bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Jeremiah 26
Jeremiah 26
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 25
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 27 →
1
[1] Pan ddaeth Jehoiacim fab Joseia yn frenin ar Jwda ces i'r neges yma gan yr ARGLWYDD:
2
Dyma'r ARGLWYDD yn dweud, “Dos i sefyll yn iard teml yr ARGLWYDD. Siarada gyda'r bobl o holl drefi Jwda sydd wedi dod yno i addoli. Dywed wrthyn nhw bopeth fydda i'n ei ddweud — pob gair!
3
Falle y gwnân nhw wrando a stopio gwneud drwg. Wedyn fydda i ddim yn eu dinistrio nhw fel roeddwn i wedi bwriadu gwneud am yr holl bethau drwg roedden nhw'n eu gwneud.
4
Dywed wrthyn nhw mai dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Rhaid i chi wrando arna i, a byw fel dw i wedi'ch dysgu chi i fyw.
5
Rhaid i chi wrando ar neges fy ngweision y proffwydi. Dw i wedi eu hanfon nhw atoch chi dro ar ôl tro, ond dych chi wedi cymryd dim sylw.
6
Felly os daliwch chi i wrthod gwrando bydda i'n dinistrio'r deml yma fel gwnes i ddinistrio Seilo, a bydda i'n gwneud y ddinas yma'n esiampl i'r gwledydd o ddinas sydd wedi ei melltithio.’”
7
Roedd yr offeiriaid a'r proffwydi a'r bobl i gyd wedi clywed Jeremeia yn dweud y pethau yma yn y deml.
8
Ac yn syth ar ôl iddo orffen dweud popeth roedd yr ARGLWYDD wedi ei orchymyn iddo, dyma'r offeiriaid a'r proffwydi a'r bobl i gyd yn gafael ynddo gan weiddi, “Ti'n mynd i farw am hyn!
9
Rhag dy gywilydd di, yn honni fod yr ARGLWYDD wedi dweud wrthot ti am broffwydo'r fath bethau! Sut alli di broffwydo fod y deml yma yn mynd i gael ei dinistrio yr un fath â Seilo, a bod dinas Jerwsalem yn mynd i gael ei chwalu, ac y bydd neb yn byw ynddi?” A dyma'r bobl yn dechrau hel o gwmpas Jeremeia yn y deml.
10
Pan glywodd swyddogion Jwda beth oedd yn digwydd, dyma nhw'n rhuthro draw o'r palas brenhinol i deml yr ARGLWYDD ac yn cynnal achos llys wrth y Giât Newydd.
11
Dyma'r offeiriaid a'r proffwydi yn dweud wrth y llys a'r bobl beth oedd y cyhuddiad yn erbyn Jeremeia, “Rhaid dedfrydu'r dyn yma i farwolaeth! Mae wedi proffwydo yn erbyn y ddinas yma. Dych chi wedi ei glywed eich hunain.”
12
Yna dyma Jeremeia yn amddiffyn ei hun: “Yr ARGLWYDD sydd wedi fy anfon i, a dweud wrtho i am broffwydo popeth ydych chi wedi fy nghlywed i'n ei ddweud yn erbyn y deml a'r ddinas yma.
13
Rhaid i chi newid eich ffyrdd, a gwneud beth mae'r ARGLWYDD eich Duw yn ei ddweud. Os gwnewch chi hynny, fydd e ddim yn eich dinistrio chi fel roedd e wedi bygwth gwneud.
14
Ond dw i'n eich dwylo chi. Gwnewch chi beth bynnag dych chi'n feddwl sy'n iawn.
15
Ond deallwch hyn: Os gwnewch chi fy lladd i, byddwch yn tywallt gwaed dyn dieuog. Byddwch chi a'r ddinas yma a'i phobl yn gyfrifol am wneud hynny. Achos y ffaith ydy mai'r ARGLWYDD sydd wedi fy anfon i i'ch rhybuddio chi.”
16
Dyma'r swyddogion a'r bobl yn dweud wrth yr offeiriaid a'r proffwydi, “Dydy'r dyn yma ddim yn haeddu marw. Mae e wedi siarad ar ran yr ARGLWYDD ein Duw.”
17
A dyma rai o arweinwyr hŷn Jwda yn codi a dweud wrth y dyrfa o bobl oedd yno,
18
“Pan oedd Heseceia yn frenin ar Jwda, roedd Micha o Moresheth wedi proffwydo ac wedi dweud wrth y bobl, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddweud: Bydd Seion yn cael ei haredig fel cae, a bydd Jerwsalem yn bentwr o gerrig. Bydd y bryn ble mae'r deml yn sefyll, yn goedwig wedi tyfu'n wyllt.’
19
Wnaeth Heseceia a phobl Jwda roi Micha i farwolaeth? Naddo! Dangosodd Heseceia barch at yr ARGLWYDD a crefu arno i fod yn garedig wrthyn nhw. Wedyn wnaeth yr ARGLWYDD ddim eu dinistrio nhw fel roedd e wedi bygwth gwneud. Ond dŷn ni mewn peryg o wneud drwg mawr i ni'n hunain!”
20
Roedd yna ddyn arall o'r enw Wreia fab Shemaia o Ciriath-iearim yn proffwydo ar ran yr ARGLWYDD. Roedd e hefyd wedi proffwydo yn erbyn y ddinas yma a'r wlad, yn union yr un fath â Jeremeia.
21
Pan glywodd y brenin Jehoiacim a'i warchodwyr a'i swyddogion beth oedd y proffwyd yn ei ddweud, roedd yn mynd i'w ladd. Ond dyma Wreia'n clywed am y bwriad a dyma fe'n dianc am ei fywyd i'r Aifft.
22
Dyma'r brenin Jehoiacim yn anfon dynion i'r Aifft i'w ddal (Roedd Elnathan fab Achbor yn un ohonyn nhw),
23
a dyma nhw'n dod ag Wreia yn ôl yn garcharor at y brenin Jehoiacim. Dyma Jehoiacim yn gorchymyn ei ladd gyda'r cleddyf, a chafodd ei gorff ei gladdu ym mynwent y bobl gyffredin.
24
Ond roedd Achicam fab Shaffan o blaid Jeremeia, a gwrthododd drosglwyddo Jeremeia i'r bobl i gael ei ladd.
← Chapter 25
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 27 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52
Recommended Reading
Commentary
Jeremiah Commentaries
→
Devotional
Jeremiah Devotional Guide
→
Get This Bible
BNET Study Bible
→