bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Numbers 3
Numbers 3
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 4 →
1
Adyma genedlaethau Aaron a Moses, ar y dydd y llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses ym mynydd Sinai.
2
Dyma enwau meibion Aaron: Nadab y cyntaf‐anedig, ac Abihu, Eleasar, ac Ithamar.
3
Dyma enwau meibion Aaron, yr offeiriaid eneiniog, y rhai a gysegrodd efe i offeiriadu.
4
A marw a wnaeth Nadab ac Abihu gerbron yr ARGLWYDD, pan offrymasant dân dieithr gerbron yr ARGLWYDD, yn anialwch Sinai; a meibion nid oedd iddynt: ac offeiriadodd Eleasar ac Ithamar yng ngŵydd Aaron eu tad.
5
A'r ARGLWYDD a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,
6
Nesâ lwyth Lefi, a gwna iddo sefyll gerbron Aaron yr offeiriad, fel y gwasanaethont ef.
7
A hwy a gadwant ei gadwraeth ef, a chadwraeth yr holl gynulleidfa, o flaen pabell y cyfarfod, i wneuthur gwasanaeth y tabernacl.
8
A chadwant holl ddodrefn pabell y cyfarfod, a chadwraeth meibion Israel, i wasanaethu gwasanaeth y tabernacl.
9
A thi a roddi'r Lefiaid i Aaron, ac i'w feibion: y rhai hyn sydd wedi eu rhoddi yn rhodd iddo ef o feibion Israel.
10
Ac urdda di Aaron a'i feibion i gadw eu hoffeiriadaeth: a'r dieithrddyn a ddelo yn agos, a roddir i farw.
11
Llefarodd yr ARGLWYDD hefyd wrth Moses, gan ddywedyd,
12
Ac wele, mi a gymerais y Lefiaid o blith meibion Israel, yn lle pob cyntaf‐anedig sef pob cyntaf a agoro'r groth o feibion Israel; am hynny y Lefiaid a fyddant eiddof fi:
13
Canys eiddof fi yw pob cyntaf‐anedig Ar y dydd y trewais y cyntaf‐anedig yn nhir yr Aifft, cysegrais i mi fy hun bob cyntaf‐anedig yn Israel o ddyn ac anifail: eiddof fi ydynt: myfi yw yr ARGLWYDD.
14
Yr ARGLWYDD hefyd a lefarodd wrth Moses yn anialwch Sinai, gan ddywedyd
15
Cyfrif feibion Lefi yn ôl tŷ eu tadau, trwy eu teuluoedd: cyfrif hwynt, bob gwryw, o fab misyriad ac uchod.
16
A Moses a'u cyfrifodd hwynt wrth air yr ARGLWYDD, fel y gorchmynasid iddo.
17
A'r rhai hyn oedd feibion Lefi wrth eu henwau; Gerson, a Cohath, a Merari.
18
A dyma enwau meibion Gerson, yn ôl eu teuluoedd; Libni a Simei.
19
A meibion Cohath, yn ôl eu teuluoedd Amram, Ishar, Hebron, ac Ussiel.
20
A meibion Merari, yn ôl eu teuluoedd Mahli a Musi. Dyma deuluoedd Lefi, wrth dŷ eu tadau.
21
O Gerson y daeth tylwyth y Libniaid, a thylwyth y Simiaid: dyma deuluoedd y Gersoniaid.
22
Eu rhifedigion hwynt, dan rif pob gwryw o fab misyriad ac uchod, eu rhifedigion, meddaf, oedd saith mil a phum cant.
23
Teuluoedd y Gersoniaid awersyllantar y tu ôl i'r tabernacl tua'r gorllewin.
24
A phennaeth tŷ tad y Gersoniaid fydd Eliasaff mab Lael.
25
A chadwraeth meibion Gerson, ym mhabell y cyfarfod, fydd y tabernacl, a'r babell, ei tho hefyd, a chaeadlen drws pabell y cyfarfod,
26
A llenni'r cynteddfa, a chaeadlen drws y cynteddfa, yr hwn sydd ynghylch y tabernacl, a'r allor o amgylch, a'i rhaffau i'w holl wasanaeth.
27
Ac o Cohath y daeth tylwyth yr Amramiaid, a thylwyth yr Ishariaid, a thylwyth yr Hebroniaid, a thylwyth yr Ussieliaid: dyma dylwyth y Cohathiaid.
