bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Numbers 22
Numbers 22
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 21
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 23 →
1
Ameibion Israel a gychwynasant, ac a wersyllasant yn rhosydd Moab, am yr Iorddonen â Jericho.
2
A gwelodd Balac mab Sippor yr hyn oll a wnaethai Israel i'r Amoriaid.
3
As ofnodd Moab rhag y bobl yn fawr; canys llawer oedd: a bu gyfyng ar Moab o achos meibion Israel.
4
A dywedodd Moab wrth henuriaid Midian, Y gynulleidfa hon yn awr a lyfant ein holl amgylchoedd, fel y llyf yr ych wellt y maes. A Balac mab Sippor oedd frenin ar Moab yn yr amser hwnnw.
5
Ac efe a anfonodd genhadau at Balaam mab Beor, i Pethor, (yr hon sydd wrth afon tir meibion ei bobl,) i'w gyrchu ef; gan ddywedyd, Wele bobl a ddaeth allan o'r Aifft: wele, y maent yn cuddio wyneb y ddaear; ac y maent yn aros ar fy nghyfer i.
6
Yr awr hon, gan hynny, tyred, atolwg, melltithia i mi y bobl yma; canys cryfach ydynt na mi: ond odid mi allwn ei daro ef, a'u gyrru hwynt o'r tir: canys mi a wn mai bendigedig fydd yr hwn a fendithiech di, a melltigedig fydd yr hwn a felltithiech.
7
A henuriaid Moab, a henuriaid Midian, a aethant, â gwobr dewiniaeth yn eu dwylo: daethant hefyd at Balaam, a dywedasant iddo eiriau Balac.
8
A dywedodd yntau wrthynt, Lletywch yma heno; a rhoddaf i chwi ateb megis y llefaro yr ARGLWYDD wrthyf. A thywysogion Moab a arosasant gyda Balaam.
9
A daeth DUW at Balaam, ac a ddywedodd Pwy yw y dynion hyn sydd gyda thi?
10
A dywedodd Balaam wrth DDUW, Balac mab Sippor, brenin Moab, a ddanfonodd ataf, gan ddywedyd,
11
Wele bobl wedi dyfod allan o'r Aifft, ac yn gorchuddio wyneb y ddaear: yr awr hon tyred, rhega hwynt i mi; felly ond odid y gallaf ryfela â hwynt, a'u gyrru allan.
12
A dywedodd DUW wrth Balaam, Na ddos gyda hwynt; na felltithia'r bobl: canys bendigedig ydynt.
13
A Balaam a gododd y bore, ac a ddywedodd wrth dywysogion Balac, Ewch i'ch gwlad: oblegid yr ARGLWYDD a nacaodd adael i mi fyned gyda chwi.
14
A thywysogion Moab a godasant, ac a ddaethant at Balac; ac a ddywedasant, Nacaodd Balaam ddyfod gyda ni.
15
A Balac a anfonodd eilwaith fwy o dywysogion, anrhydeddusach na'r rhai hyn.
16
A hwy a ddaethant at Balaam; ac a ddywedasant wrtho, Fel hyn y dywed Balac mab Sippor; Atolwg, na luddier di rhag dyfod ataf:
17
Canys gan anrhydeddu y'th anrhydeddaf yn fawr; a'r hyn oll a ddywedech wrthyf, a wnaf: tyred dithau, atolwg, rhega i mi y bobl hyn.
18
A Balaam a atebodd ac a ddywedodd wrth weision Balac, Pe rhoddai Balac i mi arian ac aur lonaid ei dŷ, ni allwn fyned dros air yr ARGLWYDD fy NUW, i wneuthur na bychan na mawr.
19
Ond, atolwg, yn awr, arhoswch chwithau yma y nos hon; fel y caffwyf wybod beth a ddywedo yr ARGLWYDD wrthyf yn ychwaneg.
20
A daeth DUW at Balaam liw nos, a dywedodd wrtho, Os i'th gyrchu di y daeth y dynion hyn, cyfod, dos gyda hwynt: ac er hynny y peth a lefarwyf wrthyt, hynny a wnei di.
21
Yna y cododd Balaam yn fore, ac a gyfrwyodd ei asen, ac a aeth gyda thywysogion Moab.
