bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Jeremiah 48
Jeremiah 48
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 47
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 49 →
1
Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus, Duw Israel, yn ei ddweud am Moab: “Mae hi ar ben ar dref Nebo! Bydd hi'n cael ei dinistrio. Bydd Ciriathaim yn cael ei chywilyddio a'i choncro — bydd y gaer yn cael ei chywilyddio a'i bwrw i lawr.
2
Fydd Moab ddim yn cael ei hedmygu eto! Bu cynllwynio yn Cheshbon i'w dinistrio: ‘Dewch! Gadewch i ni roi diwedd ar y wlad!’ Tref Madmen, cei dithau dy dawelu — Does dim dianc rhag y rhyfel i fod.
3
Gwrandwch ar y gweiddi yn Choronaïm! ‘Dinistr llwyr! Mae'n adfeilion!’
4
Mae Moab wedi ei dryllio! Bydd ei phlant yn gweiddi allan.
5
Byddan nhw'n dringo llethrau Lwchith ac yn wylo'n chwerw wrth fynd. Ar y ffordd i lawr i Choronaïm bydd sŵn pobl yn gweiddi mewn dychryn.
6
‘Ffowch am eich bywydau! — byddwch fel prysglwyn unig yn yr anialwch.’
7
Am dy fod wedi trystio dy ymdrechion a dy gyfoeth dy hun, byddi di hefyd yn cael dy goncro. Bydd dy dduw Chemosh yn cael ei gymryd i ffwrdd, a'i offeiriaid a'i swyddogion gydag e.
8
Mae'r gelyn sy'n dinistrio yn dod i daro'r trefi i gyd, fydd dim un yn dianc. Bydd trefi'r dyffryn yn cael eu dinistrio, a'r trefi ar y byrdd-dir uchel hefyd. Dw i, yr ARGLWYDD, wedi dweud.
9
Côd garreg fedd i Moab, achos bydd yn cael ei throi'n adfeilion. Bydd ei threfi yn cael eu dinistrio a fydd neb yn byw ynddyn nhw.”
10
(Melltith ar unrhyw un sy'n ddiog wrth wneud gwaith yr ARGLWYDD! Melltith ar unrhyw un sydd ddim yn defnyddio ei gleddyf i dywallt gwaed!)
11
“Mae Moab wedi teimlo'n saff o'r dechrau cyntaf. Mae hi wedi cael llonydd, fel gwin wedi hen setlo, a heb gael ei dywallt o un jar i'r llall. Dydy hi erioed wedi cael ei chymryd yn gaeth; mae fel gwin sydd wedi cadw ei flas a'i arogl.
12
“Ond mae'r amser yn dod pan fydda i'n anfon dynion i'w selar i'w thywallt allan a malu'r jariau'n ddarnau,” meddai'r ARGLWYDD.
13
“Bydd gan Moab gywilydd o'i heilun-dduw Chemosh, fel roedd gan Israel gywilydd o'r llo roedd yn ei drystio yn Bethel.
14
Mae dynion Moab yn brolio, ‘Dŷn ni'n arwyr! Dŷn ni'n filwyr cryfion!’
15
Ond mae'r un sy'n dinistrio Moab yn dod. Bydd ei threfi'n cael eu concro, a'i milwyr ifanc gorau'n cael eu lladd,” —y Brenin, sef yr ARGLWYDD holl-bwerus, sy'n dweud hyn.
16
“Mae dinistr Moab ar fin digwydd; mae'r drwg ddaw arni'n dod yn fuan.
17
Galarwch drosti, chi wledydd sydd o'i chwmpas a phawb sy'n gwybod amdani. Dwedwch, ‘O! Mae ei grym wedi ei golli; mae'r deyrnwialen hardd wedi ei thorri!’
18
Dewch i lawr o'ch safle balch ac eistedd yn y baw, chi sy'n byw yn Dibon. Bydd yr un fydd yn dinistrio Moab yn ymosod ac yn dymchwel y caerau sy'n eich amddiffyn.
19
Chi sy'n byw yn Aroer, safwch ar ochr y ffordd yn gwylio. Gofynnwch i'r dynion a'r merched sy'n dianc, ‘Beth sydd wedi digwydd?’
20
Byddan nhw'n ateb: ‘Mae Moab wedi ei chywilyddio — mae wedi ei choncro.’ Udwch a chrïo! Cyhoeddwch ar lan Afon Arnon ‘Mae Moab wedi ei dinistrio.’”
21
Mae trefi'r byrdd-dir i gael eu barnu — Holon, Iahats, Meffaäth,
22
Dibon, Nebo, Beth-diblathaim,
23
Ciriathaim, Beth-gamwl, Beth-meon,
24
Cerioth a Bosra. Bydd trefi Moab i gyd yn cael eu cosbi — pell ag agos.
25
“Mae corn Moab wedi ei dorri, a'i nerth wedi dod i ben,” meddai'r ARGLWYDD.
