bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Jeremiah 39
Jeremiah 39
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 38
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 40 →
1
Dyma Nebwchadnesar, brenin Babilon, yn dod â'i fyddin gyfan i ymosod ar Jerwsalem a gwarchae arni. Digwyddodd hyn yn y degfed mis o nawfed flwyddyn Sedeceia yn frenin ar Jwda.
2
Buon nhw'n gwarchae arni am flwyddyn a hanner. Yna ar y nawfed diwrnod o'r pedwerydd mis ym mlwyddyn un deg un o deyrnasiad Sedeceia dyma nhw'n torri trwy waliau'r ddinas.
3
Dyma swyddogion brenin Babilon yn dod ac yn eistedd wrth y Giât Ganol — Nergal-sharetser o Samgar, Nebo-sarsechîm (prif swyddog y llys), Nergal-sharetser (oedd yn uchel-swyddog), a'r swyddogion eraill i gyd.
4
Roedd y Brenin Sedeceia a'i filwyr wedi dianc. Roedden nhw wedi gadael y ddinas yn ystod y nos, drwy ardd y brenin ac yna allan drwy'r giât sydd rhwng y ddwy wal. Wedyn mynd i gyfeiriad Dyffryn Iorddonen.
5
Ond aeth byddin Babilon ar eu holau a dal Sedeceia ar wastatir Jericho. Dyma nhw'n mynd ag e i sefyll ei brawf o flaen Nebwchadnesar, brenin Babilon, yn Ribla yn ardal Chamath.
6
Cafodd Sedeceia ei orfodi i edrych ar ei feibion yn cael eu lladd gan frenin Babilon. A cafodd pobl bwysig Jwda i gyd eu lladd ganddo hefyd.
7
Wedyn dyma fe'n tynnu llygaid Sedeceia allan a'i roi mewn cadwyni pres cyn mynd ag e'n gaeth i Babilon.
8
Dyma'r Babiloniaid yn llosgi'r palas brenhinol a thai y bobl a bwrw waliau Jerwsalem i lawr.
9
Wedyn dyma Nebwsaradan, capten y gwarchodlu brenhinol, yn mynd â'r bobl oedd ar ôl yn y ddinas yn gaeth i Babilon — gan gynnwys y bobl oedd wedi dianc ato o Jerwsalem yn gynharach.
10
Yr unig bobl gafodd eu gadael ganddo yn Jwda oedd rhai o'r bobl gyffredin dlawd oedd heb eiddo o gwbl. Rhoddodd gaeau a gwinllannoedd iddyn nhw i ofalu amdanyn nhw.
11
Roedd Nebwchadnesar, brenin Babilon, wedi rhoi gorchymyn i Nebwsaradan, capten y gwarchodlu brenhinol, am Jeremeia.
12
“Ffeindia Jeremeia, a gofalu amdano. Paid gwneud dim drwg iddo. Gwna beth mae e'n ei ofyn i ti.”
13
Felly dyma Nebwsaradan (capten y gwarchodlu brenhinol), Nebwshasban (prif swyddog y llys), Nergal-sharetser (oedd yn uchel-swyddog), a swyddogion eraill brenin Babilon
14
yn anfon am Jeremeia a'i gymryd o iard y gwarchodlu. Yna dyma nhw'n cael Gedaleia (mab Achicam ac ŵyr i Shaffan) i ofalu amdano a'i gymryd i'w dŷ. Ond dewisodd Jeremeia aros gyda'r bobl gyffredin.
15
Roedd yr ARGLWYDD wedi rhoi neges i Jeremeia pan oedd yn y ddalfa yn iard y gwarchodlu:
16
“Dos i ddweud wrth Ebed-melech yr Affricanwr: Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Dw i'n mynd i wneud beth ddywedais i i'r ddinas yma — gwneud drwg iddi yn lle gwneud da. A byddi di yma i weld y cwbl yn digwydd.
17
Ond bydda i'n dy arbed di pan fydd y peth yn digwydd,’ meddai'r ARGLWYDD. ‘Fyddi di ddim yn cael dy ddal gan y bobl rwyt ti'n eu hofni.
18
Bydda i'n dy achub di. Gei di ddim dy ladd yn y rhyfel. Byddi di'n cael byw, am dy fod ti wedi trystio yno i.’” Yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
← Chapter 38
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 40 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52