28
Rhifedi yr holl wrywiaid, o fab misyriad ac uchod, oedd wyth mil a chwe chant, yn cadw cadwraeth y cysegr.
29
Teuluoedd meibion Cohath awersyllantar ystlys y tabernacl tua'r deau.
30
A phennaeth tŷ tad tylwyth y Cohathiaid fydd Elisaffan mab Ussiel.
31
A'u cadwraeth hwynt fydd yr arch, a'r bwrdd, a'r canhwyllbren, a'r allorau, a llestri'r cysegr, y rhai y gwasanaethant â hwynt, a'r gaeadlen, a'i holl wasanaeth.
32
A phennaf ar benaethiaid y Lefiaid fydd Eleasar mab Aaron yr offeiriad; a llywodraeth ar geidwaid cadwraeth y cysegr fydd iddo ef.
33
O Merari y daeth tylwyth y Mahliaid, a thylwyth y Musiaid: dyma dylwyth Merari.
34
A'u rhifedigion hwynt, wrth gyfrif pob gwryw, o fab misyriad ac uchod, oedd chwe mil a deucant.
35
A phennaeth tŷ tad tylwyth Merari fydd Suriel mab Abihael. Ar ystlys y tabernacl y gwersyllant tua'r gogledd.
36
Ac yng nghadwraeth meibion Merari y bydd ystyllod y tabernacl, a'i drosolion, a'i golofnau, a'i forteisiau, a'i holl offer, a'i holl wasanaeth,
37
A cholofnau'r cynteddfa o amgylch, a'u morteisiau, a'u hoelion, a'u rhaffau.
38
A'r rhai a wersyllant o flaen y tabernacl tua'r dwyrain, o flaen pabell y cyfarfod tua chodiad haul, fydd Moses, ac Aaron a'i feibion, y rhai a gadwant gadwraeth y cysegr, a chadwraeth meibion Israel: a'r dieithr a ddelo yn agos, a roddir i farwolaeth.
39
Holl rifedigion y Lefiaid, y rhai a rifodd Moses ac Aaron, yn ôl gair yr ARGLWYDD, trwy eu teuluoedd, sef pob gwryw o fab misyriad ac uchod, oedd ddwy fil ar hugain.
40
A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, Cyfrif bob cyntaf‐anedig gwryw o feibion Israel, o fab misyriad ac uchod, a chymer rifedi eu henwau hwynt.
41
A chymer y Lefiaid i mi, (myfi yw yr ARGLWYDD,) yn lle holl gyntaf‐anedig meibion Israel, ac anifeiliaid y Lefiaid yn lle pob cyntaf‐anedig o anifeiliaid meibion Israel.
42
A Moses a rifodd, megis y gorchmynnodd yr ARGLWYDD iddo, bobcyntaf‐anedig o feibion Israel.
43
A'r rhai cyntaf‐anedig oll, o rai gwryw, dan rif eu henwau, o fab misyriad ac uchod, o'u rhifedigion hwynt, oedd ddwy fil ar hugain a dau cant a thri ar ddeg a thrigain.
44
A llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses gan ddywedyd,
45
Cymer y Lefiaid yn lle pob cyntaf‐anedig o feibion Israel, ac anifeiliaid y Lefiaid yn lle eu hanifeiliaid hwynt; a bydded y Lefiaid i mi: myfi yw yr ARGLWYDD.
46
Ac am y rhai sydd i'w prynu o'r tri ar ddeg a thrigain a deucant, o gyntaf‐anedig meibion Israel, y rhai sydd dros ben y Lefiaid;
47
Cymer bum sicl am bob pen; yn ôl sicl y cysegr y cymeri. Ugain gera fydd y sicl.
48
A dod yr arian, gwerth y rhai sydd yn ychwaneg ohonynt, i Aaron ac i'w feibion.
49
A chymerodd Moses arian y prynedigaeth, y rhai oedd dros ben y rhai a brynwyd am y Lefiaid:
50
Gan gyntaf‐anedig meibion Israel y cymerodd efe yr arian; pump a thrigain a thri chant a mil, o siclau y cysegr.
51
A Moses a roddodd arian y prynedigion i Aaron ac i'w feibion, yn ôl gair yr ARGLWYDD, megis y gorchmynasai yr ARGLWYDD i Moses.
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 4 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36