bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Jeremiah 43
Jeremiah 43
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 42
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 44 →
1
Pan oedd Jeremeia wedi gorffen dweud wrth y bobl beth oedd neges yr ARGLWYDD eu Duw iddyn nhw,
2
dyma Asareia fab Hoshaia, Iochanan fab Careach a dynion eraill oedd yn meddwl eu bod nhw'n gwybod yn well yn ateb Jeremeia, “Ti'n dweud celwydd! Dydy'r ARGLWYDD ein Duw ddim wedi dweud wrthon ni am beidio mynd i fyw i'r Aifft.
3
Barŵch fab Nereia sydd wedi dy annog di i ddweud hyn, er mwyn i'r Babiloniaid ein dal ni, a'n lladd neu ein cymryd ni'n gaeth i Babilon.”
4
Felly wnaeth Iochanan fab Careach a swyddogion y fyddin a gweddill y bobl ddim aros yn Jwda fel y dwedodd yr ARGLWYDD wrthyn nhw.
5
Dyma Iochanan a'r swyddogion eraill yn mynd â'r bobl oedd ar ôl yn Jwda gyda nhw i'r Aifft. (Roedd ffoaduriaid gyda nhw, sef y rhai oedd wedi dod yn ôl i fyw yn Jwda o'r gwledydd ble roedden nhw wedi dianc.
6
Hefyd y bobl oedd Nebwsaradan, capten y gwarchodlu brenhinol wedi eu gadael yng ngofal Gedaleia — dynion, gwragedd, plant, a merched o'r teulu brenhinol. Aethon nhw hyd yn oed â'r proffwyd Jeremeia a Barŵch fab Nereia gyda nhw.)
7
Aethon nhw i'r Aifft am eu bod nhw'n gwrthod gwrando ar yr ARGLWYDD. A dyma nhw'n cyrraedd Tachpanches.
8
Yn Tachpanches dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Jeremeia:
9
“Cymer gerrig mawr a'u claddu nhw dan y pafin morter sydd o flaen y fynedfa i balas y Pharo yn Tachpanches. Dw i eisiau i bobl Jwda dy weld ti'n gwneud hyn.
10
Wedyn dywed wrthyn nhw mai dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus, Duw Israel yn ei ddweud: ‘Dw i'n mynd i anfon am fy ngwas Nebwchadnesar, brenin Babilon. Dw i'n mynd i osod ei orsedd e ar y cerrig yma dw i wedi eu claddu, a bydd e'n codi canopi drosti.
11
Mae e'n dod i daro gwlad yr Aifft. Bydd y rhai sydd i farw o haint yn marw o haint. Bydd y rhai sydd i gael eu cymryd yn gaethion yn cael eu cymryd yn gaethion. Bydd y rhai sydd i farw yn y rhyfel yn marw yn y rhyfel.
12
Bydd e'n rhoi temlau duwiau'r Aifft ar dân. Bydd e'n llosgi'r delwau neu'n mynd â nhw i ffwrdd. Bydd e'n clirio gwlad yr Aifft yn lân fel bugail yn pigo'r llau o'i ddillad. Wedyn bydd e'n gadael y lle heb gael unrhyw niwed.
13
Bydd e'n malu obelisgau Heliopolis, ac yn llosgi temlau duwiau'r Aifft yn ulw.’”
← Chapter 42
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 44 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52