bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Numbers 8
Numbers 8
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 7
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 9 →
1
A'r ARGLWYDD a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,
2
Llefara wrth Aaron, a dywed wrtho, Pan oleuech y lampau, llewyrched y saith lamp ar gyfer y canhwyllbren.
3
Ac felly y gwnaeth Aaron; ar gyfer y canhwyllbren y goleuodd efe ei lampau ef, megis y gorchmynnodd yr ARGLWYDD wrth Moses.
4
Dyma waith y canhwyllbren: cyfanwaith o aur fydd hyd ei baladr, ie, hyd ei flodau cyfanwaith fydd; yn ôl y dull a ddangosodd yr ARGLWYDD i Moses, felly y gwnaeth efe y canhwyllbren.
5
Llefarodd yr ARGLWYDD hefyd wrth Moses, gan ddywedyd,
6
Cymer y Lefiaid o fysg meibion Israel, a glanha hwynt.
7
Ac fel hyn y gwnei iddynt i'w glanhau: taenella arnynt ddwfr puredigaeth, a gwnânt i'r ellyn fyned dros eu holl gnawd, a golchant eu gwisgoedd, ac felly ymlanhânt.
8
Yna cymerant fustach ieuanc a'i fwyd‐offrwm o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew; a bustach ieuanc arall a gymeri di yn aberth dros bechod.
9
A phâr i'r Lefiaid ddyfod o flaen pabell y cyfarfod; a chynnull holl gynulleidfa meibion Israel ynghyd.
10
A dwg y Lefiaid gerbron yr ARGLWYDD; a gosoded meibion Israel eu dwylo ar y Lefiaid.
11
Ac offrymed Aaron y Lefiaid gerbron yr ARGLWYDD, yn offrwm gan feibion Israel, fel y byddont hwy i wasanaethu gwasanaeth yr ARGLWYDD.
12
A gosoded y Lefiaid eu dwylo ar ben y bustych: ac offrwm dithau un yn bech‐aberth a'r llall yn offrwm poeth i'r ARGLWYDD, i wneuthur cymod dros y Lefiaid.
13
A gosod y Lefiaid gerbron Aaron, a cherbron ei feibion, ac offrwm hwynt yn offrwm i'r ARGLWYDD.
14
A neilltua'r Lefiaid o blith meibion Israel, a bydded y Lefiaid yn eiddof fi.
15
Wedi hynny aed y Lefiaid i mewn i wasanaethu pabell y cyfarfod; a glanha di hwynt, ac offryma hwynt yn offrwm.
16
Canys hwynt a roddwyd yn rhodd i mi o blith meibion Israel: yn lle agorydd pob croth, sef pob cyntaf‐anedig o feibion Israel, y cymerais hwynt i mi.
17
Canys i mi y perthyn pob cyntaf‐anedig ymhlith meibion Israel, o ddyn ac o anifail: er y dydd y trewais bobcyntaf‐anedig yng ngwlad yr Aifft, y sancteiddiais hwynt i mi fy hun.
18
A chymerais y Lefiaid yn lle pob cyntaf‐anedig o feibion Israel.
19
A rhoddais y Lefiaid yn rhodd i Aaron, ac i'w feibion, o blith meibion Israel, i wasanaethu gwasanaeth meibion Israel ym mhabell y cyfarfod, ac i wneuthur cymod dros feibion Israel; fel na byddo pla ar feibion Israel, pan ddelo meibion Israel yn agos at y cysegr.
20
A gwnaeth Moses ac Aaron, a holl gynulleidfa meibion Israel, i'r Lefiaid, yn ôl yr hyn oll a orchmynasai yr ARGLWYDD wrth Moses am y Lefiaid: felly y gwnaeth meibion Israel iddynt.
21
A'r Lefiaid a lanhawyd, ac a olchasant eu dillad: ac Aaron a'u hoffrymodd hwynt yn offrwm gerbron yr ARGLWYDD: a gwnaeth Aaron gymod drostynt i'w glanhau hwynt.
22
Ac wedi hynny y Lefiaid a ddaethant i wasanaethu gwasanaeth ym mhabell y cyfarfod, gerbron Aaron a'i feibion; megis y gorchmynnodd yr ARGLWYDD wrth Moses am y Lefiaid, felly y gwnaethant iddynt.
23
A'r ARGLWYDD a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,
24
Dyma'r hyn a berthyn i'r Lefiaid: o fab pum mlwydd ar hugain ac uchod, y deuant i filwrio milwriaeth yng ngwasanaeth pabell y cyfarfod.
25
Ac o fab dengmlwydd a deugain y caiff un ddychwelyd yn ei ôl o filwriaeth y gwasanaeth, fel na wasanaetho mwy.
26
Ond gwasanaethed gyda'i frodyr ym mhabell y cyfarfod, i oruchwylio; ac na wasanaethed wasanaeth: fel hyn y gwnei i'r Lefiaid yn eu goruchwyliaeth.
← Chapter 7
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 9 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36