22
A dig DUW a enynnodd, am iddo ef fyned: ac angel yr ARGLWYDD a safodd ar y ffordd i'w wrthwynebu ef; ac efe yn marchogaeth ar ei asen, a'i ddau lanc gydag ef.
23
A'r asen a welodd angel yr ARGLWYDD yn sefyll ar y ffordd, a'i gleddyf yn noeth yn ei law: a chiliodd yr asen allan o'r ffordd, ac a aeth i'r maes: a thrawodd Balaam yr asen, i'w throi i'r ffordd.
24
Ac angel yr ARGLWYDD a safodd ar lwybr y gwinllannoedd, a magwyr o'r ddeutu.
25
Pan welodd yr asen angel yr ARGLWYDD, yna hi a ymwasgodd at y fagwyr; ac a wasgodd droed Balaam wrth y fagwyr: ac efe a'i trawodd hi eilwaith.
26
Ac angel yr ARGLWYDD a aeth ymhellach; ac a safodd mewn lle cyfyng, lle nid oedd ffordd i gilio tua'r tu deau na'r tu aswy.
27
A gwelodd yr asen angel yr ARGLWYDD, ac a orweddodd dan Balaam: yna yr enynnodd dig Balaam, ac efe a drawodd yr asen â ffon.
28
A'r ARGLWYDD a agorodd safn yr asen; a hi a ddywedodd wrth Balaam, Beth a wneuthum i ti, pan drewaist fi y tair gwaith hyn?
29
A dywedodd Balaam wrth yr asen, Am i ti fy siomi. O na byddai gleddyf yn fy llaw; canys yn awr y'th laddwn.
30
A dywedodd yr asen wrth Balaam, Onid myfi yw dy asen, yr hon y marchogaist arnaf er pan ydwyf eiddot ti, hyd y dydd hwn? gan arfer a arferais i wneuthur i ti fel hyn? Ac efe a ddywedodd, Naddo.
31
A'r ARGLWYDD a agorodd lygaid Balaam; ac efe a welodd angel yr ARGLWYDD yn sefyll ar y ffordd, a'i gleddyf noeth yn ei law: ac efe a ogwyddodd ei ben, ac a ymgrymodd ar ei wyneb.
32
A dywedodd angel yr ARGLWYDD wrtho, Paham y trewaist dy asen y tair gwaith hyn? Wele, mi a ddeuthum allan yn wrthwynebydd i ti; canys cyfeiliornus yw'r ffordd hon yn fy ngolwg.
33
A'r asen a'm gwelodd; ac a giliodd rhagof y tair gwaith hyn: oni buasai iddi gilio rhagof, diau yn awr y lladdaswn di, ac a'i gadawswn hi yn fyw.
34
A Balaam a ddywedodd wrth angel yr ARGLWYDD, Pechais; oblegid ni wyddwn dy fod di yn sefyll ar y ffordd yn fy erbyn: ac yr awr hon, os drwg yw yn dy olwg, dychwelaf adref.
35
A dywedodd angel yr ARGLWYDD wrth Balaam, Dos gyda'r dynion; a'r gair a lefarwyf wrthyt, hynny yn unig a leferi. Felly Balaam a aeth gyda thywysogion Balac.
36
A chlybu Balac ddyfod Balaam: ac efe a aeth i'w gyfarfod ef i ddinas Moab; yr hon sydd ar ardal Arnon, yr hon sydd ar gwr eithaf y terfyn.
37
A dywedodd Balac wrth Balaam, Onid gan anfon yr anfonais atat i'th gyrchu? paham na ddeuit ti ataf? Oni allwn i dy wneuthur di yn anrhydeddus?
38
A dywedodd Balaam wrth Balac, Wele, mi a ddeuthum atat: gan allu a allaf fi lefaru dim yr awr hon? y gair a osodo DUW yn fy ngenau, hwnnw a lefaraf fi.
39
A Balaam a aeth gyda Balac; a hwy a ddaethant i Gaer‐Husoth.
40
A lladdodd Balac wartheg a defaid; ac a anfonodd ran i Balaam, ac i'r tywysogion oedd gydag ef.
41
A'r bore Balac a gymerodd Balaam, ac a aeth ag ef i fyny i uchelfeydd Baal; fel y gwelai oddi yno gwr eithaf y bobl.
← Chapter 21
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 23 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36