bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Numbers 24
Numbers 24
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 23
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 25 →
1
Pan welodd Balaam mai da oedd yng ngolwg yr ARGLWYDD fendithio Israel; nid aeth efe, megis o'r blaen, i gyrchu dewiniaeth; ond gosododd ei wyneb tua'r anialwch.
2
A chododd Balaam ei lygaid: ac wele Israel yn pebyllio yn ôl ei lwythau: a daeth ysbryd DUW arno ef.
3
Ac efe a gymerodd ei ddameg, ac a ddywedodd, Balaam mab Beor a ddywed, a'r gŵr a agorwyd ei lygaid, a ddywedodd;
4
Gwrandawydd geiriau DUW a ddywedodd yr hwn a welodd weledigaeth yr Hollalluog, yr hwn a syrthiodd, ac a agorwyd ei lygaid:
5
Mor hyfryd yw dy bebyll di, O Jacob! dy gyfanheddau di, O Israel!
6
Ymestynnant fel dyffrynnoedd, ac fel gerddi wrth afon, fel aloewydd a blannodd yr ARGLWYDD, fel y cedrwydd wrth ddyfroedd.
7
Efe a dywallt ddwfr o'i ystenau, a'i had fydd mewn dyfroedd lawer, a'i frenin a ddyrchefir yn uwch nag Agag, a'i frenhiniaeth a ymgyfyd.
8
DUW a'i dug ef allan o'r Aifft; megis nerth unicorn sydd iddo: efe a fwyty y cenhedloedd ei elynion, ac a ddryllia eu hesgyrn, ac â'i saethau y gwana efe hwynt.
9
Efe a gryma, ac a orwedd fel llew, ac fel llew mawr: pwy a'i cyfyd ef? Bendigedig fydd dy fendithwyr, a melltigedig dy felltithwyr.
10
Ac enynnodd dig Balac yn erbyn Balaam; ac efe a drawodd ei ddwylo ynghyd. Dywedodd Balac hefyd wrth Balaam, I regi fy ngelynion y'th gyrchais; ac wele, ti gan fendithio a'u bendithiaist y tair gwaith hyn.
11
Am hynny yn awr ffo i'th fangre dy hun: dywedais, gan anrhydeddu y'th anrhydeddwn; ac wele, ataliodd yr ARGLWYDD di oddi wrth anrhydedd.
12
A dywedodd Balaam wrth Balac, Oni leferais wrth dy genhadau a anfonaist ataf, gan ddywedyd,
13
Pe rhoddai Balac i mi arian ac aur lonaid ei dŷ, ni allwn droseddu gair yr ARGLWYDD, i wneuthur da neu ddrwg o'm meddwl fy hun: yr hyn a lefaro yr ARGLWYDD, hynny a lefaraf fi?
14
Ond yr awr hon, wele fi yn myned at fy mhobl: tyred, mi a fynegaf i ti yr hyn a wna'r bobl hyn i'th bobl di yn y dyddiau diwethaf.
15
Ac efe a gymerth ei ddameg, ac a ddywedodd, Balaam mab Beor a ddywed, a'r gŵr a agorwyd ei lygaid a ddywed;
16
Dywedodd gwrandawydd geiriau DUW, gwybedydd gwybodaeth y Goruchaf, a gweledydd gweledigaeth yr Hollalluog, yr hwn a syrthiodd, ac yr agorwyd ei lygaid:
17
Gwelaf ef, ac nid yr awr hon; edrychaf arno, ond nid o agos: daw seren o Jacob, a chyfyd teyrnwialen o Israel, ac a ddryllia gonglau Moab, ac a ddinistria holl feibion Seth.
18
Ac Edom a feddiennir, Seir hefyd a berchenogir gan ei elynion; ac Israel a wna rymuster.
19
Ac arglwyddiaetha un o Jacob, ac a ddinistria y gweddill o'r ddinas.
20
A phan edrychodd ar Amalec, efe a gymerodd ei ddameg, ac a ddywedodd, Dechrau y cenhedloedd yw Amalec; a'i ddiwedd fydd darfod amdano byth.
21
Edrychodd hefyd ar y Ceneaid; ac a gymerodd ei ddameg, ac a ddywedodd, Cadarn yw dy annedd; gosod yr wyt dy nyth yn y graig.
22
Anrheithir y Ceneaid, hyd oni'th gaethiwo Assur.
23
Ac efe a gymerodd ei ddameg, ac a ddywedodd, Och! pwy fydd byw pan wnelo DUW hyn?
24
Llongau hefyd o derfynau Cittim a orthrymant Assur, ac a orthrymant Eber; ac yntau a dderfydd amdano byth.
25
A chododd Balaam ac a aeth, ac a ddychwelodd adref: a Balac a aeth hefyd i'w ffordd yntau.
← Chapter 23
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 25 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36