bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Numbers 32
Numbers 32
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 31
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 33 →
1
Ac yr ydoedd anifeiliaid lawer i feibion Reuben, a llawer iawn i feibion Gad: a gwelsant dir Jaser, a thir Gilead; ac wele y lle yn lle da i anifeiliaid.
2
A meibion Gad a meibion Reuben a ddaethant, ac a ddywedasant wrth Moses, ac wrth Eleasar yr offeiriad, ac wrth benaduriaid y gynulleidfa, gan ddywedyd,
3
Atoroth, a Dibon, a Jaser, a Nimra, a Hesbon, ac Eleale, a Sebam, a Nebo, a Beon,
4
Sef y tir a drawodd yr ARGLWYDD o flaen cynulleidfa Israel, tir i anifeiliaid yw efe; ac y mae i'th weision anifeiliaid.
5
A dywedasant, Os cawsom ffafr yn dy olwg, rhodder y tir hwn i'th weision yn feddiant: na phâr i ni fyned dros yr Iorddonen.
6
A dywedodd Moses wrth feibion Gad, ac wrth feibion Reuben, A â eich brodyr i'r rhyfel, ac a eisteddwch chwithau yma?
7
A phaham y digalonnwch feibion Israel rhag myned trosodd i'r tir a roddodd yr ARGLWYDD iddynt?
8
Felly y gwnaeth eich tadau, pan anfonais hwynt o Cades‐Barnea i edrych y tir.
9
Canys aethant i fyny hyd ddyffryn Escol, a gwelsant y tir; a digalonasant feibion Israel rhag myned i'r tir a roddasai yr ARGLWYDD iddynt.
10
Ac enynnodd dicllonedd yr ARGLWYDD y dydd hwnnw; ac efe a dyngodd, gan ddywedyd,
11
Diau na chaiff yr un o'r dynion a ddaethant i fyny o'r Aifft, o fab ugain mlwydd ac uchod, weled y tir a addewais trwy lw i Abraham, i Isaac, ac i Jacob: am na chyflawnasant wneuthur ar fy ôl i:
12
Ond Caleb mab Jeffunne y Cenesiad, a Josua mab Nun; canys cyflawnasant wneuthur ar ôl yr ARGLWYDD.
13
Ac enynnodd dicllonedd yr ARGLWYDD yn erbyn Israel; a gwnaeth iddynt grwydro yn yr anialwch ddeugain mlynedd, nes darfod yr holl oes a wnaethai ddrygioni yng ngolwg yr ARGLWYDD.
14
Ac wele, chwi a godasoch yn lle eich tadau, yn gynnyrch dynion pechadurus, i chwanegu ar angerdd llid yr ARGLWYDD wrth Israel.
15
Os dychwelwch oddi ar ei ôl ef; yna efe a ad y bobl eto yn yr anialwch, a chwi a ddinistriwch yr holl bobl hyn.
16
A hwy a ddaethant ato ef, ac a ddywedasant, Corlannau defaid a adeiladwn ni yma i'n hanifeiliaid, a dinasoedd i'n plant.
17
A ni a ymarfogwn yn fuan o flaen meibion Israel, hyd oni ddygom hwynt i'w lle eu hun; a'n plant a arhosant yn y dinasoedd caerog, rhag trigolion y tir.
18
Ni ddychwelwn ni i'n tai, nes i feibion Israel berchenogi bob un ei etifeddiaeth.
19
Hefyd nid etifeddwn ni gyda hwynt o'r tu hwnt i'r Iorddonen, ac oddi yno allan; am ddyfod ein hetifeddiaeth i ni o'r tu yma i'r Iorddonen, tua'r dwyrain.
