bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Jeremiah 29
Jeremiah 29
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 28
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 30 →
1
Dyma lythyr Jeremeia at yr arweinwyr oedd ar ôl, yr offeiriaid a'r proffwydi, a phawb arall o Jerwsalem oedd wedi eu cymryd yn gaeth i Babilon gan y brenin Nebwchadnesar.
2
(Roedd hyn ar ôl i'r brenin Jehoiachin a'r fam frenhines, swyddogion y palas brenhinol, arweinwyr Jwda a Jerwsalem, y seiri coed a'r gweithwyr metel i gyd gael eu cymryd i ffwrdd yn gaeth o Jerwsalem.)
3
Elasa fab Shaffan a Gemareia fab Chilceia aeth a'r llythyr yno. Roedden nhw wedi eu hanfon i Babilon at Nebwchadnesar gan Sedeceia, brenin Jwda. Dyma'r llythyr:
4
Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus, Duw Israel, yn ei ddweud wrth y bobl mae wedi eu hanfon yn gaeth o Jerwsalem i Babilon:
5
“Adeiladwch dai a setlo i lawr. Plannwch erddi a bwyta'r hyn sy'n tyfu ynddyn nhw.
6
Priodwch a chael plant. Dewiswch wragedd i'ch meibion a gadael i'ch merched briodi, er mwyn iddyn nhw hefyd gael plant. Dw i eisiau i'ch niferoedd chi dyfu, yn lle lleihau.
7
Gweithiwch dros heddwch a llwyddiant y ddinas ble dw i wedi mynd â chi'n gaeth. Gweddïwch ar yr ARGLWYDD drosti. Ei llwyddiant hi fydd eich llwyddiant chi.”
8
Achos dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus, Duw Israel, yn ei ddweud: “Peidiwch gadael i'r proffwydi sydd gyda chi, a'r rhai hynny sy'n dweud ffortiwn, eich twyllo chi. Peidiwch cymryd sylw o'u breuddwydion.
9
Maen nhw'n hawlio eu bod nhw'n siarad drosta i, ond yn dweud celwydd! Wnes i ddim eu hanfon nhw,” meddai'r ARGLWYDD.
10
Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Pan fydd Babilon wedi rheoli am saith deg mlynedd bydda i'n cymryd sylw ohonoch chi eto. Dyna pryd y bydda i'n gwneud y pethau da dw i wedi eu haddo, a dod â chi yn ôl yma i'ch gwlad eich hunain.
11
Fi sy'n gwybod beth dw i wedi ei gynllunio ar eich cyfer chi,” meddai'r ARGLWYDD. “Dw i'n bwriadu eich bendithio chi, dim gwneud niwed i chi. Dw i am roi dyfodol llawn gobaith i chi.
12
Byddwch yn galw arna i ac yn gweddïo, a bydda i'n gwrando.
13
Os byddwch chi'n chwilio amdana i o ddifri, â'ch holl galon, byddwch chi'n fy ffeindio i.
14
Bydda i'n gadael i chi ddod o hyd i mi,” meddai'r ARGLWYDD. “Bydda i'n rhoi'r cwbl wnaethoch chi ei golli yn ôl i chi. Bydda i'n eich casglu chi yn ôl o'r holl wledydd wnes i eich gyrru chi i ffwrdd iddyn nhw. Bydda i'n dod â chi adre i'ch gwlad eich hunain.”
15
“Ond mae'r ARGLWYDD wedi rhoi proffwydi i ni yma yn Babilon,” meddech chi.
16
Felly gwrandwch beth mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud am y brenin sy'n eistedd ar orsedd Dafydd yma yn Jerwsalem, ac am eich perthnasau sy'n dal i fyw yma a heb gael eu cymryd i ffwrdd yn gaethion gyda chi:
17
Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddweud: “Dw i'n mynd i anfon rhyfel, newyn a haint i'w taro nhw. Byddan nhw fel ffigys ffiaidd sydd ddim ffit i'w bwyta.
