bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Jeremiah 30
Jeremiah 30
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 29
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 31 →
1
Dyma neges arall roddodd yr ARGLWYDD i Jeremeia:
2
“Dyma mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Dw i eisiau i ti ysgrifennu popeth dw i'n ei ddweud wrthot ti ar sgrôl.
3
Mae'r amser yn dod,’ meddai'r ARGLWYDD, ‘pan fydda i'n rhoi'r cwbl wnaeth fy mhobl Israel a Jwda ei golli yn ôl iddyn nhw. Dw i'n mynd i ddod â nhw'n ôl i'r wlad rois i i'w hynafiaid. Byddan nhw'n ei chymryd hi'n ôl eto.’”
4
Dyma'r neges roddodd yr ARGLWYDD i mi am bobl Israel a Jwda:
5
“Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Sŵn pobl yn gweiddi mewn panig a dychryn sydd i'w glywed; does dim sôn am heddwch!’
6
Ond meddyliwch am hyn: Ydy dyn yn gallu cael babi? Na? Felly pam dw i'n gweld y dynion cryfion yma i gyd yn dal eu boliau fel gwraig yn cael babi? Pam mae eu hwynebau nhw i gyd yn wyn fel y galchen?
7
O! Mae'n amser caled ofnadwy! Does erioed gyfnod tebyg wedi bod o'r blaen. Mae'n argyfwng ofnadwy ar bobl Jacob — ac eto byddan nhw yn cael eu hachub.”
8
Yr ARGLWYDD holl-bwerus sy'n dweud hyn, “Bryd hynny bydda i'n torri'r iau sydd ar eu gwar a dryllio'r rhaffau sy'n eu dal yn gaeth. Fydd pobl estron ddim yn feistri arnyn nhw o hynny ymlaen.
9
Byddan nhw'n gwasanaethu'r ARGLWYDD eu Duw a'r un o linach Dafydd fydda i'n ei wneud yn frenin arnyn nhw.”
10
“Felly, peidiwch bod ag ofn bobl Jacob, fy ngweision,” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. “Peidiwch anobeithio bobl Israel. Dw i'n mynd i'ch achub chi a'ch plant o'r wlad bell lle buoch yn gaeth. Bydd pobl Jacob yn dod yn ôl adre ac yn mwynhau heddwch. Byddan nhw'n teimlo'n saff a fydd neb yn eu dychryn nhw.
11
Dw i gyda chi, i'ch achub chi,” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. “Dw i'n mynd i ddinistrio'r gwledydd hynny lle gwnes i eich gyrru chi ar chwâl, ond wna i ddim eich dinistrio chi. Ydw, dw i'n mynd i'ch disgyblu, ond dim ond faint dych chi'n ei haeddu; alla i ddim peidio'ch cosbi chi o gwbl.”
12
Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Does dim modd gwella dy friwiau; ti wedi dy anafu'n ddifrifol.
13
Does neb yn gallu dy helpu di. Does dim eli i wella'r dolur; does dim iachâd.
14
Mae dy ‛gariadon‛ i gyd wedi dy anghofio di. Dŷn nhw'n poeni dim amdanat ti! Dw i wedi dy daro di fel petawn i'n elyn; rwyt wedi diodde cosb greulon, am dy fod wedi bod mor ddrwg ac wedi pechu mor aml.
15
Pam wyt ti'n cwyno am dy friwiau? Does dim modd gwella dy boen Dw i wedi gwneud hyn i gyd i ti am dy fod ti wedi bod mor ddrwg ac wedi pechu mor aml.
16
Ond bydd y rhai wnaeth dy larpio di yn cael eu llarpio. Bydd dy elynion i gyd yn cael eu cymryd yn gaeth. Bydd y rhai wnaeth dy ysbeilio yn cael eu hysbeilio, a'r rhai wnaeth ddwyn dy drysorau yn colli popeth.
17
Ydw, dw i'n mynd i dy iacháu di; Dw i'n mynd i wella dy friwiau,” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. “Roedden nhw'n dy alw di ‘yr un gafodd ei gwrthod’. ‘Does neb yn poeni am Seion,’ medden nhw.”
18
Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Dw i'n mynd i adfer tai pobl Jacob, a thosturio wrth eu teuluoedd. Bydd y ddinas yn cael ei chodi eto ar safle ei hadfeilion, a'r palas yn cael ei ailadeiladu ble roedd o'r blaen.
19
Bydd canu mawl a diolch a sŵn pobl yn joio i'w glywed yn dod oddi yno. Bydda i'n gwneud i'w poblogaeth dyfu yn lle lleihau; Bydda i'n eu hanrhydeddu yn lle eu bod yn cael eu bychanu.
20
Bydd disgynyddion Jacob yn profi'r bendithion fel o'r blaen. Bydda i'n eu sefydlu nhw eto fel cymuned o bobl, a bydda i'n cosbi pawb sydd am eu gorthrymu nhw.
21
Bydd eu harweinydd yn un o'u pobl eu hunain; bydd yr un sy'n eu rheoli yn dod o'u plith. Bydda i'n ei wahodd i ddod ata i, a bydd yn dod. Pwy fyddai'n mentro dod heb gael gwahoddiad?” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
22
“Byddwch chi'n bobl i mi, a bydda i'n Dduw i chi.”
23
Gwyliwch chi! Mae'r ARGLWYDD yn ddig. Mae'n dod fel storm; fel corwynt dinistriol fydd yn disgyn ar y rhai drwg.
24
Fydd llid ffyrnig yr ARGLWYDD ddim yn tawelu nes bydd wedi gwneud popeth mae'n bwriadu ei wneud. Byddwch chi'n dod i ddeall y peth yn iawn ryw ddydd.
← Chapter 29
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 31 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52