bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Numbers 11
Numbers 11
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 10
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 12 →
1
A'r bobl, fel tuchanwyr, oeddynt flin yng nghlustiau yr ARGLWYDD: a chlywodd yr ARGLWYDD hyn; a'i ddig a enynnodd; a thân yr ARGLWYDD a gyneuodd yn eu mysg hwynt, ac a ysodd gwr y gwersyll.
2
A llefodd y bobl ar Moses: a gweddïodd Moses ar yr ARGLWYDD; a'r tân a ddiffoddodd.
3
Ac efe a alwodd enw y lle hwnnw, Tabera: am gynnau o dân yr ARGLWYDD yn eu mysg hwy.
4
A'r lliaws cymysg yr hwn ydoedd yn eu mysg a flysiasant yn ddirfawr: a meibion Israel hefyd a ddychwelasant, ac a wylasant, ac a ddywedasant, Pwy a rydd i ni gig i'w fwyta?
5
Cof yw gennym y pysgod yr oeddem yn ei fwyta yn yr Aifft yn rhad, y cucumerau, a'r pompionau, a'r cennin, a'r winwyn, a'r garlleg:
6
Ond yr awr hon y mae ein heneidiau ni yn gwywo, heb ddim ond y manna yn ein golwg.
7
A'r manna hwnnw oedd fel had coriander, a'i liw fel lliw bdeliwm.
8
Y bobl a aethant o amgylch, ac a'i casglasant ac a'i malasant mewn melinau, neu a'i curasant mewn morter, ac a'i berwasant mewn peiriau, ac a'i gwnaethant yn deisennau: a'i flas ydoedd fel blas olew ir.
9
A phan ddisgynnai'r gwlith y nos ar y gwersyll, disgynnai'r manna arno ef.
10
A chlybu Moses y bobl yn wylo trwy eu tylwythau, bob un yn nrws ei babell: ac enynnodd dig yr ARGLWYDD yn fawr; a drwg oedd gan Moses.
11
Dywedodd Moses hefyd wrth yr ARGLWYDD, Paham y drygaist dy was? a phaham na chawn ffafr yn dy olwg, gan i ti roddi baich yr holl bobl hyn arnaf?
12
Ai myfi a feichiogais ar yr holl bobl hyn? ai myfi a'u cenhedlais, fel y dywedech wrthyf, Dwg hwynt yn dy fynwes, (megis y dwg tadmaeth y plentyn sugno,) i'r tir a addewaist trwy lw i'w tadau?
13
O ba le y byddai gennyf fi gig i'w roddi i'r holl bobl hyn? canys wylo y maent wrthyf, gan ddywedyd, Dod i ni gig i'w fwyta.
14
Ni allaf fi fy hunan arwain yr holl bobl hyn; canys rhy drwm ydyw i mi.
15
Ac os felly y gwnei i mi, atolwg, gan ladd lladd fi, os cefais ffafr yn dy olwg di; fel na welwyf fy nrygfyd.
16
A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, Casgl i mi ddengwr a thrigain o henuriaid Israel, y rhai a wyddost eu bod yn henuriaid y bobl, ac yn swyddogion arnynt; a dwg hwynt i babell y cyfarfod, a safant yno gyda thi.
17
Canys disgynnaf, a llefaraf wrthyt yno: a mi a gymeraf o'r ysbryd sydd arnat ti, ac a'i gosodaf arnynt hwy; felly y dygant gyda thi faich y bobl, fel na ddygech di ef yn unig.
18
Am hynny dywed wrth y bobl, Ymsancteiddiwch erbyn yfory, a chewch fwyta cig: canys wylasoch yng nghlustiau yr ARGLWYDD, gan ddywedyd, Pwy a ddyry i ni gig i'w fwyta? canys yr ydoedd yn dda arnom yn yr Aifft: am hynny y rhydd yr ARGLWYDD i chwi gig, a chwi a fwytewch.
