bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Jeremiah 15
Jeremiah 15
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 14
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 16 →
1
Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud hyn wrtho i: “Hyd yn oed petai Moses a Samuel yn dod i bledio dros y bobl yma, fyddwn i ddim yn eu helpu nhw. Dos â nhw o ngolwg i! Anfon nhw i ffwrdd!
2
Ac os byddan nhw'n gofyn, ‘Ble awn ni?’, dywed wrthyn nhw: ‘Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Bydd y rhai sydd i farw o haint yn marw o haint. Bydd y rhai sydd i farw yn y rhyfel yn marw yn y rhyfel. Bydd y rhai sydd i farw o newyn yn marw o newyn. Bydd y rhai sydd i gael eu cymryd yn gaethion yn cael eu cymryd yn gaethion.”’
3
Bydd pedwar peth ofnadwy yn digwydd iddyn nhw,” meddai'r ARGLWYDD: “Bydd y cleddyf yn eu lladd. Bydd cŵn yn llusgo'r cyrff i ffwrdd. Bydd adar yn eu bwyta a'r anifeiliaid gwylltion yn gorffen beth sydd ar ôl.
4
Bydd beth fydd yn digwydd iddyn nhw yn dychryn pobl y gwledydd i gyd. Dyna'r gosb am beth wnaeth Manasse fab Heseceia, brenin Jwda, yn Jerwsalem.”
5
“Pwy sy'n mynd i deimlo trueni drosot ti, Jerwsalem? Fydd unrhyw un yn cydymdeimlo hefo ti? Fydd unrhyw un yn stopio i holi sut wyt ti?
6
Ti wedi troi cefn arna i”, meddai'r ARGLWYDD. “Rwyt ti wedi mynd o ddrwg i waeth! Felly dw i'n mynd i dy daro di a dy ddinistrio di. Dw i wedi blino rhoi cyfle arall i ti o hyd.
7
Dw i'n mynd i wahanu'r us a'r grawn ym mhob un o drefi'r wlad. Dw i'n mynd i ddinistrio fy mhobl, a chymryd eu plant i ffwrdd, am eu bod nhw wedi gwrthod newid eu ffyrdd.
8
Bydd mwy o weddwon nag o dywod ar lan y môr. Bydda i'n lladd dy filwyr ifanc ganol dydd, a chwalu bywydau eu mamau. Bydd dioddef a dychryn yn dod drostyn nhw'n sydyn.
9
Bydd y fam oedd â saith o feibion yn anadlu'n drwm mewn panig, ac yn llewygu. Mae'r haul oedd yn disgleirio yn ei bywyd wedi machlud ganol dydd. Mae hi'n eistedd mewn cywilydd a gwarth. A bydd y rhai sydd ar ôl yn cael eu lladd gan gleddyf y gelyn,” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
10
“O, mam! Dw i'n sori fy mod i wedi cael fy ngeni! Ble bynnag dw i'n mynd dw i'n dadlau a tynnu'n groes i bobl! Dw i ddim wedi benthyg arian i neb na benthyg arian gan neb. Ond mae pawb yn fy rhegi i!”
11
A dyma'r ARGLWYDD yn ateb: “Onid ydw i wedi dy wneud di'n gryf am reswm da? Bydda i'n gwneud i dy elynion bledio am dy help di pan fyddan nhw mewn trafferthion.
12
“Oes rhywun yn gallu torri haearn, haearn o'r gogledd gyda phres ynddo?”
13
“Am eich bod wedi pechu drwy'r wlad, bydda i'n rhoi eich cyfoeth a'ch trysorau yn ysbail i'ch gelynion.
14
Byddwch yn gwasanaethu eich gelynion mewn gwlad ddieithr. Mae fy llid yn llosgi fel tân fydd ddim yn diffodd.”
15
“ARGLWYDD, ti'n gwybod beth sy'n digwydd. Cofia amdana i, a tyrd i'm helpu i. Tyrd i dalu'n ôl i'r bobl hynny sy'n fy erlid i. Paid bod mor amyneddgar nes gadael iddyn nhw fy lladd i. Dw i'n diodde'r gwawdio er dy fwyn di.
16
Wrth i ti siarad ron i'n llyncu pob gair; roedd dy eiriau yn fy ngwneud i mor hapus — ron i wrth fy modd! I ti dw i'n perthyn O ARGLWYDD, y Duw holl-bwerus.
17
Wnes i ddim ymuno hefo pawb arall yn chwerthin a joio. Na, roeddwn i'n cadw ar wahân am fod dy law di arna i. Roeddwn i wedi gwylltio hefo nhw.
18
Felly pam dw i'n dal i ddioddef? Pam dw i'n gorfod goddef hyn i gyd — fel petawn i wedi fy anafu, a'r briw yn gwrthod gwella? Wyt ti'n mynd i'm siomi fel nant sydd wedi sychu? — wadi sydd a'i dŵr wedi diflannu.”
19
A dyma ateb yr ARGLWYDD: “Rhaid i ti stopio siarad fel yna! Gwna i dy gymryd di'n ôl wedyn, a cei ddal ati i'm gwasanaethu i. Dywed bethau gwerth eu dweud yn lle siarad rwtsh, wedyn cei ddal ati i siarad ar fy rhan i. Ti sydd i ddylanwadu arnyn nhw, nid nhw yn dylanwadu arnat ti!
20
Dw i'n mynd i dy wneud di yn gryf fel wal bres. Byddan nhw'n ymosod arnat ti ond yn methu dy drechu di. Bydda i'n edrych ar dy ôl di ac yn dy achub di.” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
21
“Bydda i'n dy achub di o afael y bobl ddrwg yma, ac yn dy ryddhau o grafangau pobl greulon,”
← Chapter 14
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 16 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52
Recommended Reading
Commentary
Jeremiah Commentaries
→
Devotional
Jeremiah Devotional Guide
→
Get This Bible
BNET Study Bible
→