bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Numbers 9
Numbers 9
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 8
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 10 →
1
A'r ARGLWYDD a lefarodd wrth Moses yn anialwch Sinai, yn yr ail flwyddyn wedi eu dyfod hwynt allan o dir yr Aifft, ar y mis cyntaf, gan ddywedyd,
2
Cadwed meibion Israel y Pasg hefyd yn ei dymor.
3
Ar y pedwerydd dydd ar ddeg o'r mis hwn, yn y cyfnos, y cedwch ef yn ei dymor: yn ôl ei holl ddeddfau, ac yn ôl ei holl ddefodau, y cedwch ef.
4
A llefarodd Moses wrth feibion Israel am gadw y Pasg.
5
A chadwasant y Pasg ar y mis cyntaf, ar y pedwerydd dydd ar ddeg o'r mis, yn y cyfnos, yn anialwch Sinai: yn ôl yr hyn oll a orchmynasai yr ARGLWYDD wrth Moses, felly y gwnaeth meibion Israel.
6
Ac yr oedd dynion, y rhai oedd wedi eu halogi wrth gelain dyn, fel na allent gadw y Pasg ar y dydd hwnnw: a hwy a ddaethant gerbron Moses, a cherbron Aaron, ar y dydd hwnnw.
7
A'r dynion hynny a ddywedasant wrtho, Yr ydym ni wedi ein halogi wrth gorff dyn marw: paham y'n gwaherddir rhag offrymu offrwm i'r ARGLWYDD yn ei dymor ymysg meibion Israel?
8
A dywedodd Moses wrthynt, Sefwch, a mi a wrandawaf beth a orchmynno'r ARGLWYDD o'ch plegid.
9
A'r ARGLWYDD a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,
10
Llefara wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Pan fyddo neb wedi ei halogi gan gorff marw, neu neb ohonoch neu o'ch hiliogaeth mewn ffordd bell, eto cadwed Basg i'r ARGLWYDD.
11
Ar y pedwerydd dydd ar ddeg o'r ail fis. yn y cyfnos, y cadwant ef: ynghyd â bara croyw a dail chwerwon y bwytânt ef.
12
Na weddillant ddim ohono hyd y bore, ac na thorrant asgwrn ohono: yn ôl holl ddeddf y Pasg y cadwant ef.
13
A'r gŵr a fyddo glân, ac heb fod mewn taith, ac a beidio â chadw y Pasg, torrir ymaith yr enaid hwnnw o fysg ei bobl, am na offrymodd offrwm yr ARGLWYDD yn ei dymor: ei bechod a ddwg y gŵr hwnnw.
14
A phan ymdeithio dieithr gyda chwi, ac ewyllysio cadw Pasg i'r ARGLWYDD; fel y byddo deddf y Pasg a'i ddefod, felly y ceidw: yr un ddeddf fydd i chwi, sef i'r dieithr ac i'r un fydd â'i enedigaeth o'r wlad.
15
Ac ar y dydd y codwyd y tabernacl, y cwmwl a gaeodd am y tabernacl dros babell y dystiolaeth; a'r hwyr yr ydoedd ar y tabernacl megis gwelediad tân hyd y bore.
16
Felly yr ydoedd yn wastadol; y cwmwl a gaeai amdano y dydd, a'r gwelediad tân y nos.
17
A phan gyfodai'r cwmwl oddi ar y babell, wedi hynny y cychwynnai meibion Israel: ac yn y lle yr arhosai y cwmwl ynddo, yno y gwersyllai meibion Israel.
18
Wrth orchymyn yr ARGLWYDD y cychwynnai meibion Israel, ac wrth orchymyn yr ARGLWYDD y gwersyllent: yr holl ddyddiau yr arhosai y cwmwl ar y tabernacl, yr arhosent yn y gwersyll.
19
A phan drigai y cwmwl yn hir ar y tabernacl lawer o ddyddiau, yna meibion Israel a gadwent wyliadwriaeth yr ARGLWYDD, ac ni chychwynnent.
20
Ac os byddai'r cwmwl ychydig ddyddiau ar y tabernacl, wrth orchymyn yr ARGLWYDD y gwersyllent, ac wrth orchymyn yr ARGLWYDD y cychwynnent.
21
Hefyd os byddai'r cwmwl o hwyr hyd fore, a chyfodi o'r cwmwl y bore, hwythau a symudent: pa un bynnag ai dydd ai nos fyddai pan gyfodai'r cwmwl, yna y cychwynnent.
22
Os deuddydd, os mis, os blwyddyn fyddai, tra y trigai'r cwmwl ar y tabernacl, gan aros arno, meibion Israel a arhosent yn eu pebyll, ac ni chychwynnent: ond pan godai efe, y cychwynnent.
23
Wrth air yr ARGLWYDD y gwersyllent, ac wrth air yr ARGLWYDD y cychwynnent: felly y cadwent wyliadwriaeth yr ARGLWYDD, yn ôl gair yr ARGLWYDD trwy law Moses.
← Chapter 8
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 10 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36