bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Numbers 34
Numbers 34
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 33
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 35 →
1
A llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses, gan ddywedyd,
2
Gorchymyn i feibion Israel, a dywed wrthynt, Pan ddeloch chwi i dir Canaan, (dyma'r tir a syrth i chwi yn etifeddiaeth, sef gwlad Canaan a'i therfynau,)
3
A'ch tu deau fydd o anialwch Sin, gerllaw Edom: a therfyn y deau fydd i chwi o gwr y môr heli tua'r dwyrain.
4
A'ch terfyn a amgylchyna o'r deau i riw Acrabbim, ac a â trosodd i Sin; a'i fynediad allan fydd o'r deau i Cades‐Barnea, ac a â allan i Hasar‐Adar, a throsodd i Asmon:
5
A'r terfyn a amgylchyna o Asmon i afon yr Aifft; a'i fynediad ef allan a fydd tua'r gorllewin.
6
A therfyn y gorllewin fydd y môr mawr i chwi; sef y terfyn hwn fydd i chwi yn derfyn gorllewin.
7
A hwn fydd terfyn y gogledd i chwi: o'r môr mawr y tueddwch i fynydd Hor.
8
O fynydd Hor y tueddwch nes dyfod i Hamath; a mynediaid y terfyn fydd i Sedad.
9
A'r terfyn a â allan tua Siffron; a'i ddiwedd ef fydd yn Hasar‐Enan: hwn fydd terfyn y gogledd i chwi.
10
A therfynwch i chwi yn derfyn y dwyrain o Hasar‐Enan i Seffam.
11
Ac aed y terfyn i waered o Seffam i Ribla, ar du dwyrain Ain; a disgynned y terfyn, ac aed hyd ystlys môr Cinereth tua'r dwyrain.
12
A'r terfyn a â i waered tua'r Iorddonen; a'i ddiwedd fydd y môr heli. Dyma'r tir fydd i chwi a'i derfynau oddi amgylch.
13
A gorchmynnodd Moses i feibion Israel, gan ddywedyd, Dyma'r tir a rennwch yn etifeddiaethau wrth goelbren, yr hwn a orchmynnodd yr ARGLWYDD ei roddi i'r naw llwyth, ac i'r hanner llwyth.
14
Canys cymerasai llwyth meibion Reuben yn ôl tŷ eu tadau, a llwyth meibion Gad yn ôl tŷ eu tadau, a hanner llwyth meibion Gad yn ôl tŷ eu tadau, a hanner llwyth Manasse, cymerasant, meddaf, eu hetifeddiaeth.
15
Dau lwyth a hanner llwyth a gymerasant eu hetifeddiaeth o'r tu yma i'r Iorddonen, yn agos i Jericho, tua'r dwyrain a chodiad haul.
16
Llefarodd yr ARGLWYDD hefyd wrth Moses, gan ddywedyd,
17
Dyma enwau y gwŷr a rannant y tir yn etifeddiaethau i chwi: Eleasar yr offeiriad, a Josua mab Nun.
18
Ac un pennaeth o bob llwyth a gymerwch, i rannu y tir yn etifeddiaethau.
19
Ac fel dyma enwau y gwŷr: o lwyth Jwda, Caleb mab Jeffunne.
20
Ac o lwyth meibion Simeon, Semuel mab Ammihud.
21
O lwyth Benjamin, Elidad mab Cislon.
22
A Bucci mab Jogli, yn bennaeth o lwyth meibion Dan.
23
O feibion Joseff, Haniel mab Effod, yn bennaeth dros lwyth meibion Manasse.
24
Cemuel hefyd mab Sifftan, yn bennaeth dros lwyth meibion Effraim.
25
Ac Elisaffan mab Pharnach, yn bennaeth dros lwyth meibion Sabulon.
26
Paltiel hefyd mab Assan, yn bennaeth dros lwyth meibion Issachar.
27
Ac Ahihud mab Salomi, yn bennaeth dros lwyth meibion Aser.
28
Ac yn bennaeth dros lwyth meibion Nafftali, Pedahel mab Ammihud.
29
Dyma y rhai a orchmynnodd yr ARGLWYDD iddynt rannu etifeddiaethau i feibion Israel, yn nhir Canaan.
← Chapter 33
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 35 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36