20
A dywedodd Moses wrthynt, Os gwnewch y peth hyn, os ymarfogwch i'r rhyfel o flaen yr ARGLWYDD,
21
Os â pob un ohonoch dros yr Iorddonen yn arfog o flaen yr ARGLWYDD, nes iddo yrru ymaith ei elynion o'i flaen,
22
A darostwng y wlad o flaen yr ARGLWYDD; yna wedi hynny y cewch ddychwelyd ac y byddwch dieuog gerbron yr ARGLWYDD, a cherbron Israel; a bydd y tir hwn yn etifeddiaeth i chwi o flaen yr ARGLWYDD.
23
Ond os chwi ni wna fel hyn; wele, pechu yr ydych yn erbyn yr ARGLWYDD: a gwybyddwch y goddiwedda eich pechod chwi.
24
Adeiledwch i chwi ddinasoedd i'ch plant, a chorlannau i'ch defaid; a gwnewch yr hyn a ddaeth allan o'ch genau.
25
A llefarodd meibion Gad a meibion Reuben wrth Moses, gan ddywedyd, Dy weision a wnânt megis y mae fy arglwydd yn gorchymyn.
26
Ein plant, ein gwragedd, ein hanifeiliaid a'n holl ysgrubliaid, fyddant yma yn ninasoedd Gilead.
27
A'th weision a ânt drosodd o flaen yr ARGLWYDD i'r rhyfel, pob un yn arfog i'r filwriaeth, megis y mae fy arglwydd yn llefaru.
28
A gorchmynnodd Moses i Eleasar yr offeiriad, ac i Josua mab Nun, ac i bennau‐cenedl llwythau meibion Israel, o'u plegid hwynt:
29
A dywedodd Moses wrthynt, Os meibion Gad a meibion Reuben a ânt dros yr Iorddonen gyda chwi, pob un yn arfog i'r rhyfel o flaen yr ARGLWYDD, a darostwng y wlad o'ch blaen; yna rhoddwch iddynt wlad Gilead yn berchenogaeth:
30
Ac onid ânt drosodd gyda chwi yn arfogion, cymerant eu hetifeddiaeth yn eich mysg chwi yng ngwlad Canaan.
31
A meibion Gad a meibion Reuben a atebasant, gan ddywedyd, Fel y llefarodd yr ARGLWYDD wrth dy weision, felly y gwnawn ni.
32
Nyni a awn drosodd i dir Canaan yn arfogion o flaen yr ARGLWYDD, fel y byddo meddiant ein hetifeddiaeth o'r tu yma i'r Iorddonen gennym ni.
33
A rhoddodd Moses iddynt, sef i feibion Gad, ac i feibion Reuben, ac i hanner llwyth Manasse mab Joseff, frenhiniaeth Sehon brenin yr Amoriaid, a brenhiniaeth Og brenin Basan, y wlad a'i dinasoedd ar hyd y terfynau, sef dinasoedd y wlad oddi amgylch.
34
A meibion Gad a adeiladasant Dibon, ac Ataroth, ac Aroer,
35
Ac Atroth, Soffan, a Jaaser, a Jogbea,
36
A Beth‐nimra, a Beth‐haran,dinasoedd caerog; a chorlannau defaid.
37
A meibion Reuben a adeiladasant Hesbon, Eleale, a Chiriathaim;
38
Nebo hefyd, a Baal‐meon, (wedi troi eu henwau,) a Sibma: ac a enwasant enwau ar y dinasoedd a adeiladasant.
39
A meibion Machir mab Manasse a aethant i Gilead, ac a'i henillasant hi, ac a yrasant ymaith yr Amoriaid oedd ynddi.
40
A rhoddodd Moses Gilead i Machir mab Manasse; ac efe a drigodd ynddi.
41
Ac aeth Jair mab Manasse, ac a enillodd eu pentrefydd hwynt, ac a'u galwodd hwynt Hafoth‐Jair.
42
Ac aeth Noba, ac a enillodd Cenath a'i phentrefydd, ac a'i galwodd ar ei enw ei hun, Noba.
← Chapter 31
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 33 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36