bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Jeremiah 21
Jeremiah 21
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 20
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 22 →
1
Dyma neges arall roddodd yr ARGLWYDD i Jeremeia, pan gafodd Pashchwr fab Malcîa, a'r offeiriad Seffaneia fab Maaseia eu danfon ato gan y Brenin Sedeceia.
2
“Wnei di ofyn i'r ARGLWYDD ein helpu ni?” medden nhw. “Mae Nebwchadnesar, brenin Babilon, ar fin ymosod arnon ni. Falle y bydd yr ARGLWYDD yn gwneud gwyrth fel yn y gorffennol, ac yn ei anfon i ffwrdd oddi wrthon ni.”
3
A dyma oedd ateb Jeremeia: “Dyma mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud:
4
‘Mae dy fyddin wedi mynd allan i ymladd yn erbyn byddin brenin Babilon, ond dw i'n mynd i wneud iddyn nhw droi yn ôl. Bydda i'n dod â nhw yn ôl i'r ddinas yma.
5
Dw i'n wyllt, ac wedi digio'n fawr hefo chi, a dw i fy hun yn mynd i ymladd yn eich erbyn chi gyda'm holl nerth a'm grym.
6
Dw i'n mynd i daro popeth byw yn y ddinas yma — yn bobl ac anifeiliaid. Byddan nhw'n marw o haint erchyll.
7
Wedyn,’ meddai'r ARGLWYDD, ‘bydda i'n rhoi Sedeceia, brenin Jwda (a'i swyddogion a phawb arall fydd yn dal yn fyw, ar ôl yr haint y rhyfel a'r newyn) yn nwylo Nebwchadnesar, brenin Babilon. Bydd eu gelynion yn eu dal nhw, ac yn eu lladd â'r cleddyf. Fyddan nhw'n dangos dim piti. Fydd neb yn cael eu harbed. Fydd dim trugaredd o gwbl!’
8
“Yna dywed wrth bobl Jerwsalem mai dyma dw i, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud wrthyn nhw: ‘Dw i'n rhoi dewis i chi — ffordd bywyd neu ffordd marwolaeth.
9
Bydd y rhai sy'n aros yn y ddinas yma yn cael eu lladd yn y rhyfel, neu'n marw o newyn neu haint. Ond bydd pawb sy'n mynd allan ac yn ildio i'r Babiloniaid sy'n gwarchae ar y ddinas yma, yn cael byw.
10
Dw i wedi penderfynu gwneud drwg i'r ddinas yma yn lle gwneud da. Dw i'n mynd i adael i frenin Babilon ei choncro hi, a bydd yn ei llosgi'n ulw.’” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
11
[11-12] Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud wrth deulu brenhinol Jwda, sy'n perthyn i linach Dafydd: “Gwrandwch ar neges yr ARGLWYDD — ‘Gwnewch yn siŵr fod pobl yn cael tegwch yn y llysoedd. Achubwch bobl sy'n dioddef o grafangau'r rhai sy'n eu gormesu nhw. Os na wnewch chi, bydda i'n ddig. Bydda i fel tân yn llosgi a neb yn gallu ei ddiffodd, o achos yr holl ddrwg dych chi wedi ei wneud.
13
Hei, ti sydd wedi dy orseddu uwchben y dyffryn ar y byrdd-dir creigiog — dw i yn dy erbyn di!’ —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. ‘Dych chi'n dweud, “Fydd neb yn gallu ymosod arnon ni yma. Does gan neb obaith dod i mewn aton ni!”
14
Ond dw i'n mynd i roi'r gosb dych chi'n ei haeddu i chi,’ —meddai'r ARGLWYDD. ‘Bydda i'n rhoi dy balas ar dân, a bydd popeth o dy gwmpas yn cael ei losgi.’”
← Chapter 20
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 22 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52