab, wrth yr Iorddonen, ar gyfer Jericho.
64
Ac yn y rhai hyn nid oedd un o rifedigion Moses ac Aaron yr offeiriad, pan rifasant feibion Israel yn anialwch Sinai.
65
Canys dywedasai yr ARGLWYDD amdanynt, Gan farw y byddant feirw yn yr anialwch. Ac ni adawsid ohonynt un, ond Caleb mab Jeffunne, a Josua mab Nun.
← Chapter 25
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 27 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36