bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Jeremiah 4
Jeremiah 4
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 5 →
1
“Dim ond i ti droi yn ôl, o Israel,” meddai'r ARGLWYDD “Ie, troi yn ôl! Cael gwared â'r eilun-dduwiau ffiaidd yna o'm golwg i a stopio crwydro o hyn ymlaen.
2
Dweud y gwir, a bod yn onest wrth dyngu llw, ‘Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw!’ Wedyn bydd y cenhedloedd am iddo eu bendithio nhw, a byddan nhw'n ymffrostio ynddo.”
3
Ie, dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud wrthoch chi bobl Jwda a Jerwsalem: “Rhaid i chi drin y tir caled, a peidio hau had da yng nghanol drain.
4
Rhoi eich hunain yn llwyr i'r ARGLWYDD, newid eich agwedd a chael gwared â phob rhwystr. Os na wnewch chi, bydda i'n ddig. Bydda i fel tân yn llosgi a neb yn gallu ei ddiffodd, o achos yr holl ddrwg dych chi wedi ei wneud.”
5
“Cyhoeddwch hyn yn Jwda, a dweud wrth bawb yn Jerwsalem: ‘Chwythwch y corn hwrdd i rybuddio pobl drwy'r wlad i gyd.’ Gwaeddwch yn uchel, ‘Dewch, rhaid dianc i'r trefi caerog!’
6
Codwch arwydd yn dweud, ‘I Seion!’ Ffowch i le saff! Peidiwch sefyllian! Dw i ar fin dod â dinistr o gyfeiriad y gogledd — trychineb ofnadwy!
7
Mae llew wedi dod allan o'i ffau! Mae'r un sy'n dinistrio cenhedloedd ar ei ffordd. Mae'n dod i ddifetha'r wlad, a gwneud ei threfi yn adfeilion lle bydd neb yn byw.
8
Felly gwisgwch sachliain, a galaru ac udo: ‘Mae'r ARGLWYDD yn dal wedi digio'n lân hefo ni.’”
9
“Y diwrnod hwnnw,” meddai'r ARGLWYDD, “bydd y brenin a'i swyddogion wedi colli pob hyder. Bydd yr offeiriaid yn syfrdan a'r proffwydi'n methu dweud gair.”
10
Fy ymateb i oedd, “O! Feistr, ARGLWYDD, mae'n rhaid dy fod ti wedi twyllo'r bobl yma'n llwyr, a Jerwsalem hefyd! Roeddet ti wedi addo heddwch i Jerwsalem, ond mae cleddyf yn cyffwrdd ein gyddfau ni!”
11
Bryd hynny bydd yr ARGLWYDD yn dweud wrth y bobl yma ac wrth Jerwsalem, “Bydd gwynt poeth o fryniau'r anialwch yn chwythu ar fy mhobl druan. Nid rhyw wynt ysgafn i nithio'r had a chwythu'r us i ffwrdd fydd e.
12
Na, bydd yn wynt llawer rhy gryf i hynny! Dw i fy hun yn mynd i'w barnu nhw.”
13
Edrychwch! Mae'r gelyn yn dod fel cymylau'n casglu. Mae sŵn ei gerbydau fel sŵn corwynt, a'i geffylau yn gyflymach nag eryrod. “Gwae ni, mae hi ar ben arnon ni!” meddai'r bobl.
14
O, Jerwsalem, golcha'r drwg o dy galon i ti gael dy achub. Am faint wyt ti'n mynd i ddal gafael yn dy syniadau dinistriol?
15
Mae negeswyr yn dod i gyhoeddi dinistr, o dref Dan ac o fryniau Effraim.
16
Cyhoeddwch i'r gwledydd o'i chwmpas, “Maen nhw yma!” a dwedwch wrth Jerwsalem, “Mae'r rhai sy'n ymosod ar ddinasoedd wedi dod o wlad bell, ac yn bloeddio, ‘I'r gâd!’ yn erbyn trefi Jwda.”
17
Maen nhw'n cau amdani o bob cyfeiriad, fel gwylwyr yn gofalu am gae. “Ydy, mae hi wedi gwrthryfela yn fy erbyn i,” meddai'r ARGLWYDD.
18
Ti wedi dod â hyn arnat dy hun, am y ffordd rwyt wedi byw a'r pethau rwyt wedi eu gwneud. Bydd dy gosb yn brofiad chwerw! Bydd fel cleddyf yn treiddio i'r byw!
19
O'r poen dw i'n ei deimlo! Mae fel gwayw yn fy mol, ac mae fy nghalon i'n pwmpio'n wyllt. Alla i ddim cadw'n dawel wrth glywed y corn hwrdd yn seinio a'r milwyr yn gweiddi “I'r gâd!”
20
Mae un dinistr yn dod ar ôl y llall, nes bod y wlad i gyd wedi ei difetha. Yn sydyn mae pob pabell wedi ei dinistrio, a'u llenni wedi eu rhwygo mewn chwinciad.
21
Am faint mae'n rhaid edrych ar faneri'r gelyn? Am faint rhaid i'r rhyfela fynd ymlaen?
22
“Mae fy mhobl yn ffyliaid. Dŷn nhw ddim yn fy nabod i go iawn. Maen nhw fel plant heb ddim sens. Dŷn nhw'n deall dim byd! Maen nhw'n hen lawiau ar wneud drwg, ond ddim yn gwybod sut i wneud beth sy'n dda.”
23
Edrychais ar y ddaear, ac roedd yn anrhefn gwag. Edrychais i'r awyr, a doedd dim golau!
24
Edrychais ar y mynyddoedd, ac roedden nhw'n crynu! Roedd y bryniau i gyd yn gwegian.
25
Edrychais eto — doedd dim pobl yn unman, ac roedd yr adar i gyd wedi hedfan i ffwrdd.
26
Edrychais, ac roedd y tir amaeth wedi troi'n anialwch, a'r trefi i gyd yn adfeilion. Yr ARGLWYDD oedd wedi achosi'r cwbl, am ei fod wedi digio'n lân hefo ni.
27
Ie, dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Bydd y tir i gyd yn destun sioc ond fydda i ddim yn ei ddinistrio'n llwyr.
28
Bydd y ddaear yn galaru, a'r awyr wedi tywyllu. Dw i wedi dweud yn glir beth dw i am ei wneud, a dw i ddim yn bwriadu newid fy meddwl.”
29
Mae sŵn y marchogion a'r bwasaethwyr yn dod, ac mae pawb yn ffoi o'r trefi. Maen nhw'n cuddio yn y llwyni, ac yn dringo'r clogwyni. Mae'r trefi'n wag — does neb ar ôl ynddyn nhw!
30
A tithau'r ddinas sy'n mynd i gael dy ddinistrio — Beth wyt ti'n wneud yn dy ddillad gorau? Pam wyt ti'n addurno dy hun hefo dy dlysau? Pam wyt ti'n rhoi colur ar dy lygaid? Does dim pwynt i ti wisgo colur. Mae dy ‛gariadon‛ wedi dy wrthod; maen nhw eisiau dy ladd di!
31
I ddweud y gwir, dw i wedi clywed sŵn crïo. Sŵn gwraig ifanc mewn poen wrth gael ei babi cyntaf. Sŵn Seion yn anadlu'n drwm, ac yn pledio am help: “Mae ar ben arna i! Mae'r llofruddion yma wedi cael y gorau arna i.”
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 5 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52