bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Numbers 30
Numbers 30
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 29
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 31 →
1
A llefarodd Moses wrth benaethiaid llwythau meibion Israel, gan ddywedyd, Dyma'r peth a orchmynnodd yr ARGLWYDD.
2
Os adduneda gŵr adduned i'r ARGLWYDD, neu dyngu llw, gan rwymo rhwymedigaeth ar ei enaid ei hun; na haloged ei air: gwnaed yn ôl yr hyn oll a ddêl allan o'i enau.
3
Ac os adduneda benyw adduned i'r ARGLWYDD, a'i rhwymo ei hun â rhwymedigaeth yn nhŷ ei thad, yn ei hieuenctid;
4
A chlywed o'i thad ei hadduned, a'i rhwymedigaeth yr hwn a rwymodd hi ar ei henaid, a thewi o'i thad wrthi: yna safed ei holl addunedau; a phob rhwymedigaeth a rwymodd hi ar ei henaid, a saif.
5
Ond os ei thad a bair iddi dorri, ar y dydd y clywo efe; o'i holl addunedau, a'i rhwymedigaethau y rhai a rwymodd hi ar ei henaid, ni saif un: a maddau yr ARGLWYDD iddi, o achos mai ei thad a barodd iddi dorri.
6
Ac os hi oedd yn eiddo gŵr, pan addunedodd, neu pan lefarodd o'i gwefusau beth a rwymo ei henaid hi;
7
A chlywed o'i gŵr, a thewi wrthi y dydd y clywo: yna safed ei haddunedau; a'i rhwymedigaethau y rhai a rwymodd hi ar ei henaid, a safant.
8
Ond os ei gŵr, ar y dydd y clywo, a bair iddi dorri; efe a ddiddyma ei hadduned yr hwn fydd arni, a thraethiad ei gwefusau yr hwn a rwymodd hi ar ei henaid: a'r ARGLWYDD a faddau iddi.
9
Ond adduned y weddw, a'r ysgaredig, yr hyn oll a rwymo hi ar ei henaid, a saif arni.
10
Ond os yn nhŷ ei gŵr yr addunedodd, neu y rhwymodd hi rwymedigaeth ar ei henaid trwy lw;
11
A chlywed o'i gŵr, a thewi wrthi, heb beri iddi dorri: yna safed ei holl addunedau; a phob rhwym a rwymodd hi ar ei henaid, a saif.
12
Ond os ei gŵr gan ddiddymu a'u diddyma hwynt y dydd y clywo; ni saif dim a ddaeth allan o'i gwefusau, o'i haddunedau, ac o rwymedigaeth ei henaid: ei gŵr a'u diddymodd hwynt; a'r ARGLWYDD a faddau iddi.
13
Pob adduned, a phob rhwymedigaeth llw i gystuddio'r enaid, ei gŵr a'i cadarnha, a'i gŵr a'i diddyma.
14
Ac os ei gŵr gan dewi a dau wrthi o ddydd i ddydd; yna y cadarnhaodd efe ei holl addunedau, neu ei holl rwymedigaethau y rhai oedd arni: cadarnhaodd hwynt, pan dawodd wrthi, y dydd y clybu efe hwynt.
15
Ac os efe gan ddiddymu a'u diddyma hwynt wedi iddo glywed; yna efe a ddwg ei hanwiredd hi.
16
Dyma y deddfau a orchmynnodd yr ARGLWYDD wrth Moses, rhwng gŵr a'i wraig, a rhwng tad a'i ferch, yn ei hieuenctid yn nhŷ ei thad.
← Chapter 29
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 31 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36