bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Jeremiah 35
Jeremiah 35
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 34
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 36 →
1
Dyma neges roddodd yr ARGLWYDD i Jeremeia pan oedd Jehoiacim fab Joseia yn frenin ar Jwda:
2
“Dos i'r gymuned ble mae'r Rechabiaid yn byw, i siarad â nhw a'u gwahodd nhw i deml yr ARGLWYDD. Dos â nhw i un o'r ystafelloedd ochr, a chynnig gwin iddyn nhw i'w yfed.”
3
Felly dyma fi'n mynd i nôl Jaasaneia (mab Jeremeia ac ŵyr Chafatsineia) a'i frodyr a'i feibion, a gweddill y gymuned o Rechabiaid,
4
a mynd â nhw i deml yr ARGLWYDD. Es â nhw i'r ystafell ble roedd disgyblion y proffwyd Chanan fab Igdaleia yn aros — sef drws nesa i'r ystafell ble roedd swyddogion y deml yn aros, ac uwch ben ystafell Maaseia fab Shalwm, prif borthor y deml.
5
Dyma fi'n rhoi jygiau o win a chwpanau o'u blaenau nhw, a dweud, “Cymerwch win.”
6
Ond dyma nhw'n ateb, “Na. Dŷn ni ddim yn yfed gwin am fod Jonadab fab Rechab ein cyndad ni wedi dweud wrthon ni am beidio. ‘Dylech chi a'ch plant byth yfed gwin,’ meddai.
7
‘Peidiwch adeiladu tai. Peidiwch tyfu cnydau. A peidiwch plannu na phrynu gwinllan. Dych chi i fyw mewn pebyll bob amser. Os gwnewch chi hynny byddwch yn byw am hir yn y wlad lle ydych chi'n crwydro.’
8
Dŷn ni a'n gwragedd a'n plant bob amser wedi gwrando a bod yn ufudd i orchymyn Jonadab fab Rechab ein cyndad. Dŷn ni erioed wedi yfed gwin
9
nac adeiladu tai, does gynnon ni ddim gwinllannoedd, caeau na chnydau,
10
a dŷn ni bob amser wedi byw mewn pebyll. Dŷn ni wedi gwrando a gwneud yn union beth ddwedodd ein cyndad Jonadab wrthon ni.
11
Ond pan ddaeth Nebwchadnesar brenin Babilon i ymosod ar y wlad, dyma ni'n penderfynu dianc i Jerwsalem oddi wrth fyddin Babilon a byddin Syria. A dyna pam dŷn ni yma yn Jerwsalem.”
12
Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i Jeremeia:
13
“Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus, Duw Israel, am i ti ei ddweud wrth bobl Jwda a'r rhai sy'n byw yn Jerwsalem: ‘Pam wnewch chi ddim dysgu gwers o hyn, a gwrando ar beth dw i'n ddweud?’ meddai'r ARGLWYDD.
14
‘Roedd Jonadab fab Rechab wedi dweud wrth ei ddisgynyddion am beidio yfed gwin, ac maen nhw wedi gwrando arno. Dŷn nhw erioed wedi yfed gwin. Ond dw i wedi bod yn siarad hefo chi dro ar ôl tro, a dych chi byth yn gwrando arna i.
15
Dw i wedi anfon un proffwyd ar ôl y llall i'ch rhybuddio chi, a dweud, “Rhaid i chi stopio gwneud y pethau drwg dych chi'n eu gwneud. Rhaid i chi newid eich ffyrdd a peidio addoli a gwasanaethu eilun-dduwiau paganaidd, wedyn cewch fyw yn y wlad rois i i chi a'ch hynafiaid.” Ond wnaethoch chi ddim cymryd unrhyw sylw na gwrando ar beth roeddwn i'n ddweud.
16
Mae disgynyddion Jonadab fab Rechab wedi gwneud beth ddwedodd e wrthyn nhw, ond dych chi ddim wedi bod yn ufudd i mi.’
17
Felly, dyma mae'r ARGLWYDD, y Duw holl-bwerus, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Dw i'n mynd i daro pobl Jwda a'r rhai sy'n byw yn Jerwsalem hefo pob dinistr dw i wedi ei fygwth. Dw i wedi siarad hefo nhw a dŷn nhw ddim wedi gwrando. Dw i wedi galw arnyn nhw a dŷn nhw ddim wedi ateb.’”
18
Yna dyma Jeremeia'n dweud wrth y gymuned o Rechabiaid: “Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Dych chi wedi gwrando ar orchymyn eich cyndad Jonadab. Dych chi wedi gwneud popeth ddwedodd e wrthych chi ei wneud.’
19
Felly mae'r ARGLWYDD holl-bwerus, Duw Israel, yn dweud hyn: ‘Bydd un o ddisgynyddion Jonadab fab Rechab yn fy ngwasanaethu i bob amser.’”
← Chapter 34
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 36 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52