bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Numbers 18
Numbers 18
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 17
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 19 →
1
Adywedodd yr ARGLWYDD wrth Aaron, Tydi a'th feibion, a thylwyth dy dad gyda thi, a ddygwch anwiredd y cysegr: a thi a'th feibion gyda thi a ddygwch anwiredd eich offeiriadaeth.
2
A dwg hefyd gyda thi dy frodyr o lwyth Lefi, sef llwyth dy dad, i lynu wrthyt ti, ac i'th wasanaethu: tithau a'th feibion gyda thi a wasanaethwch gerbron pabell y dystiolaeth.
3
A hwy a gadwant dy gadwraeth di, a chadwraeth yr holl babell: ond na ddeuant yn agos at ddodrefn y cysegr, nac at yr allor, rhag eu marw hwynt, a chwithau hefyd.
4
Ond hwy a lynant wrthyt, ac a oruchwyliant babell y cyfarfod, yn holl wasanaeth y babell: ac na ddeued y dieithr yn agos atoch.
5
Eithr cedwch chwi oruchwyliaeth y cysegr, a goruchwyliaeth yr allor; fel na byddo digofaint mwy yn erbyn meibion Israel.
6
Ac wele, mi a gymerais dy frodyr di, y Lefiaid, o fysg meibion Israel: i ti y rhoddwyd hwynt, megis rhodd i'r ARGLWYDD, i wasanaethu gwasanaeth pabell y cyfarfod.
7
Tithau a'th feibion gyda thi a gedwch eich offeiriadaeth; ynghylch pob peth a berthyn i'r allor, ac o fewn y llen wahan, y gwasanaethwch: yn wasanaeth rhodd y rhoddais eich offeiriadaeth i chwi; a'r dieithr a ddelo yn agos, a leddir.
8
A llefarodd yr ARGLWYDD wrth Aaron, Wele, mi a roddais i ti hefyd oruchwyliaeth fy offrymau dyrchafael, o holl gysegredig bethau meibion Israel; rhoddais hwynt i ti, oherwydd yr eneiniad, ac i'th feibion, trwy ddeddf dragwyddol.
9
Hyn fydd i ti o'r pethau sancteiddiolaf a gedwir allan o'r tân: eu holl offrymau hwynt, eu holl fwyd‐offrwm, a'u holl aberthau dros bechod, a'u holl aberthau dros gamwedd, y rhai a dalant i mi, fyddant sancteiddiolaf i ti, ac i'th feibion.
10
O fewn y cysegr sanctaidd y bwytei ef; pob gwryw a'i bwyty ef: cysegredig fydd efe i ti.
11
Hyn hefyd fydd i ti; offrwm dyrchafael eu rhoddion hwynt, ynghyd â holl offrymau cyhwfan meibion Israel: i ti y rhoddais hwynt, ac i'th feibion, ac i'th ferched gyda thi, trwy ddeddf dragwyddol pob un glân yn dy dŷ a gaiff fwyta ohono.
12
Holl oreuon yr olew, a holl oreuon y gwin a'r ŷd, sef eu blaenffrwyth hwynt yr hwn a roddant i'r ARGLWYDD, a roddais i ti.
13
Blaenffrwyth pob dim yn eu tir hwynt yr hwn a ddygant i'r ARGLWYDD, fydd eiddot ti: pob un glân yn dy dŷ a fwyty ohono.
14
Pob diofryd‐beth yn Israel fydd eiddot ti.
15
Pob peth a agoro'r groth o bob cnawd yr hwn a offrymir i'r ARGLWYDD, o ddyn ac o anifail, fydd eiddot ti: ond gan brynu y pryni bob cyntaf‐anedig i ddyn; a phrŷn y cyntaf‐anedig i'r anifail aflan.
16
A phâr brynu y rhai a bryner ohonot o fab misyriad, yn dy bris di, er pum sicl o arian, wrth sicl y cysegr: ugain gera yw hynny.
17
Ond na phrŷn y cyntaf‐anedig o eidion, neu gyntaf‐anedig dafad, neu gyntaf‐anedig gafr; sanctaidd ydynt hwy: eu gwaed a daenelli ar yr allor, a'u gwêr a losgi yn aberth tanllyd, o arogl peraidd i'r ARGLWYDD.
18
Ond eu cig fydd eiddot ti; fel parwyden y cyhwfan, ac fel yr ysgwyddog ddeau, y mae yn eiddot ti.
19
Holl offrymau dyrchafael y pethau sanctaidd, y rhai a offrymo meibion Israel i'r ARGLWYDD, a roddais i ti, ac i'th feibion, ac i'th ferched gyda thi, trwy ddeddf dragwyddol: cyfamod halen tragwyddol fydd hyn, gerbron yr ARGLWYDD, i ti, ac i'th had gyda thi.
20
A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Aaron, Na fydded i ti etifeddiaeth yn eu tir hwynt, ac na fydded i ti ran yn eu mysg hwynt: myfi yw dy ran di, a'th etifeddiaeth, ymysg meibion Israel.
21
Ac wele, mi a roddais i feibion Lefi bob degwm yn Israel, yn etifeddiaeth, am eu gwasanaeth y maent yn ei wasanaethu sef gwasanaeth pabell y cyfarfod.
22
Ac na ddeued meibion Israel mwyach yn agos i babell y cyfarfod; rhag iddynt ddwyn pechod, a marw.
23
Ond gwasanaethed y Lefiaid wasanaeth pabell y cyfarfod, a dygant eu hanwiredd: deddf dragwyddol fydd hyn trwy eich cenedlaethau, nad etifeddant hwy etifeddiaeth ymysg meibion Israel.
24
Canys degwm meibion Israel, yr hwn a offrymant yn offrwm dyrchafael i'r ARGLWYDD, a roddais i'r Lefiaid yn etifeddiaeth: am hynny y dywedais wrthynt, nad etifeddent etifeddiaeth ymysg meibion Israel.
25
A llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses, gan ddywedyd,
26
Llefara hefyd wrth y Lefiaid, a dywed wrthynt, Pan gymeroch gan feibion Israel y degwm a roddais i chwi yn etifeddiaeth oddi wrthynt; yna offrymwch o hynny offrwm dyrchafael i'r ARGLWYDD, sef degwm o'r degwm.
27
A chyfrifir i chwi eich offrwm dyrchafael, fel yr ŷd o'r ysgubor, ac fel cyflawnder o'r gwinwryf.
28
Felly yr offrymwch chwithau hefyd offrwm dyrchafael i'r ARGLWYDD, o'ch holl ddegymau a gymeroch gan feibion Israel; a rhoddwch o hynny ddyrchafael‐offrwm yr ARGLWYDD i Aaron yr offeiriad.
29
O'ch holl roddion offrymwch bob offrwm dyrchafael yr ARGLWYDD o bob gorau ohono, sef y rhan gysegredig, allan ohono ef.
30
A dywed wrthynt, Pan ddyrchafoch ei oreuon allan ohono, cyfrifir i'r Lefiaid fel toreth yr ysgubor, a thoreth y gwinwryf.
31
A bwytewch ef ym mhob lle, chwi a'ch tylwyth: canys gwobr yw efe i chwi, am eich gwasanaeth ym mhabell y cyfarfod.
32
Ac ni ddygwch bechod o'i herwydd, gwedi y dyrchafoch ei oreuon ohono: na halogwch chwithau bethau sanctaidd meibion Israel; fel na byddoch feirw.
← Chapter 17
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 19 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36