bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Jeremiah 49
Jeremiah 49
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 48
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 50 →
1
Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud am bobl Ammon: “Oes gan Israel ddim disgynyddion? Oes neb ohonyn nhw ar ôl i etifeddu'r tir? Ai dyna pam dych chi sy'n addoli Milcom wedi dwyn tir Gad a setlo yn ei drefi?
2
Felly mae'r amser yn dod” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn— “pan fydd sŵn rhyfel i'w glywed yn Rabba. Bydd prifddinas Ammon yn domen o adfeilion, a bydd ei phentrefi yn cael eu llosgi'n ulw. Wedyn bydd Israel yn cymryd ei thir yn ôl gan y rhai gymrodd ei thir oddi arni,” —meddai'r ARGLWYDD.
3
“Udwch, bobl Cheshbon, am fod Ai wedi ei bwrw i lawr! Gwaeddwch, chi sy'n y pentrefi o gwmpas Rabba! Gwisgwch sachliain a galarwch! Rhedwch o gwmpas yn anafu eich hunain! Bydd eich duw Milcom yn cael ei gymryd i ffwrdd, a'i offeiriaid a'i swyddogion gydag e!
4
Pam dych chi'n brolio eich bod mor gryf? Mae eich cryfder yn diflannu, bobl anffyddlon! Roeddech yn trystio eich cyfoeth, ac yn meddwl, ‘Pwy fyddai'n meiddio ymosod arnon ni?’
5
Wel, dw i'n mynd i dy ddychryn di o bob cyfeiriad,” meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD holl-bwerus. “Byddi'n cael dy yrru ar chwâl, a fydd neb yna i helpu'r ffoaduriaid.
6
“Ond wedyn bydda i'n rhoi'r cwbl gollodd Ammon yn ôl iddi.” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
7
Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddweud am Edom: “Oes rhywun doeth ar ôl yn Teman? Oes neb call ar ôl i roi cyngor? Ydy eu doethineb nhw wedi diflannu?
8
Ffowch! Trowch yn ôl! Ewch i guddio'n bell, bobl Dedan! Dw i'n dod â dinistr ar ddisgynyddion Esau mae'n amser i mi eu cosbi.
9
Petai casglwyr grawnwin yn dod atat ti, oni fydden nhw'n gadael rhywbeth i'w loffa? Petai lladron yn dod yn y nos, bydden nhw ond yn dwyn beth oedden nhw eisiau!
10
Ond dw i'n mynd i gymryd popeth oddi ar bobl Esau. Bydda i'n dod o hyd iddyn nhw; fyddan nhw ddim yn gallu cuddio. Bydd eu plant, eu perthnasau, a'u cymdogion i gyd yn cael eu dinistrio. Fydd neb ar ôl!
11
Gadael dy blant amddifad gyda mi, gwna i ofalu amdanyn nhw. Bydd dy weddwon hefyd yn gallu dibynnu arna i.”
12
Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Os oes rhaid i bobl ddiniwed ddiodde, wyt ti'n meddwl y byddi di'n dianc? Na! Bydd rhaid i tithau yfed o gwpan barn.
13
Dw i wedi addo ar lw,” meddai'r ARGLWYDD. “Bydd Bosra yn cael ei throi'n adfeilion. Bydd yn destun sbort. Bydd yn cael ei dinistrio'n llwyr, a'i gwneud yn enghraifft o bobl wedi eu melltithio. Bydd eu trefi yn cael eu gadael yn adfeilion am byth.”
14
“Ces i neges gan yr ARGLWYDD, pan gafodd negesydd ei anfon i'r gwledydd, yn dweud, ‘Dowch at eich gilydd i ymosod arni hi. Gadewch i ni fynd i ryfel yn ei herbyn!’”
15
“Dw i'n mynd i dy wneud di'n wlad fach wan; bydd pawb yn cael hwyl ar dy ben.
16
Mae dy allu i ddychryn pobl a dy falchder wedi dy dwyllo di. Ti'n byw yn saff yng nghysgod y graig, yn byw ar ben y mynydd — ond hyd yn oed petaet ti'n gwneud dy nyth mor uchel â'r eryr, bydda i'n dy dynnu di i lawr.” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
17
“Bydd Edom yn cael ei dinistrio'n llwyr. Bydd pawb sy'n pasio heibio wedi dychryn am eu bywydau ac yn chwibanu mewn rhyfeddod wrth weld y dinistr.
