bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Jeremiah 18
Jeremiah 18
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 17
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 19 →
1
Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi neges arall i Jeremeia:
2
“Dos i lawr i weithdy'r crochenydd, a bydda i'n siarad gyda ti yno.”
3
Felly dyma fi'n mynd i lawr i'r crochendy, a dyna ble roedd y crochenydd yn gweithio ar y droell.
4
Pan oedd rhywbeth o'i le ar y potyn roedd yn ei wneud o'r clai, byddai'n dechrau eto, ac yn gwneud rhywbeth oedd yn edrych yn iawn.
5
A dyma'r ARGLWYDD yn rhoi neges i mi:
6
“Ydw i ddim yn gallu gwneud yr un peth i ti, wlad Israel? Rwyt ti yn fy nwylo i fel mae'r clai yn nwylo'r crochenydd.
7
Galla i ddweud un funud fy mod i'n mynd i chwynnu a chwalu a dinistrio gwlad arbennig.
8
Ond os ydy pobl y wlad dw i'n ei bygwth yn stopio gwneud drwg, fydda i ddim yn ei dinistrio hi fel roeddwn i wedi dweud.
9
Dro arall bydda i'n addo adeiladu gwlad neu deyrnas arbennig a'i gwneud hi'n sefydlog.
10
Ond os ydy pobl y wlad honno'n gwneud drwg ac yn gwrthod gwrando arna i, fydda i ddim yn gwneud y pethau da wnes i addo iddi.
11
“Felly dywed wrth bobl Jwda a'r rhai sy'n byw yn Jerwsalem fod yr ARGLWYDD yn dweud: ‘Dw i'n paratoi i wneud drwg i chi, ac yn bwriadu eich cosbi chi. Felly rhaid i bob un ohonoch newid eich ffyrdd a stopio gwneud y pethau drwg dych chi'n eu gwneud.’
12
“Ond byddan nhw'n dweud, ‘Does dim pwynt. Dŷn ni'n mynd i ddal ati i wneud beth dŷn ni eisiau.’”
13
Felly dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Gofyn i bobl y gwledydd eraill os ydyn nhw wedi clywed am y fath beth! Mae Jerwsalem, dinas lân Israel, wedi gwneud peth cwbl ffiaidd!
14
Ydy'r eira'n diflannu oddi ar lethrau creigiog Libanus? Ydy nentydd oer y mynyddoedd pell yn stopio llifo? Nac ydyn.
15
Ond mae fy mhobl wedi fy anghofio i. Maen nhw'n llosgi arogldarth i eilun-dduwiau diwerth! Gwnaeth hynny iddyn nhw faglu a gadael yr hen ffyrdd a mynd ar goll ar lwybrau diarffordd.
16
O ganlyniad, bydd pethau ofnadwy yn digwydd i'r wlad. Fydd pobl ddim yn stopio chwibanu mewn rhyfeddod. Bydd pawb sy'n pasio heibio yn dychryn ac yn ysgwyd eu pennau'n syn.
17
Dw i'n mynd i wneud i'w gelynion eu gyrru nhw ar chwâl, fel tywod yn cael ei yrru gan wynt y dwyrain. Bydda i'n troi cefn arnyn nhw yn lle troi i'w helpu nhw pan ddaw'r drychineb.”
18
A dyma'r bobl yn dweud, “Dewch, gadewch i ni ddelio hefo Jeremeia. Bydd yn dal gynnon ni offeiriaid i roi arweiniad i ni, dynion doeth i roi cyngor i ni, a phroffwydi i roi neges Duw i ni. Dewch, gadewch i ni ddod â cyhuddiadau yn ei erbyn. Fydd dim rhaid i ni wrando arno fe o gwbl wedyn.”
19
“ARGLWYDD, wnei di ymateb plîs? Gwranda beth mae fy ngelynion yn ei ddweud.
20
Ydy'n iawn i dalu drwg am dda? Maen nhw wedi cloddio twll i mi. Wyt ti ddim yn cofio fel roeddwn i'n pledio ar eu rhan nhw o dy flaen di? Roeddwn i'n ceisio dy stopio di rhag bod yn ddig hefo nhw.
21
Felly gad i'w plant nhw lwgu! Gad iddyn nhw farw yn y rhyfel! Gwna eu gwragedd yn weddwon heb blant. Gad i'r dynion hŷn gael eu lladd gan heintiau, a'r bechgyn ifanc wrth ymladd yn y rhyfel.
22
Gad i sŵn sgrechian gael ei glywed yn y tai wrth i gangiau o filwyr ymosod arnyn nhw'n ddirybudd. Maen nhw wedi cloddio twll i mi a gosod trapiau i geisio fy nal.
23
ARGLWYDD, rwyt ti'n gwybod eu bod nhw'n bwriadu fy lladd i. Paid maddau iddyn nhw eto. Paid cuddio eu pechodau nhw o dy olwg. Gad iddyn nhw faglu o dy flaen. Delia gyda nhw yn dy ddig.”
← Chapter 17
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 19 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52