bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Jeremiah 37
Jeremiah 37
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 36
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 38 →
1
Sedeceia, mab i Joseia, wnaeth olynu Jehoiachin fab Jehoiacim yn frenin ar Jwda. Cafodd Sedeceia ei benodi'n frenin gan Nebwchadnesar, brenin Babilon.
2
Ond wnaeth e a'i swyddogion, na'r bobl gyffredin chwaith, ddim gwrando ar beth roedd yr ARGLWYDD yn ei ddweud drwy'r proffwyd Jeremeia.
3
Er hynny, dyma'r brenin Sedeceia yn anfon Iehwchal fab Shelemeia a'r offeiriad Seffaneia fab Maaseia at Jeremeia. Dwedodd wrthyn nhw am ofyn iddo, “Plîs gweddïa y bydd yr ARGLWYDD ein Duw yn ein helpu ni.”
4
(Ar y pryd roedd Jeremeia'n dal yn rhydd i fynd a dod. Doedd e ddim eto wedi cael ei roi yn y carchar.)
5
Roedd byddin Babilon wedi stopio ymosod ar Jerwsalem am y tro. Roedden nhw wedi clywed fod byddin y Pharo yn dod i fyny o'r Aifft, ac felly dyma nhw'n gadael Jerwsalem.
6
A dyma'r ARGLWYDD yn rhoi neges i Jeremeia:
7
“Dyma mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud: Dwedwch wrth frenin Jwda wnaeth eich anfon chi ata i am help: ‘Bydd byddin y Pharo, sydd ar ei ffordd i'ch helpu chi, yn mynd yn ôl adre i'r Aifft,
8
a bydd y Babiloniaid yn dod yn ôl i ymosod ar y ddinas yma. Byddan nhw'n ei choncro ac yn ei llosgi'n ulw.’
9
Mae'r ARGLWYDD yn dweud: ‘Peidiwch twyllo'ch hunain i feddwl y bydd y Babiloniaid yn mynd i ffwrdd ac yn gadael llonydd i chi. Fyddan nhw ddim yn mynd i ffwrdd.
10
Hyd yn oed petaech chi'n llwyddo i ddinistrio'r fyddin sy'n dod i ymladd yn eich erbyn chi, a gadael dim ond llond dwrn o ddynion wedi eu hanafu yn gorwedd yn eu pebyll, bydden nhw'n codi eto ac yn llosgi'r ddinas yma'n ulw.’”
11
Roedd byddin Babilon wedi gadael Jerwsalem am fod byddin y Pharo ar ei ffordd,
12
a dyma Jeremeia'n cychwyn allan o Jerwsalem i fynd adre i ardal Benjamin. Roedd yn mynd i dderbyn ei siâr e o'r tir oedd piau'r teulu.
13
Ond pan gyrhaeddodd Giât Benjamin dyma capten y gwarchodlu, sef Ireia (mab Shelemeia ac ŵyr i Chananeia), yn ei stopio. “Ti'n mynd drosodd at y Babiloniaid!” meddai wrtho.
14
Ond dyma Jeremeia'n ateb, “Na, dydy hynny ddim yn wir. Dw i ddim yn mynd drosodd at y Babiloniaid.” Ond roedd Ireia'n gwrthod gwrando arno, a dyma fe'n arestio Jeremeia a mynd ag e at y swyddogion.
15
Roedd y swyddogion yn wyllt gynddeiriog hefo Jeremeia. Ar ôl ei guro dyma nhw'n ei garcharu yn nhŷ Jonathan, yr ysgrifennydd brenhinol — roedd y tŷ wedi cael ei droi'n garchar.
16
Felly roedd Jeremeia yn y carchar, wedi ei roi mewn dwnsiwn. A buodd yno am amser hir.
17
Dyma'r brenin Sedeceia yn anfon am Jeremeia, a dod ag e i'r palas i'w holi'n gyfrinachol. “Oes gen ti neges gan yr ARGLWYDD?” meddai. “Oes,” meddai Jeremeia, “Ti'n mynd i gael dy roi yn nwylo brenin Babilon!”
18
Wedyn dyma Jeremeia'n gofyn i'r brenin, “Pa ddrwg dw i wedi ei wneud i ti, neu i dy swyddogion, neu i'r bobl yma? Pam ydych chi wedi fy nhaflu i yn y carchar?
19
A ble mae'r proffwydi hynny wnaeth broffwydo y byddai brenin Babilon ddim yn ymosod ar y wlad yma?
20
Plîs gwranda arna i, f'arglwydd frenin. Dw i'n pledio am drugaredd. Bydda i'n marw os gwnei di f'anfon i yn ôl i'r carchar yna yn nhŷ Jonathan yr ysgrifennydd.”
21
Felly dyma'r brenin Sedeceia yn gorchymyn cadw Jeremeia yn iard y gwarchodlu. Rhoddodd orchymyn hefyd ei fod i gael dogn o fara ffres o Stryd y Pobyddion bob dydd, o leia tra bod bara i'w gael yn y ddinas. Felly cafodd Jeremeia ei gadw yn iard y gwarchodlu.
← Chapter 36
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 38 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52