18
Bydd yn union yr un fath â Sodom a Gomorra a'r pentrefi o'u cwmpas. Fydd neb yn byw nac yn setlo i lawr yno eto,”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
19
“Bydda i'n gyrru pobl Edom o'u tir, fel llew yn dod allan o goedwig wyllt yr Iorddonen ac yn gyrru'r praidd yn y borfa agored ar chwâl. Bydda i'n dewis y meheryn gorau i'w llarpio. Achos pwy sy'n debyg i mi? Pwy sy'n mynd i'm galw i gyfri? Pa fugail sy'n gallu sefyll yn fy erbyn i?”
20
Dyma gynllun yr ARGLWYDD yn erbyn Edom. Dyma mae'n bwriadu ei wneud i bobl Teman. “Bydd hyd yn oed yr ŵyn bach yn cael eu llusgo i ffwrdd. Bydd eu corlan yn cael ei dinistrio am beth wnaethon nhw.
21
Bydd pobl y ddaear yn crynu wrth glywed am eu cwymp. Bydd eu sŵn nhw'n gweiddi i'w glywed wrth y Môr Coch.
22
Edrychwch! Bydd y gelyn fel eryr yn codi i'r awyr, yn lledu ei adenydd ac yn plymio i lawr ar Bosra. Ar y diwrnod hwnnw bydd milwyr Edom wedi dychryn, fel gwraig ar fin cael babi!”
23
Neges am Damascus: “Mae pobl Chamath ac Arpad wedi drysu. Maen nhw wedi clywed newyddion drwg. Maen nhw'n poeni ac wedi cynhyrfu fel môr stormus sy'n methu bod yn llonydd.
24
Mae pobl Damascus wedi colli pob hyder, ac wedi ffoi mewn panig. Mae poen a phryder wedi gafael ynddyn nhw, fel gwraig ar fin cael babi.
25
Bydd y ddinas enwog yn wag cyn bo hir — y ddinas oedd unwaith yn llawn bwrlwm a hwyl!
26
Bydd ei bechgyn ifanc yn syrthio'n farw ar ei strydoedd, a'i milwyr i gyd yn cael eu lladd ar y diwrnod hwnnw,” —yr ARGLWYDD holl-bwerus sy'n dweud hyn.
27
“Bydda i'n llosgi waliau Damascus, a bydd y tân yn dinistrio caerau amddiffynnol Ben-hadad.”
28
Neges am Cedar ac ardaloedd Chatsor, gafodd eu taro gan Nebwchadnesar, brenin Babilon. Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Fyddin Babilon, codwch ac ymosod ar Cedar! Dinistriwch bobl y dwyrain.
29
Cymerwch eu pebyll a'u preiddiau, eu llenni a'u hoffer, a'u camelod i gario'r cwbl i ffwrdd. Bydd pobl yn gweiddi: ‘Does ond dychryn ym mhobman!’
30
Bobl Chatsor, rhedwch i ffwrdd; ewch i guddio mewn ogofâu! Mae Nebwchadnesar, brenin Babilon, yn bwriadu ymosod arnoch chi. Mae e'n bwriadu eich dinistrio chi!
31
Codwch, ac ymosod ar wlad sy'n meddwl ei bod mor saff!” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. Does dim giatiau dwbl gyda barrau i'w hamddiffyn, a does neb wrth ymyl i'w helpu.
32
Bydd y milwyr yn cymryd ei chamelod a'i gyrroedd o wartheg yn ysbail. Bydda i'n gyrru ar chwâl bawb sy'n byw ar ymylon yr anialwch. Daw dinistr arnyn nhw o bob cyfeiriad, —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
33
Bydd Chatsor wedi ei throi'n adfeilion am byth. Bydd yn lle i siacaliaid fyw — fydd neb yn byw nac yn setlo i lawr yno.
34
Y neges roddodd yr ARGLWYDD i Jeremeia am wlad Elam, yn fuan ar ôl i Sedeceia gael ei wneud yn frenin ar Jwda.
35
Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddweud: “Dw i'n mynd i ladd bwasaethwyr Elam, sef asgwrn cefn eu grym milwrol.
36
Dw i'n mynd i ddod â gelynion yn erbyn pobl Elam o bob cyfeiriad, a byddan nhw'n cael eu gyrru ar chwâl. Bydd ffoaduriaid o Elam yn dianc i bobman.
37
Bydd pobl Elam wedi eu dychryn yn lân gan y gelynion sydd am eu lladd nhw. Dw i wedi gwylltio'n lân hefo nhw, a dw i'n mynd i'w dinistrio nhw,” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. “Bydda i'n anfon byddinoedd eu gelynion ar eu holau, nes bydda i wedi eu dinistrio nhw'n llwyr.
38
Bydda i'n teyrnasu dros Elam. Bydda i'n lladd eu brenin a'u swyddogion,” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
39
“Ond wedyn bydda i'n rhoi'r cwbl gollodd Elam yn ôl iddi,” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
← Chapter 48
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 50 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52