bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Numbers 14
Numbers 14
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 13
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 15 →
1
Yna yr holl gynulleidfa a ddyrchafodd ei llef, ac a waeddodd; a'r bobl a wylasant y nos honno.
2
A holl feibion Israel a duchanasant yn erbyn Moses, ac yn erbyn Aaron: a'r holl gynulleidfa a ddywedasant wrthynt, O na buasem feirw yn nhir yr Aifft! neu, O na buasem feirw yn y diffeithwch hwn!
3
A phaham y mae yr ARGLWYDD yn ein dwyn ni i'r tir hwn, i gwympo ar y cleddyf? ein gwragedd a'n plant fyddant yn ysbail. Onid gwell i ni ddychwelyd i'r Aifft?
4
A dywedasant bawb wrth ei gilydd, Gosodwn ben arnom, a dychwelwn i'r Aifft.
5
Yna y syrthiodd Moses ac Aaron ar eu hwynebau gerbron holl gynulleidfa tyrfa meibion Israel.
6
Josua hefyd mab Nun, a Chaleb mab Jeffunne, dau o ysbiwyr y tir, a rwygasant eu dillad;
7
Ac a ddywedasant wrth holl dorf meibion Israel, gan ddywedyd, Y tir yr aethom drosto i'w chwilio, sydd dir da odiaeth.
8
Os yr ARGLWYDD sydd fodlon i ni, efe a'n dwg ni i'r tir hwn, ac a'i rhydd i ni; sef y tir sydd yn llifeirio o laeth a mêl.
9
Yn unig na wrthryfelwch yn erbyn yr ARGLWYDD, ac nac ofnwch bobl y tir; canys bara i ni ydynt: ciliodd eu hamddiffyn oddi wrthynt, a'r ARGLWYDD sydd gyda ni: nac ofnwch hwynt.
10
A'r holl dorf a ddywedasant am eu llabyddio hwynt â meini. A gogoniant yr ARGLWYDD a ymddangosodd ym mhabell y cyfarfod i holl feibion Israel.
11
A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, Pa hyd y digia'r bobl yma fi? a pha hyd y byddant heb gredu i mi, am yr holl arwyddion a wneuthum yn eu plith?
12
Trawaf hwynt â haint, a gwasgaraf hwy, a gwnaf di yn genhedlaeth fwy, a chryfach na hwynt‐hwy.
13
A dywedodd Moses wrth yr ARGLWYDD, Felly yr Eifftiaid a glyw, (canys o'u mysg hwynt y dygaist y bobl yma i fyny yn dy nerth,)
14
Ac a ddywedant i breswylwyr y tir hwn, (canys clywsant dy fod di, ARGLWYDD, ymysg y bobl yma, a'th fod di, ARGLWYDD, yn ymddangos iddynt wyneb yn wyneb, a bod dy gwmwl di yn aros arnynt, a'th fod di yn myned o'u blaen hwynt mewn colofn o gwmwl y dydd, ac mewn colofn dân y nos;)
15
Os lleddi y bobl yma fel un gŵr; yna y dywed y cenhedloedd y rhai a glywsant sôn amdanat, gan ddywedyd,
16
O eisiau gallu o'r ARGLWYDD ddwyn y bobl yma i'r tir y tyngodd efe iddynt, am hynny y lladdodd efe hwynt yn y diffeithwch.
17
Yr awr hon, gan hynny, mawrhaer, atolwg, nerth yr ARGLWYDD, fel y lleferaist, gan ddywedyd,
18
Yr ARGLWYDD sydd hwyrfrydig i ddig, ac aml o drugaredd, yn maddau anwiredd a chamwedd, a chan gyfiawnhau ni chyfiawnha efe yr euog; ymweled y mae ag anwiredd y tadau ar y plant, hyd y drydedd a'r bedwaredd genhedlaeth.
19
Maddau, atolwg, anwiredd y bobl yma, yn ôl dy fawr drugaredd, ac megis y maddeuaist i'r bobl hyn, o'r Aifft hyd yma.
20
A dywedodd yr ARGLWYDD, Maddeuais, yn ôl dy air:
21
Ond os byw fi, yr holl dir a lenwir o ogoniant yr ARGLWYDD.
