bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Jeremiah 13
Jeremiah 13
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 12
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 14 →
1
Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i: “Dos i brynu lliain isaf newydd, a'i wisgo am dy ganol. A paid â'i olchi.”
2
Felly dyma fi'n prynu lliain isaf fel y dwedodd yr ARGLWYDD, a'i wisgo am fy nghanol.
3
Wedyn dyma'r ARGLWYDD yn rhoi neges arall i mi, a dweud,
4
“Cymer y lliain isaf brynaist ti, yr un rwyt ti'n ei wisgo, a dos at yr Afon Ewffrates. Cuddia fe yno mewn hollt yn y graig.”
5
Felly dyma fi'n mynd ac yn ei guddio wrth yr Ewffrates fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud.
6
Aeth amser maith heibio, a dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i, “Dos at yr Afon Ewffrates i nôl y lliain ddywedais i wrthot ti am ei guddio yno.”
7
Felly dyma fi'n mynd yno a palu am y lliain lle roeddwn i wedi ei guddio. Roedd wedi ei ddifetha, ac yn dda i ddim.
8
A dyma fi'n cael neges arall gan yr ARGLWYDD
9
yn dweud, “Dyna sut bydda i'n difetha balchder Jwda a Jerwsalem.
10
Mae'r bobl ddrwg yma yn gwrthod gwrando arna i. Maen nhw'n ystyfnig ac yn mynnu gwneud beth maen nhw eisiau. Maen nhw'n addoli eilun-dduwiau paganaidd. Felly byddan nhw'n cael eu difetha fel y lliain yma, sy'n dda i ddim bellach.
11
Yn union fel lliain isaf wedi ei rwymo'n dynn am ganol dyn, roeddwn i wedi rhwymo pobl Israel a Jwda amdana i,” meddai'r ARGLWYDD. “Roeddwn i eisiau iddyn nhw fod yn bobl sbesial i mi, yn fy anrhydeddu i, ac yn fy addoli i. Ond roedden nhw'n gwrthod gwrando.”
12
“Felly dywed wrthyn nhw mai dyma mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Mae pob jar gwin i gael ei lenwi â gwin!’ A byddan nhw'n ateb, ‘Wrth gwrs! Dŷn ni'n gwybod hynny'n iawn.’
13
Yna dywed di wrthyn nhw mai dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Dw i'n mynd i lenwi pobl y wlad yma nes byddan nhw'n feddw gaib — y brenhinoedd sy'n ddisgynyddion i Dafydd, yr offeiriaid, y proffwydi, a phobl Jerwsalem i gyd.
14
Bydda i'n eu malu nhw fel jariau yn erbyn ei gilydd, rhieni a'u plant. Fydda i'n dangos dim trueni na thosturi atyn nhw. Bydda i'n eu dinistrio nhw,’” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
15
Gwrandwch! Peidiwch bod yn falch! —mae'r ARGLWYDD wedi dweud.
16
Rhowch i'r ARGLWYDD eich Duw y parch mae'n ei haeddu cyn iddo ddod â thywyllwch arnoch chi. Cyn i chi faglu a syrthio wrth iddi dywyllu ar y mynyddoedd. Cyn i'r golau dych chi'n chwilio amdano droi'n dristwch ac yn dywyllwch dudew.
17
Os wnewch chi ddim gwrando, bydda i'n mynd o'r golwg i grïo am eich bod mor falch. Bydda i'n beichio crïo, a bydd y dagrau'n llifo, am fod praidd yr ARGLWYDD wedi ei gymryd yn gaeth.
18
“Dywed wrth y brenin a'r fam frenhines: ‘Dewch i lawr o'ch gorseddau ac eistedd yn y llwch. Bydd eich coronau hardd yn cael eu cymryd oddi arnoch.
19
Bydd giatiau trefi'r Negef wedi eu cau, a neb yn gallu eu hagor. Bydd pobl Jwda i gyd yn cael eu caethgludo!’”
20
“Edrych, Jerwsalem. Mae'r gelyn yn dod o'r gogledd. Ble mae'r praidd gafodd ei rhoi yn dy ofal di? Ble mae'r ‛defaid‛ roeddet ti mor falch ohonyn nhw?
21
Sut fyddi di'n teimlo pan fydd yr ARGLWYDD yn gosod y rhai wnest ti ffrindiau gyda nhw i dy reoli di? Byddi'n gwingo mewn poen fel gwraig ar fin cael babi.
22
Byddi'n gofyn i ti dy hun, ‘Pam mae'r pethau yma wedi digwydd i mi? Pam mae fy nillad wedi eu rhwygo i ffwrdd? Pam dw i wedi fy nhreisio fel hyn?’ A'r ateb ydy, am dy fod ti wedi gwneud cymaint o ddrwg!
23
Ydy dyn du yn gallu newid lliw ei groen? Ydy'r llewpard yn gallu cael gwared â'i smotiau? Na. A does dim gobaith i chi wneud da, am eich bod wedi hen arfer gwneud drwg!”
24
“Dw i'n mynd i'ch gyrru chi ar chwâl, fel us yn cael ei chwythu i bobman gan wynt yr anialwch.
25
Dyna beth sy'n dod i ti! Dyna wyt ti'n ei haeddu. Ti wedi fy anghofio i, a troi at dduwiau ffals yn fy lle.
26
Bydda i'n dy gywilyddio di — yn codi dy sgert dros dy wyneb a bydd pawb yn gweld dy rannau preifat.
27
Dw i wedi gweld y pethau ffiaidd ti'n eu gwneud: godinebu, a gweryru'n nwydus ar ôl duwiau eraill. Ti wedi puteinio gyda nhw ar ben y bryniau ac yn y caeau. Mae hi ar ben arnat ti, Jerwsalem! Fyddi di byth yn lân! Am faint mwy mae hyn i fynd ymlaen?”
← Chapter 12
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 14 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52