bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Jeremiah 12
Jeremiah 12
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 11
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 13 →
1
ARGLWYDD, ti sydd bob amser yn iawn pan dw i'n cwyno am rywbeth. Ond mae'n rhaid i mi ofyn hyn — Pam mae pobl ddrwg yn llwyddo? Pam mae'r rhai sy'n twyllo yn cael bywyd mor hawdd?
2
Ti'n eu plannu nhw fel coed, ac maen nhw'n bwrw gwreiddiau. Maen nhw'n tyfu ac yn dwyn ffrwyth. Maen nhw'n siarad amdanat ti trwy'r amser, ond dwyt ti ddim yn bwysig iddyn nhw go iawn.
3
Ond rwyt ti'n fy nabod i, ARGLWYDD. Ti'n fy ngwylio, ac wedi profi fy agwedd i atat ti. Llusga'r bobl ddrwg yma i ffwrdd fel defaid i gael eu lladd; cadw nhw o'r neilltu ar gyfer diwrnod y lladdfa.
4
Am faint mae'n rhaid i'r sychder aros, a glaswellt y caeau fod wedi gwywo? Mae'r anifeiliaid a'r adar wedi diflannu o'r tir am fod y bobl sy'n byw yma mor ddrwg, ac am eu bod nhw'n dweud, “Dydy Duw ddim yn gweld beth dŷn ni'n ei wneud.”
5
“Os ydy rhedeg ras gyda dynion yn dy flino di, sut wyt ti'n mynd i fedru cystadlu gyda cheffylau? Os wyt ti'n baglu ar y tir agored, beth am yn y goedwig wyllt ar lan yr Iorddonen?
6
Y gwir ydy, mae hyd yn oed dy berthnasau wedi dy fradychu di. Maen nhw hefyd yn gweiddi'n groch yn dy erbyn di. Felly paid â'i credu nhw, hyd yn oed os ydyn nhw'n dweud pethau caredig.
7
Dw i wedi troi cefn ar fy nheml, a gwrthod y bobl ddewisais. Dw i'n mynd i roi'r bobl wnes i eu caru yn nwylo eu gelynion.
8
Mae fy mhobl wedi troi arna i fel llew yn y goedwig. Maen nhw'n rhuo arna i, felly dw i yn eu herbyn nhw.
9
Mae'r wlad fel ffau hienas ac adar rheibus yn hofran o'u cwmpas! Casglwch yr anifeiliaid gwylltion i gyd. Gadewch iddyn nhw ddod i ddinistrio.
10
Mae arweinwyr y gwledydd yn dinistrio fy ngwinllan, a sathru'r tir ddewisais. Byddan nhw'n troi y wlad hyfryd yn anialwch diffaith.
11
Byddan nhw'n ei dinistrio hi'n llwyr, nes bydd yn grastir gwag. Bydd y tir i gyd wedi ei ddinistrio, a does neb o gwbl yn malio.
12
Bydd byddin ddinistriol yn dod dros fryniau'r anialwch. Nhw ydy'r cleddyf mae'r ARGLWYDD yn ei ddefnyddio i ddod â dinistr o un pen o'r wlad i'r llall. Fydd neb yn saff!
13
Mae fy mhobl wedi hau gwenith, ond dim ond drain fyddan nhw'n ei gasglu! Maen nhw wedi gweithio'n galed i ddim byd. Bydd eu cnydau bach yn achos cywilydd, am fod yr ARGLWYDD wedi digio'n lân hefo nhw.”
14
Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud am y gwledydd drwg o'n cwmpas ni sy'n ymosod ar y tir roddodd e i'w bobl Israel: “Dw i'n mynd i symud pobl y gwledydd hynny o'u tir, a gollwng pobl Jwda yn rhydd o'u canol nhw.
15
Ond ar ôl symud y bobl bydda i'n troi ac yn dangos trugaredd atyn nhw, a rhoi eu tir yn ôl iddyn nhw i gyd. Bydd pawb yn mynd adre i'w wlad ei hun.
16
Ond bydd rhaid iddyn nhw ddysgu byw fel fy mhobl i. Ar un adeg roedden nhw'n dysgu fy mhobl i dyngu llw yn enw y duw Baal. Ond bryd hynny byddan nhw'n dweud ‘Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw,’ wrth dyngu llw, a byddan nhw hefyd yn cael eu hystyried yn bobl i mi.
17
Os wnân nhw ddim gwrando, bydda i'n eu diwreiddio nhw ac yn eu dinistrio nhw'n llwyr,” meddai'r ARGLWYDD.
← Chapter 11
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 13 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52