19
Nid un dydd y bwytewch, ac nid dau, ac nid pump o ddyddiau, ac nid deg diwrnod, ac nid ugain diwrnod;
20
Ond hyd fis o ddyddiau, hyd oni ddêl allan o'ch ffroenau, a'i fod yn ffiaidd gennych: am i chwi ddirmygu'r ARGLWYDD yr hwn sydd yn eich plith, ac wylo ohonoch yn ei ŵydd ef, gan ddywedyd Paham y daethom allan o'r Aifft?
21
A dywedodd Moses, Chwe chan mil o wŷr traed yw y bobl yr ydwyf fi yn eu plith; a thi a ddywedi, Rhoddaf gig iddynt i'w fwyta fis o ddyddiau.
22
Ai y defaid a'r gwartheg a leddir iddynt, fel y byddo digon iddynt? ai holl bysg y môr a gesglir ynghyd iddynt, fel y byddo digon iddynt?
23
A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, A gwtogwyd llaw yr ARGLWYDD? yr awr hon y cei di weled a ddigwydd fy ngair i ti, ai na ddigwydd.
24
A Moses a aeth allan ac a draethodd eiriau yr ARGLWYDD wrth y bobl, ac a gasglodd y dengwr a thrigain o henuriaid y bobl, ac a'u gosododd hwynt o amgylch y babell.
25
Yna y disgynnodd yr ARGLWYDD mewn cwmwl, ac a lefarodd wrtho; ac a gymerodd o'r ysbryd oedd arno, ac a'i rhoddes i'r deg hynafgwr a thrigain. A thra y gorffwysai'r ysbryd arnynt, y proffwydent, ac ychwaneg ni wnaent.
26
A dau o'r gwŷr a drigasant yn y gwersyll, (enw un ydoedd Eldad, enw y llall Medad:) a gorffwysodd yr ysbryd arnynt hwy, am eu bod hwy o'r rhai a ysgrifenasid; ond nid aethant i'r babell, eto proffwydasant yn y gwersyll.
27
A rhedodd llanc, a mynegodd i Moses, ac a ddywedodd, Y mae Eldad a Medad yn proffwydo yn y gwersyll.
28
A Josua mab Nun, gweinidog Moses o'i ieuenctid, a atebodd ac a ddywedodd Moses, fy arglwydd, gwahardd iddynt.
29
A dywedodd Moses wrtho, Ai cenfigennu yr ydwyt ti drosof fi? O na byddai holl bobl yr ARGLWYDD yn broffwydi, a rhoddi o'r ARGLWYDD ei ysbryd arnynt!
30
A Moses a aeth i'r gwersyll, efe a henuriaid Israel.
31
Ac fe aeth gwynt oddi wrth yr ARGLWYDD, ac a ddug soflieir oddi wrth y môr, ac a'u taenodd wrth y gwersyll, megis taith diwrnod ar y naill du, a thaith diwrnod ar y tu arall o amgylch y gwersyll, a hynny ynghylch dau gufydd, ar wyneb y ddaear.
32
Yna y cododd y bobl y dydd hwnnw oll, a'r nos oll, a'r holl ddydd drannoeth, ac a gasglasant y soflieir: yr hwn a gasglodd leiaf, a gasglodd ddeg homer: a chan daenu y taenasant hwynt iddynt eu hunain o amgylch y gwersyll.
33
A'r cig oedd eto rhwng eu dannedd hwynt heb ei gnoi, pan enynnodddigofaintyr ARGLWYDD yn erbyn y bobl; a'r ARGLWYDD a drawodd y bobl â phla mawr iawn.
34
Ac efe a alwodd enw y lle hwnnw Cibroth‐Hattaafa; am iddynt gladdu yno y bobl a flysiasent.
35
O Feddau y blys yr aeth y bobl i Haseroth; ac arosasant yn Haseroth.
← Chapter 10
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 12 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36