bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Jeremiah 46
Jeremiah 46
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 45
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 47 →
1
Y negeseuon roddodd yr ARGLWYDD i Jeremeia am y gwledydd eraill.
2
Dyma'r neges am yr Aifft, ac am fyddin Pharo Necho, brenin yr Aifft, oedd yn gwersylla yn Carcemish ar lan afon Ewffrates. (Cafodd y fyddin ei threchu gan Nebwchadnesar, brenin Babilon, yn y bedwaredd flwyddyn pan oedd Jehoiacim fab Joseia yn frenin ar Jwda):
3
“I'ch rhengoedd! Tariannau'n barod! I'r gâd!
4
Harneisiwch y ceffylau i'r cerbydau! Ar gefnau eich stalwyni! Helmedau ymlaen! Pawb i'w le! Rhowch fin ar eich picellau! Arfwisg ymlaen!”
5
“Ond beth dw i'n weld?” meddai'r ARGLWYDD. “Maen nhw wedi dychryn. Maen nhw'n ffoi Mae'r milwyr dewr yn syrthio. Maen nhw'n dianc am eu bywydau, heb edrych yn ôl.” Does ond dychryn ym mhobman!
6
Dydy'r cyflymaf ddim yn gallu dianc; dydy'r cryfaf ddim yn llwyddo i ffoi. Maen nhw'n baglu ac yn syrthio ar lan Afon Ewffrates yn y gogledd.
7
Pwy ydy'r wlad sy'n codi fel yr Afon Nil, a'r afonydd sy'n llifo iddi ac yn gorlifo?
8
Yr Aifft sy'n codi ac yn brolio ei bod yn mynd i orchuddio'r ddaear fel llifogydd, a dinistrio dinasoedd a'u pobl.
9
“Ymlaen! Rhuthrwch i'r frwydr farchogion! Gyrrwch yn wyllt yn eich cerbydau! Martsiwch yn eich blaenau, filwyr traed — y cynghreiriaid o Affrica a Libia gyda'i tariannau; a'r rhai o Lydia sy'n trin bwa saeth.”
10
Ond mae beth fydd yn digwydd y diwrnod hwnnw yn llaw'r Meistr, yr ARGLWYDD holl-bwerus. Diwrnod o dalu'n ôl i'w elynion. Bydd y cleddyf yn difa nes cael digon; bydd wedi meddwi ar eu gwaed! Mae'r Meistr, yr ARGLWYDD holl-bwerus, yn eu cyflwyno nhw'n aberth ar lan Afon Ewffrates yn y gogledd.
11
Dos i fyny i Gilead i chwilio am eli, o wyryf annwyl yr Aifft! Gelli drïo pob moddion dan haul, ond i ddim pwrpas — does dim gwella i fod i ti!
12
Bydd y gwledydd yn clywed am dy gywilydd. Bydd sŵn dy gri am help yn mynd drwy'r byd i gyd. Bydd dy filwyr cryfaf yn baglu dros ei gilydd, ac yn syrthio gyda'i gilydd!
13
Y neges roddodd yr ARGLWYDD i Jeremeia am Nebwchadnesar, brenin Babilon, yn dod i ymosod ar wlad yr Aifft:
14
“Cyhoeddwch hyn drwy wlad yr Aifft, yn Migdol, Memffis a Tachpanches: ‘Pawb i'w le! Byddwch barod i amddiffyn! Mae pobman o'ch cwmpas yn cael ei ddinistrio gan y gelyn.’
15
Pam mae dy dduw Apis wedi ffoi? Pam wnaeth dy darw ddim dal ei dir? Am bod yr ARGLWYDD wedi ei fwrw i lawr!
16
Gwnaeth i lu o filwyr syrthio a baglu dros ei gilydd wrth geisio dianc. ‘Gadewch i ni fynd yn ôl at ein pobl,’ medden nhw. ‘Mynd yn ôl i'n gwledydd ein hunain, a dianc rhag i'r gelyn ein lladd!’
17
Bydd y Pharo, brenin yr Aifft, yn cael y llysenw ‘Ceg fawr wedi colli ei gyfle!’”
18
“Mor sicr a'm bod i fy hun yn fyw,” meddai'r Brenin (yr ARGLWYDD holl-bwerus ydy ei enw e), “mae'r gelyn yn dod i ymosod ar yr Aifft. Bydd yn sefyll fel Mynydd Tabor yng nghanol y bryniau, neu Fynydd Carmel ar lan y môr.
19
‘Paciwch eich bagiau bobl yr Aifft, yn barod i'ch cymryd yn gaethion!’ Mae Memffis yn mynd i gael ei difetha; bydd yn adfeilion gyda neb yn byw yno.
20
Mae'r Aifft fel heffer a golwg da arni, ond bydd haid o bryfed o'r gogledd yn dod a'i phigo.
21
Mae'r milwyr tâl sydd yn ei chanol fel lloi wedi eu pesgi. Ond byddan nhw hefyd yn troi a dianc gyda'i gilydd; wnân nhw ddim sefyll eu tir. Mae'r dydd y cân nhw eu dinistrio wedi dod; mae'n bryd iddyn nhw gael eu cosbi.
22
Mae'r Aifft fel neidr yn llithro i ffwrdd yn dawel, tra mae byddin y gelyn yn martsio'n hyderus. Maen nhw'n dod yn ei herbyn gyda bwyeill, fel dynion yn mynd i dorri coed.
23
Bydd yr Aifft fel coedwig drwchus yn cael ei thorri i lawr, —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. Mae'r dyrfa sy'n dod yn ei herbyn fel haid o locustiaid! Mae'n amhosib eu cyfri nhw!
24
Bydd pobl yr Aifft yn cael eu cywilyddio. Byddan nhw'n cael eu concro gan fyddin o'r gogledd.”
25
Mae'r ARGLWYDD holl-bwerus, Duw Israel, yn dweud: “Dw i'n mynd i gosbi Amon, sef duw Thebes, a chosbi'r Aifft, ei duwiau a'i brenhinoedd. Dw i'n mynd i gosbi'r Pharo, a phawb sy'n ei drystio fe.
26
Dw i'n mynd i'w rhoi nhw yn nwylo'r rhai sydd eisiau eu lladd nhw — sef Nebwchadnesar, brenin Babilon, a'i filwyr. Ond ar ôl hynny bydd pobl yn byw yng ngwlad yr Aifft fel o'r blaen,” meddai'r ARGLWYDD.
27
“Felly, peidiwch bod ag ofn bobl Jacob, fy ngweision,” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. “Peidiwch anobeithio bobl Israel. Dw i'n mynd i'ch achub chi a'ch plant o'r wlad bell lle buoch yn gaeth. Bydd pobl Jacob yn dod yn ôl adre ac yn mwynhau heddwch. Byddan nhw'n teimlo'n saff a fydd neb yn eu dychryn nhw.
28
Peidiwch bod ag ofn, bobl Jacob, fy ngweision,” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn— “dw i gyda chi. Dw i'n mynd i ddinistrio'r gwledydd hynny lle gwnes i eich gyrru chi ar chwâl, ond wna i ddim eich dinistrio chi. Bydda i yn eich disgyblu chi, ond dim ond faint dych chi'n ei haeddu; alla i ddim peidio'ch cosbi chi o gwbl.”
← Chapter 45
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 47 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52