bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Numbers 27
Numbers 27
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 26
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 28 →
1
Yna y daeth merched Salffaad, mab Heffer, mab Gilead, mab Machir, mab Manasse, o dylwyth Manasse mab Joseff; (a dyma enwau ei ferched ef; Mala, Noa, Hogla, Milca, a Tirsa;)
2
Ac a safasant gerbron Moses, a cherbron Eleasar yr offeiriad, a cherbron y penaethiaid, a'r holl gynulleidfa, wrth ddrws pabell y cyfarfod, gan ddywedyd,
3
Ein tad ni a fu farw yn yr anialwch; ac nid oedd efe ymysg y gynulleidfa a ymgasglodd yn erbyn yr ARGLWYDD yng nghynulleidfa Cora, ond yn ei bechod ei hun y bu farw; ac nid oedd meibion iddo.
4
Paham y tynnir ymaith enw ein tad ni o fysg ei dylwyth, am nad oes iddo fab? Dod i ni feddiant ymysg brodyr ein tad.
5
A dug Moses eu hawl hwynt gerbron yr ARGLWYDD.
6
A llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses, gan ddywedyd,
7
Y mae merched Salffaad yn dywedyd yn uniawn; gan roddi dyro iddynt feddiant etifeddiaeth ymysg brodyr eu tad: trosa iddynt etifeddiaeth eu tad.
8
Llefara hefyd wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Pan fyddo marw un, ac heb fab iddo, troswch ei etifeddiaeth ef i'w ferch.
9
Ac oni bydd merch iddo, rhoddwch ei etifeddiaeth ef i'w frodyr.
10
Ac oni bydd brodyr iddo; yna rhoddwch ei etifeddiaeth ef i frodyr ei dad.
11
Ac oni bydd brodyr i'w dad; yna rhoddwch ei etifeddiaeth ef i'w gâr nesaf iddo o'i dylwyth; a meddianned hwnnw hi: a bydded hyn i feibion Israel yn ddeddf farnedig, megis y gorchmynnodd yr ARGLWYDD wrth Moses.
12
A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, Dring i'r mynydd Abarim hwn, a gwêl y tir a roddais i feibion Israel.
13
Ac wedi i ti ei weled, tithau a gesglir at dy bobl, fel y casglwyd Aaron dy frawd.
14
Canys yn anialwch Sin, wrth gynnen y gynulleidfa, y gwrthryfelasoch yn erbyn fy ngair, i'm sancteiddio wrth y dwfr yn eu golwg hwynt: dyma ddwfr cynnen Cades, yn anialwch Sin.
15
A llefarodd Moses wrth yr ARGLWYDD, gan ddywedyd,
16
Gosoded yr ARGLWYDD, DUW ysbrydion pob cnawd, un ar y gynulleidfa,
17
Yr hwn a elo allan o'u blaen hwynt, ac a ddelo i mewn o'u blaen hwynt, a'r hwn a'u dygo hwynt allan, ac a'u dygo hwynt i mewn; fel na byddo cynulleidfa'r ARGLWYDD fel defaid ni byddo bugail arnynt.
18
A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, Cymer atat Josua mab Nun, y gŵr y mae yr ysbryd ynddo, a gosod dy law arno;
19
A dod ef i sefyll gerbron Eleasar yr offeiriad, a cherbron yr holl gynulleidfa; a dod orchymyn iddo ef yn eu gŵydd hwynt.
20
A dod o'th ogoniant di arno ef, fel y gwrandawo holl gynulleidfa meibion Israel arno.
21
A safed gerbron Eleasar yr offeiriad, yr hwn a ofyn gyngor drosto ef, yn ôl barn Urim, gerbron yr ARGLWYDD: wrth ei air ef yr ânt allan, ac wrth ei air ef y deuant i mewn, efe a holl feibion Israel gydag ef, a'r holl gynulleidfa.
22
A gwnaeth Moses megis y gorchmynnodd yr ARGLWYDD iddo: ac a gymerodd Josua, ac a barodd iddo sefyll gerbron Eleasar yr offeiriad, a cherbron yr holl gynulleidfa.
23
Ac efe a osododd ei ddwylo arno, ac a roddodd orchymyn iddo; megis y llefarasai yr ARGLWYDD trwy law Moses.
← Chapter 26
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 28 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36