bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Numbers 33
Numbers 33
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 32
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 34 →
1
Dyma deithiau meibion Israel, y rhai a ddaethant allan o dir yr Aifft, yn eu lluoedd, dan law Moses ac Aaron.
2
A Moses a ysgrifennodd eu mynediad hwynt allan yn ôl eu teithiau, wrth orchymyn yr ARGLWYDD: a dyma eu teithiau hwynt yn eu mynediad allan.
3
A hwy a gychwynasant o Rameses yn y mis cyntaf, ar y pymthegfed dydd o'r mis cyntaf: trannoeth wedi'r Pasg yr aeth meibion Israel allan â llaw uchel yng ngolwg yr Eifftiaid oll.
4
(A'r Eifftiaid oedd yn claddu pob cyntaf‐anedig, y rhai a laddasai yr ARGLWYDD yn eu mysg; a gwnaethai yr ARGLWYDD farn yn erbyn eu duwiau hwynt hefyd.)
5
A meibion Israel a gychwynasant o Rameses, ac a wersyllasant yn Succoth.
6
A chychwynasant o Succoth, a gwersyllasant yn Etham, yr hon sydd yng nghwr yr anialwch.
7
A chychwynasant o Etham, a throesant drachefn i Pi‐hahiroth, yr hon sydd o flaen Baal‐Seffon; ac a wersyllasant o flaen Migdol.
8
A chychwynasant o Pi‐hahiroth, ac a aethant trwy ganol y môr i'r anialwch; a cherddasant daith tri diwrnod yn anialwch Etham, a gwersyllasant ym Mara.
9
A chychwynasant o Mara, a daethant i Elim; ac yn Elim yr ydoedd deuddeg o ffynhonnau dwfr, a deg a thrigain o balmwydd; a gwersyllasant yno.
10
A chychwynasant o Elim, a gwersyllasant wrth y môr coch.
11
A chychwynasant oddi wrth y môr coch, a gwersyllasant yn anialwch Sin.
12
Ac o anialwch Sin y cychwynasant, ac y gwersyllasant yn Doffca.
13
A chychwynasant o Doffca, a gwersyllasant yn Alus.
14
A chychwynasant o Alus, a gwersyllasant yn Reffidim, lle nid oedd dwfr i'r bobl i'w yfed.
15
A chychwynasant o Reffidim, a gwersyllasant yn anialwch Sinai.
16
A chychwynasant o anialwch Sinai, a gwersyllasant yn Cibroth‐Hattaafa.
17
A chychwynasant o Cibroth‐Hattaafa, a gwersyllasant yn Haseroth.
18
A chychwynasant o Haseroth, a gwersyllasant yn Rithma.
19
A chychwynasant o Rithma, a gwersyllasant yn Rimmon‐Pares.
20
A chychwynasant o Rimmon‐Pares, a gwersyllasant yn Libna.
21
A chychwynasant o Libna, a gwersyllasant yn Rissa.
22
A chychwynasant o Rissa, a gwersyllasant yn Cehelatha.
23
A chychwynasant o Cehelatha, a gwersyllasant ym mynydd Saffer.
24
A chychwynasant o fynydd Saffer, a gwersyllasant yn Harada.
25
A chychwynasant o Harada, a gwersyllasant ym Maceloth.
26
A chychwynasant o Maceloth a gwersyllasant yn Tahath.
27
A chychwynasant o Tahath, a gwersyllasant yn Tara.
28
A chychwynasant o Tara, a gwersyllasant ym Mithca.
29
A chychwynasant o Mithca, a gwersyllasant yn Hasmona.
30
A chychwynasant o Hasmona, a gwersyllasant ym Moseroth.
31
A chychwynasant o Moseroth, a gwersyllasant yn Bene‐Jaacan.
32
A chychwynasant o Bene‐Jaacan, a gwersyllasant yn Hor‐hagidgad.
33
A chychwynasant o Hor‐hagidgad, a gwersyllasant yn Jotbatha.
34
A chychwynasant o Jotbatha, a gwersyllasant yn Ebrona.
35
A chychwynasant o Ebrona, a gwersyllasant yn Esion‐Gaber.
36
A chychwynasant o Esion‐Gaber, a gwersyllasant yn anialwch Sin; hwnnw yw Cades.
37
A chychwynasant o Cades, a gwersyllasant ym mynydd Hor, yng nghwr tir Edom.
38
Ac Aaron yr offeiriad a aeth i fyny i fynydd Hor, wrth orchymyn yr ARGLWYDD; ac a fu farw yno, yn y ddeugeinfed flwyddyn wedi dyfod meibion Israel allan o dir yr Aifft, yn y pumed mis, ar y dydd cyntaf o'r mis.
39
Ac Aaron oedd fab tair blwydd ar hugain a chant pan fu farw ym mynydd Hor.
40
A'r brenin Arad, y Canaanead, yr hwn oedd yn trigo yn y deau yn nhir Canaan, a glybu am ddyfodiad meibion Israel.
41
A chychwynasant o fynydd Hor, a gwersyllasant yn Salmona.
42
A chychwynasant o Salmona, a gwersyllasant yn Punon,
43
A chychwynasant o Punon, a gwersyllasant yn Oboth.
44
A chychwynasant o Oboth, a gwersyllasant yn Ije‐Abarim, ar derfyn Moab.
45
A chychwynasant o Ije‐Abarim, a gwersyllasant yn Dibon‐Gad.
46
A chychwynasant o Dibon‐Gad, a gwersyllasant yn Almon‐Diblathaim.
47
A chychwynasant o Almon‐Diblathaim, a gwersyllasant ym mynyddoedd Abarim, o flaen Nebo.
48
A chychwynasant o fynyddoedd Abarim, a gwersyllasant yn rhosydd Moab, wrth yr Iorddonen, ar gyfer Jericho.
49
A gwersyllasant wrth yr Iorddonen, o Beth‐Jesimoth hyd wastadedd Sittim, yn rhosydd Moab.
50
A llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses, yn rhosydd Moab, wrth yr Iorddonen, ar gyfer Jericho, gan ddywedyd,
51
Llefara wrth feibion Israel, a dywed wrthynt, Gan eich bod chwi yn myned dros yr Iorddonen, i dir Canaan;
52
Gyrrwch ymaith holl drigolion y tir o'ch blaen, a dinistriwch eu holl luniau hwynt; dinistriwch hefyd eu holl ddelwau tawdd, a difwynwch hefyd eu holl uchelfeydd hwynt.
53
A goresgynnwch y tir, a thrigwch ynddo: canys rhoddais y tir i chwi i'w berchenogi.
54
Rhennwch hefyd y tir yn etifeddiaeth rhwng eich teuluoedd wrth goelbren; i'r aml chwanegwch ei etifeddiaeth, ac i'r anaml prinhewch ei etifeddiaeth: bydded eiddo pob un y man lle yr êl y coelbren allan iddo; yn ôl llwythau eich tadau yr etifeddwch.
55
Ac oni yrrwch ymaith breswylwyr y tir o'ch blaen; yna y bydd y rhai a weddillwch ohonynt yn gethri yn eich llygaid, ac yn ddrain yn eich ystlysau, a blinant chwi yn y tir y trigwch ynddo.
56
A bydd, megis yr amcenais wneuthur iddynt hwy, y gwnaf i chwi.
← Chapter 32
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 34 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36