18
Dw i'n mynd i anfon rhyfel, newyn a haint i'w taro nhw. Bydd beth fydd yn digwydd iddyn nhw yn dychryn pobl y gwledydd i gyd. Byddan nhw'n enghraifft o wlad wedi ei melltithio. Bydd pethau ofnadwy yn digwydd, pethau fydd yn achosi i bobl chwibanu mewn rhyfeddod. A byddan nhw'n destun sbort i'r gwledydd lle bydda i'n eu hanfon nhw'n gaeth.
19
Bydd hyn yn digwydd am eu bod nhw heb wrando na chymryd sylw o beth dw i wedi ei ddweud dro ar ôl tro drwy fy ngweision y proffwydi,” meddai'r ARGLWYDD.
20
Felly — chi sydd wedi eich gyrru i ffwrdd o Jerwsalem yn gaeth i Babilon — gwrandwch ar neges yr ARGLWYDD.
21
Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus, Duw Israel, yn ei ddweud am Ahab fab Colaia a Sedeceia fab Maaseia sy'n proffwydo celwydd ac yn hawlio eu bod nhw'n siarad drosta i: “Dw i'n mynd i'w rhoi nhw yn nwylo Nebwchadnesar, brenin Babilon, a bydd e'n eu lladd nhw o'ch blaenau chi.
22
Bydd gan bobl Jwda sy'n gaeth yn Babilon y dywediad yma wrth felltithio rhywun: ‘Boed i'r ARGLWYDD dy wneud di fel Sedeceia ac Ahab, gafodd eu llosgi'n fyw gan frenin Babilon!’
23
Maen nhw wedi gwneud pethau gwarthus yn Israel. Cysgu gyda gwragedd dynion eraill, a dweud celwydd tra'n honni eu bod nhw'n siarad drosta i. Wnes i ddim dweud dim wrthyn nhw. Ond dw i'n gwybod yn iawn ac wedi gweld beth maen nhw wedi ei wneud,” meddai'r ARGLWYDD.
24
Yna dywed wrth Shemaia o Nechelam:
25
Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus, Duw Israel yn ei ddweud: “Anfonaist lythyrau ar dy liwt dy hun at y bobl sydd yn Jerwsalem, ac at Seffaneia fab Maaseia a'r offeiriaid eraill i gyd, yn dweud fel hyn,
26
‘Mae'r ARGLWYDD wedi dy wneud di'n offeiriad yn lle Jehoiada, i fod yn gyfrifrifol am beth sy'n digwydd yn y deml. Ac mae rhyw wallgofddyn yn dod yno a chymryd arno ei fod yn broffwyd. Dylet ei ddal a rhoi coler haearn a chyffion arno.
27
Dylet ti fod wedi ceryddu Jeremeia o Anathoth am gymryd arno ei fod yn broffwyd.
28
Mae e wedi anfon neges aton ni yn Babilon, yn dweud, “Dych chi'n mynd i fod yna am amser hir. Adeiladwch dai a setlo i lawr. Plannwch erddi a bwyta'r hyn sy'n tyfu ynddyn nhw.”’”
29
Darllenodd Seffaneia'r offeiriad y llythyr i Jeremeia.
30
A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Jeremeia,
31
“Anfon y neges yma at y bobl sydd wedi eu cymryd yn gaeth i Babilon: ‘Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud am Shemaia o Nechelam: “Mae Shemaia yn siarad fel petai'n broffwyd, ond wnes i ddim ei anfon e. Mae e wedi gwneud i chi gredu celwydd!”
32
Felly, dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Dw i'n mynd i gosbi Shemaia a'i deulu. Fydd neb ohonyn nhw'n cael byw i weld y pethau da dw i'n mynd i'w gwneud i'm pobl. Fi, yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. Mae e wedi annog pobl i wrthryfela yn fy erbyn i.”’”
← Chapter 28
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 30 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52