26
Roedd Moab yn brolio ei bod yn well na'r ARGLWYDD. Ond bydd fel meddwyn yn rholio yn ei chwŷd. Bydd pawb yn chwerthin ar ei phen!
27
Onid chi, bobl Moab, oedd yn chwerthin ar ben Israel? Roeddech yn ei thrin fel petai'n lleidr, ac yn ysgwyd eich pennau bob tro roedd rhywun yn sôn amdani.
28
Bobl Moab, gadewch eich trefi a mynd i fyw yn y creigiau; fel colomennod yn nythu ar y clogwyni uwchben y ceunant.
29
Dŷn ni wedi clywed am falchder Moab — mae ei phobl mor falch! yn hunandybus, yn brolio, yn snobyddlyd, ac mor llawn ohoni ei hun!
30
“Dw innau'n gwybod mor filain ydy hi,” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. “Mae ei brolio hi'n wag, ac yn cyflawni dim byd!
31
Felly, bydda i'n udo dros bobl Moab. Bydda i'n crïo dros Moab gyfan, ac yn griddfan dros bobl Cir-cheres.
32
Bydda i'n wylo dros winwydden Sibma mwy na mae tref Iaser yn wylo trosti. Roedd ei changhennau'n ymestyn i'r Môr Marw ar un adeg; roedden nhw'n cyrraedd mor bell â Iaser. Ond mae'r gelyn sy'n dinistrio'n mynd i ddifetha ei chnydau o ffigys a grawnwin.
33
Bydd pleser a llawenydd yn diflannu'n llwyr o dir ffrwythlon Moab. Bydda i'n stopio'r gwin rhag llifo i'r cafnau; fydd neb yn gweiddi'n llawen wrth sathru'r grawnwin — bydd gweiddi, ond bydd y gweiddi'n wahanol.
34
“Bydd y gweiddi a'r galar yn Cheshbon i'w glywed yn Eleale a hyd yn oed Iahats. Bydd i'w glywed o Soar i Choronaïm ac Eglath-shalisheia. Bydd hyd yn oed dŵr Nimrim yn cael ei sychu.
35
Fydd neb yn mynd i fyny i aberthu ar yr allorau paganaidd, ac yn llosgi arogldarth i dduwiau Moab,” meddai'r ARGLWYDD.
36
“Felly bydd fy nghalon yn griddfan fel pibau dros Moab. Pibau chwyth yn canu cân i alaru dros bobl Cir-cheres. Bydd y cyfoeth wnaethon nhw ei gasglu yn diflannu.
37
“Bydd pawb wedi siafio'r pen a'r farf. Bydd pawb wedi torri eu dwylo a chyllyll, ac yn gwisgo sachliain.
38
Fydd dim byd ond galaru i'w glywed ar bennau'r tai ac ar y sgwariau. Dw i'n mynd i dorri Moab fel potyn pridd does neb ei eisiau,” meddai'r ARGLWYDD.
39
“Bydd wedi ei dorri'n deilchion! Bydd y bobl yn udo! Bydd Moab yn troi ei chefn mewn cywilydd! Bydd yn destun sbort ac yn olygfa ddychrynllyd i'r gwledydd o'i chwmpas.”
40
Ie, dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Edrychwch! bydd y gelyn fel eryr yn lledu ei adenydd ac yn plymio i lawr ar Moab.
41
Bydd ei threfi yn cael eu meddiannu, a'r caerau sy'n ei hamddiffyn yn cael eu dal. Ar y diwrnod hwnnw bydd milwyr Moab wedi dychryn fel gwraig ar fin cael babi!
42
Bydd Moab yn cael ei dinistrio ac yn peidio â bod yn genedl, am ei bod hi wedi brolio ei bod yn well na'r ARGLWYDD.
43
Panig, pydew a thrap sydd o'ch blaenau chi, bobl Moab! —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
44
Bydd pawb sy'n ffoi mewn dychryn yn disgyn i lawr i dwll. A bydd pawb sy'n dringo o'r twll yn cael ei ddal mewn trap! Mae'r amser wedi dod i mi gosbi Moab, —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
45
Bydd ffoaduriaid yn sefyll wedi ymlâdd dan gysgod waliau Cheshbon. Mae tân wedi lledu o Cheshbon, fflamau o diriogaeth y Brenin Sihon. Mae'n llosgi ar hyd ffiniau Moab i ben y mynyddoedd yng ngwlad y bobl ryfelgar.
46
Mae hi ar ben arnat ti, Moab! Dych chi bobl sy'n addoli Chemosh wedi eich difa. Mae eich meibion yn garcharorion, a'ch merched wedi eu cymryd yn gaethion.
47
Ond yn y dyfodol, bydda i'n rhoi'r cwbl gollodd Moab yn ôl iddi.” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. Dyma ddiwedd y neges o farn ar Moab.
← Chapter 47
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 49 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52