bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Jeremiah 20
Jeremiah 20
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 19
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 21 →
1
Clywodd Pashchwr fab Immer beth ddwedodd Jeremeia. (Pashchwr oedd yr offeiriad oedd yn gyfrifol am gadw trefn yn y deml.)
2
A dyma fe'n gorchymyn arestio Jeremeia, ei guro a'i rwymo mewn cyffion wrth Giât Uchaf Benjamin yn y deml.
3
Y bore wedyn dyma Pashchwr yn gollwng Jeremeia'n rhydd. A dyma Jeremeia'n dweud wrtho, “Nid Pashchwr mae'r ARGLWYDD yn dy alw di ond ‘Dychryn ym mhobman.’
4
Achos dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Byddi di a dy ffrindiau wedi dychryn am eich bywydau. Byddi'n edrych arnyn nhw'n cael eu lladd gan eu gelynion. Dw i'n mynd i roi pobl Jwda yn nwylo brenin Babilon. Bydd e'n cymryd rhai yn gaeth i Babilon, a bydd rhai yn cael eu lladd.
5
Bydd cyfoeth y ddinas yma i gyd yn cael ei gario i ffwrdd i Babilon. Bydd y gelynion yn cymryd holl eiddo'r bobl, popeth gwerthfawr sydd ganddyn nhw, a thrysorau brenhinol Jwda.
6
Byddi di a dy deulu, dy weision a dy forynion i gyd, yn cael eich cymryd yn gaethion i Babilon. Dyna ble byddi di a dy ffrindiau'n marw ac yn cael eich claddu, sef pawb y buost ti'n pregethu celwydd iddyn nhw ac yn dweud y byddai popeth yn iawn.’”
7
ARGLWYDD, ti wedi fy nhwyllo i, a dw innau wedi gadael i ti wneud hynny. Ti gafodd y llaw uchaf am dy fod ti'n gryfach na fi. A dyma fi bellach yn ddim byd ond testun sbort i bobl. Mae pawb yn chwerthin ar fy mhen i!
8
Bob tro dw i'n agor fy ngheg rhaid i mi weiddi, “Mae trais a dinistr yn dod!” Mae neges yr ARGLWYDD yn fy ngwneud yn ddim byd ond jôc a thestun sbort i bobl drwy'r amser.
9
Dw i'n meddwl weithiau, “Wna i ddim sôn amdano eto. Dw i'n mynd i wrthod siarad ar ei ran!” Ond wedyn mae ei neges fel tân y tu mewn i mi. Mae fel fflam yn llosgi yn fy esgyrn. Dw i'n trïo fy ngorau i'w ddal yn ôl, ond alla i ddim!
10
Dw i wedi clywed lot fawr o bobl yn hel straeon amdana i. “‛Dychryn ym mhobman‛ wir! Gadewch i ni ddweud wrth yr awdurdodau amdano!” Mae hyd yn oed y rhai oedd yn ffrindiau i mi yn disgwyl i'm gweld i yn baglu. “Falle y gallwn ei ddenu i wneud rhywbeth gwirion, wedyn byddwn ni'n gallu dial arno!”
11
Ond mae'r ARGLWYDD hefo fi fel rhyfelwr ffyrnig. Felly, y rhai sy'n fy erlid i fydd yn baglu. Fyddan nhw ddim yn ennill! Byddan nhw'n teimlo cywilydd mawr am eu methiant. Fydd y gwarth byth yn cael ei anghofio!
12
O ARGLWYDD holl-bwerus, sy'n profi'r rhai sy'n gwneud beth sy'n iawn. Ti'n gwybod beth mae pobl yn ei feddwl a'i fwriadu. Tala nôl iddyn nhw am beth maen nhw'n ei wneud. Dw i'n dy drystio di i ddelio gyda'r sefyllfa.
13
Canwch i'r ARGLWYDD! Molwch yr ARGLWYDD! Mae e'n achub y tlawd o afael pobl ddrwg.
14
Melltith ar y diwrnod ces i fy ngeni! Does dim byd da am y diwrnod y cafodd mam fi.
15
Melltith ar y person roddodd y newyddion i dad a'i wneud mor hapus wrth ddweud, “Mae gen ti fab!”
16
Boed i'r person hwnnw fod fel y trefi hynny gafodd eu dinistrio'n ddidrugaredd gan yr ARGLWYDD; yn clywed sŵn sgrechian yn y bore, a sŵn gweiddi yn y rhyfel ganol dydd!
17
Pam wnaeth e ddim fy lladd i cyn i mi ddod allan o'r groth? Byddai croth fy mam yn fedd i mi, a hithau'n feichiog am byth.
18
Pam oedd rhaid i mi gael fy ngeni o gwbl? Dw i wedi gweld dim byd ond trafferthion a thristwch, ac wedi profi dim byd ond cywilydd ar hyd fy mywyd!
← Chapter 19
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 21 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52