22
Canys yr holl ddynion y rhai a welsant fy ngogoniant, a'm harwyddion a wneuthum yn yr Aifft, ac yn y diffeithwch ac a'm temtiasant y dengwaith hyn, ac ni wrandawsant ar fy llais,
23
Ni welant y tir y tyngais wrth eu tadau hwynt; sef y rhai oll a'm digiasant, nis gwelant ef:
24
Ond fy ngwas Caleb, am fod ysbryd arall gydag ef, ac iddo fy nghyflawn ddilyn, dygaf ef i'r tir y daeth iddo: a'i had a'i hetifedda ef.
25
(Ond y mae'r Amaleciaid a'r Canaaneaid yn trigo yn y dyffryn;) yfory trowch, ac ewch i'r diffeithwch, ar hyd ffordd y môr coch.
26
A'r ARGLWYDD a lefarodd wrth Moses, ac wrth Aaron, gan ddywedyd,
27
Pa hyd y cyd‐ddygaf â'r gynulleidfa ddrygionus hon sydd yn tuchan i'm herbyn? clywais duchan meibion Israel, y rhai sydd yn tuchan i'm herbyn.
28
Dywed wrthynt, Fel mai byw fi, medd yr ARGLWYDD, fel y llefarasoch yn fy nghlustiau, felly y gwnaf i chwi.
29
Yn y diffeithwch hwn y cwymp eich celaneddau: a'ch holl rifedigion trwy eich holl rif, o fab ugain mlwydd ac uchod, y rhai a duchanasoch yn fy erbyn,
30
Diau ni ddeuwch chwi i'r tir am yr hwn y codais fy llaw, am wneuthur i chwi breswylio ynddo, ond Caleb mab Jeffunne, a Josua mab Nun.
31
Ond eich plant chwi, y rhai y dywedasoch y byddent yn ysbail,hwynt‐hwy a ddygaf i'r wlad, a hwy a gânt adnabod y tir a ddirmygasoch chwi.
32
A'ch celaneddau chwi a gwympant yn y diffeithwch hwn.
33
A'ch plant chwi a fugeilia yn y diffeithwch ddeugain mlynedd, ac a ddygant gosb eich puteindra chwi, nes darfod eich celaneddau chwi yn y diffeithwch.
34
Yn ôl rhifedi'r dyddiau y chwiliasoch y tir, sef deugain niwrnod, (pob diwrnod am flwyddyn,) y dygwch eich anwireddau, sef deugain mlynedd; a chewch wybod toriad fy ngair i.
35
Myfi yr ARGLWYDD a leferais, diau y gwnaf hyn i'r holl gynulleidfa ddrygionus yma, sydd wedi ymgynnull i'm herbyn i: yn y diffeithwch hwn y darfyddant, ac yno y byddant feirw.
36
A'r dynion a anfonodd Moses i chwilio'r tir, y rhai a ddychwelasant, ac a wnaethant i'r holl dorf duchan yn ei erbyn ef, gan roddi allan anair am y tir;
37
Y dynion, meddaf, y rhai a roddasant allan anair drwg i'r tir, a fuant feirw o'r pla, gerbron yr ARGLWYDD.
38
Ond Josua mab Nun, a Chaleb mab Jeffunne, a fuant fyw o'r gwŷr hyn a aethant i chwilio y tir.
39
A Moses a lefarodd y geiriau hyn wrth holl feibion Israel: a'r bobl a alarodd yn ddirfawr.
40
A chodasant yn fore i fyned i ben y mynydd, gan ddywedyd, Wele ni, a ni a awn i fyny i'r lle am yr hwn y dywedodd yr ARGLWYDD: canys ni a bechasom.
41
A dywedodd Moses, Paham yr ydych fel hyn yn troseddu gair yr ARGLWYDD? a hyn ni lwydda.
42
Nac ewch i fyny; canys nid yw yr ARGLWYDD yn eich plith: rhag eich taro o flaen eich gelynion.
43
Canys yr Amaleciaid a'r Canaaneaid ydynt yno o'ch blaen chwi, a chwi a syrthiwch ar y cleddyf: canys am i chwi ddychwelyd oddi ar ôl yr ARGLWYDD, ni bydd yr ARGLWYDD gyda chwi.
44
Eto rhyfygasant fyned i ben y mynydd: ond arch cyfamod yr ARGLWYDD, a Moses, ni symudasant o ganol y gwersyll.
45
Yna y disgynnodd yr Amaleciaid a'r Canaaneaid, y rhai oedd yn preswylio yn y mynydd hwnnw, ac a'u trawsant, ac a'u difethasant hyd Horma.
← Chapter 13
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 15 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36