bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Jeremiah 41
Jeremiah 41
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 40
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 42 →
1
Yna yn y seithfed mis dyma Ishmael (mab Nethaneia ac ŵyr i Elishama) yn mynd i gyfarfod Gedaleia fab Achicam yn Mitspa. Roedd deg o ddynion eraill gydag e. (Roedd Ishmael yn perthyn i'r teulu brenhinol, ac roedd wedi bod yn un o brif swyddogion y brenin Sedeceia.) Roedden nhw'n cael pryd bwyd gyda'i gilydd yn Mitspa.
2
Ond yn sydyn dyma Ishmael a'r dynion oedd gydag e yn codi ac yn tynnu eu cleddyfau a lladd Gedaleia, y dyn oedd brenin Babilon wedi ei benodi i reoli'r wlad.
3
Lladdodd Ishmael hefyd bob un o swyddogion Jwda oedd gyda Gedaleia yn Mitspa, a rhai milwyr o Babilon oedd yn digwydd bod yno.
4
Y diwrnod wedyn, cyn i neb glywed fod Gedaleia wedi ei lofruddio,
5
dyma wyth deg o ddynion yn cyrraedd yno o Sichem, Seilo a Samaria. Roedden nhw wedi siafio eu barfau, rhwygo eu dillad a thorri eu hunain â chyllyll, ac yn dod ag offrymau o rawn ac arogldarth i'w gyflwyno i'r ARGLWYDD yn y deml yn Jerwsalem.
6
Aeth Ishmael allan i'w cyfarfod nhw. Roedd yn cymryd arno ei fod yn crïo. A pan ddaeth atyn nhw, dyma fe'n dweud wrthyn nhw, “Dewch i weld Gedaleia fab Achicam.”
7
Ond pan aethon nhw i mewn i'r ddinas, dyma Ishmael a'r dynion oedd gydag e yn eu lladd nhw hefyd a taflu eu cyrff i bydew.
8
Llwyddodd deg ohonyn nhw i arbed eu bywydau trwy ddweud wrth Ishmael, “Paid lladd ni. Mae gynnon ni stôr o wenith, haidd, olew a mêl wedi ei guddio mewn cae.” Felly wnaeth Ishmael ddim eu lladd nhw gyda'r lleill.
9
Roedd y pydew lle taflodd Ishmael gyrff y dynion laddwyd yn un mawr. (Dyma'r pydew oedd Asa, brenin Jwda, wedi ei adeiladu pan oedd yn amddiffyn y ddinas rhag Baasha, brenin Israel.) Ond roedd Ishmael wedi llenwi'r pydew gyda'r cyrff!
10
Yna dyma Ishmael yn cymryd pawb oedd yn Mitspa yn gaeth — roedd hyn yn cynnwys merched o'r teulu brenhinol, a phawb arall oedd Nebwsaradan, capten y gwarchodlu brenhinol, wedi eu gosod dan awdurdod Gedaleia fab Achicam. Cymerodd Ishmael nhw i gyd yn gaeth a cychwyn ar ei ffordd yn ôl i wlad Ammon.
11
Pan glywodd Iochanan fab Careach a swyddogion eraill y fyddin am y pethau erchyll oedd Ishmael fab Nethaneia wedi eu gwneud,
12
dyma nhw'n mynd â'u milwyr i ymladd yn ei erbyn. Cawson nhw hyd iddo wrth y pwll mawr yn Gibeon.
13
Roedd y bobl oedd Ishmael wedi eu cymryd yn gaethion o Mitspa wrth eu boddau pan welon nhw Iochanan a swyddogion eraill y fyddin gydag e.
14
Dyma nhw'n troi a mynd drosodd at Iochanan fab Careach.
15
Ond llwyddodd Ishmael fab Nethaneia ac wyth o ddynion eraill i ddianc a croesi drosodd i wlad Ammon.
16
Dyma Iochanan fab Careach, a swyddogion eraill y fyddin oedd gydag e, yn arwain y bobl oedd wedi eu hachub i ffwrdd. (Roedd dynion, gwragedd a phlant, a swyddogion y llys yn eu plith, sef y bobl roedd Ishmael fab Nethaneia wedi eu cymryd yn gaeth o Mitspa ar ôl llofruddio Gedaleia fab Achicam.) Ar ôl gadael Gibeon
17
dyma nhw'n aros yn Llety Cimham, sydd wrth ymyl Bethlehem. Y bwriad oedd mynd i'r Aifft
18
i ddianc oddi wrth y Babiloniaid. Roedd ganddyn nhw ofn beth fyddai'r Babiloniaid yn ei wneud am fod Ishmael fab Nethaneia wedi llofruddio Gedaleia, y dyn oedd brenin Babilon wedi ei benodi i reoli'r wlad.
← Chapter 40
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 42 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52