bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Jeremiah 33
Jeremiah 33
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 32
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 34 →
1
Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi neges i Jeremeia yr ail waith (Roedd yn dal yn gaeth yn iard y gwarchodlu ar y pryd):
2
“Fi, yr ARGLWYDD, sy'n gwneud hyn. Dw i'n cyflawni beth dw i'n ei fwriadu. Yr ARGLWYDD ydy fy enw i.
3
Galwa arna i, a bydda i'n ateb. Gwna i ddangos i ti bethau mawr cudd allet ti ddim eu gwybod ohonot dy hun.
4
“Dyma dw i, yr ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Mae tai y ddinas yma a hyd yn oed y palasau brenhinol wedi eu chwalu i gael deunydd i amddiffyn rhag y rampiau gwarchae a'r ymosodiadau.
5
Dych chi'n bwriadu ymladd y Babiloniaid, ond bydd y tai yma yn cael eu llenwi hefo cyrff marw. Dw i'n mynd i daro pobl y ddinas yma yn ffyrnig. Dw i wedi troi cefn arnyn nhw am eu bod nhw wedi gwneud cymaint o ddrwg.
6
“‘Ond bydda i yn iacháu'r ddinas yma eto. Dw i'n mynd i'w gwella nhw, a rhoi heddwch a'i cadw nhw'n saff am byth.
7
Bydda i'n rhoi popeth wnaeth Israel a Jwda ei golli yn ôl iddyn nhw. Dw i'n mynd i'w hadeiladu nhw eto, fel roedden nhw o'r blaen.
8
Dw i'n mynd i'w glanhau nhw o'u holl bechodau yn fy erbyn i. Bydda i'n maddau eu pechodau a'u gwrthryfel yn fy erbyn i.
9
Bydd y gwledydd i gyd yn clywed am y pethau da fydda i'n eu gwneud iddyn nhw. Bydd y ddinas yma yn fy ngwneud i'n enwog, ac yn dod ag anrhydedd a mawl i mi, am fy mod i wedi gwneud ei phobl hi mor llawen. Bydd y gwledydd wedi dychryn am fy mod i wedi gwneud cymaint o dda i'r ddinas ac wedi rhoi heddwch iddi.’”
10
“Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Dych chi'n dweud am y lle yma, “Mae'r wlad yma'n anialwch diffaith. Does dim pobl nag anifeiliaid yn byw yma.” Gwir! Yn fuan iawn bydd pentrefi Jwda a strydoedd Jerwsalem yn wag — fydd neb yn byw yma, a fydd dim anifeiliaid yma chwaith. Ac eto bydd sŵn
11
pobl yn chwerthin ac yn joio a mwynhau eu hunain mewn parti priodas i'w glywed yma eto. A bydd sŵn pobl yn canu wrth fynd i'r deml i gyflwyno offrwm diolch i'r ARGLWYDD: “Diolchwch i'r ARGLWYDD holl-bwerus. Mae e mor dda aton ni; Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!” Dw i'n mynd i roi'r cwbl oedd gan y wlad ar y dechrau yn ôl iddi,’ meddai'r ARGLWYDD.
12
“Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddweud: ‘Mae'n wir — bydd y lle yma yn adfeilion, heb bobl nag anifeiliaid yn byw yma. Ond yna ryw ddydd bydd bugeiliaid unwaith eto yn arwain eu praidd i orffwys yma.
13
Bydd bugeiliaid yn cyfrif eu defaid wrth iddyn nhw fynd i'r gorlan yn y pentrefi i gyd, yn y bryniau a'r iseldir i'r gorllewin, yn y Negef i'r de, ar dir llwyth Benjamin, yn yr ardal o gwmpas Jerwsalem ac yn nhrefi Jwda i gyd. Fi, yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn!
14
“‘Mae'r amser yn dod,’ meddai'r ARGLWYDD, ‘pan fydda i'n gwneud beth dw i wedi addo ei wneud i bobl Israel a Jwda.
15
Bryd hynny, bydda i'n gwneud i flaguryn dyfu ar goeden deuluol Dafydd, un fydd yn gwneud beth sy'n iawn. Bydd e'n gwneud beth sy'n gyfiawn ac yn deg yn y wlad.
16
Bryd hynny bydd Jwda'n cael ei hachub, a bydd Jerwsalem yn saff. Bydd e'n cael ei alw, “Yr ARGLWYDD sy'n rhoi cyfiawnder i ni.” ’
17
“Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Bydd un o ddisgynyddion Dafydd yn eistedd ar orsedd Israel am byth.
18
A bydd yna bob amser offeiriaid o lwyth Lefi yn sefyll o'm blaen i gyflwyno offrymau i'w llosgi, offrymau o rawn, ac aberthau.’”
19
Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i Jeremeia:
20
“Dyma dw i, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud: ‘Does neb yn gallu torri'r patrwm o nos a dydd yn dilyn ei gilydd mewn trefn.
21
A'r un fath, does neb yn gallu torri'r ymrwymiad dw i wedi ei wneud i Dafydd fy ngwas, sef y bydd un o'i ddisgynyddion yn frenin bob amser. A does neb yn gallu torri'r ymrwymiad dw i wedi ei wneud i lwyth Lefi chwaith.
22
Bydd cymaint o ddisgynyddion gan Dafydd fy ngwas, a'r rhai o lwyth Lefi sy'n fy ngwasanaethu i. Byddan nhw fel y sêr yn yr awyr neu'r tywod ar lan y môr — yn gwbl amhosib i'w cyfri!’ ”
23
Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i Jeremeia:
24
“Mae'n siŵr dy fod ti wedi clywed beth mae pobl yn ei ddweud — ‘Mae'r ARGLWYDD wedi gwrthod y ddau deulu wnaeth e ddewis!’ Does ganddyn nhw ddim parch at fy mhobl i. Dŷn nhw ddim yn eu hystyried nhw'n genedl ddim mwy.
25
Ond dw i, yr ARGLWYDD, yn addo hyn: Dw i wedi gosod trefn i reoli dydd a nos, ac wedi gosod deddfau i'r awyr a'r ddaear. Dydy'r pethau yna byth yn mynd i gael eu newid.
26
A'r un modd dw i ddim yn mynd i wrthod disgynyddion Jacob. Bydd un o ddisgynyddion Dafydd yn teyrnasu ar ddisgynyddion Abraham, Isaac a Jacob. Byddan nhw'n cael popeth maen nhw wedi ei golli yn ôl. Dw i'n mynd i ddangos trugaredd atyn nhw.”
← Chapter 32
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 34 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52