bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Jeremiah 2
Jeremiah 2
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 3 →
1
Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi neges arall i mi:
2
“Dos, a gwna'n siŵr fod pobl Jerwsalem yn clywed y neges yma: Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Dw i'n cofio mor awyddus oeddet ti i'm plesio i, a'r cariad roeddet ti'n ei ddangos, fel merch ifanc ar fin priodi. Dyma ti'n fy nilyn i drwy'r anialwch mewn tir oedd heb ei drin.
3
Roedd Israel wedi ei chysegru i'r ARGLWYDD, fel ffrwyth cyntaf ei gynhaeaf. Roedd pawb oedd yn ei chyffwrdd yn cael eu cyfri'n euog, a byddai dinistr yn dod arnyn nhw.’” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
4
Gwrandwch ar neges yr ARGLWYDD bobl Jacob — llwythau Israel i gyd.
5
Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Pa fai gafodd eich hynafiaid yno i eu bod wedi crwydro mor bell oddi wrtho i? Dilyn delwau diwerth, a gwneud eu hunain yn dda i ddim.
6
Wnaethon nhw ddim gofyn, ‘Ble mae'r ARGLWYDD ddaeth â ni allan o wlad yr Aifft, a'n harwain ni drwy'r anialwch? — ein harwain trwy dir diffaith oedd yn llawn tyllau; tir sych a thywyll; tir does neb yn mynd trwyddo, a lle does neb yn byw.’
7
Des i a chi i dir ffrwythlon a gadael i chi fwynhau ei ffrwyth a'i gynnyrch da. Ond pan aethoch i mewn yno dyma chi'n llygru'r tir, a gwneud y wlad rois i'n etifeddiaeth i chi yn ffiaidd yn fy ngolwg i.
8
Wnaeth yr offeiriaid ddim gofyn, ‘Ble mae'r ARGLWYDD?’ Doedd y rhai sy'n dysgu'r Gyfraith ddim yn fy nabod i. Roedd yr arweinwyr yn gwrthryfela yn fy erbyn, a'r proffwydi'n rhoi negeseuon ar ran y duw Baal, ac yn dilyn delwau diwerth.
9
Felly, dyma fi eto'n dod â cyhuddiad yn eich erbyn chi, a bydda i'n cyhuddo eich disgynyddion hefyd.” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
10
“Ewch drosodd i ynys Cyprus i weld; neu anfonwch rywun i Cedar i ymchwilio. Ydy'r fath beth wedi digwydd erioed o'r blaen?
11
Oes gwlad arall wedi newid ei duwiau? (A dydy'r rheiny ddim yn dduwiau go iawn!) Ond mae fy mhobl i wedi fy ffeirio i, y Duw gwych, am ‛dduwiau‛ sydd ond delwau diwerth.
12
Mae'r nefoedd mewn sioc fod y fath beth yn gallu digwydd! Mae'n ddychryn! Mae'r peth yn syfrdanol!” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
13
“Mae fy mhobl wedi gwneud dau beth drwg: Maen nhw wedi troi cefn arna i, y ffynnon o ddŵr glân gloyw, a chloddio pydewau iddyn nhw eu hunain — pydewau wedi cracio sydd ddim yn dal dŵr!”
14
“Ydy Israel yn gaethwas? Na! Gafodd e ei eni'n gaethwas? Naddo! Felly, pam mae e'n cael ei gipio gan y gelyn?
15
Mae'r gelyn yn rhuo drosto fel llewod ifanc yn rhuo'n swnllyd. Mae'r wlad wedi ei difetha, a'i threfi'n adfeilion heb neb yn byw yno bellach.
16
A daw milwyr yr Aifft, o drefi Memffis a Tachpanches i siafio'ch pennau chi, bobl Israel.
17
Ti Israel ddaeth â hyn arnat dy hun, trwy droi dy gefn ar yr ARGLWYDD dy Dduw pan oedd e'n dangos y ffordd i ti.
18
Felly beth ydy'r pwynt mynd i lawr i'r Aifft neu droi at Asyria am help? Ydy yfed dŵr yr Afon Nil neu'r Ewffrates yn mynd i dy helpu di?
19
Bydd dy ddrygioni'n dod â'i gosb, a'r ffaith i ti droi cefn arna i yn dysgu gwers i ti. Cei weld fod troi cefn ar yr ARGLWYDD dy Dduw, a dangos dim parch tuag ata i, yn ddrwg iawn ac yn gwneud niwed mawr,” —meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD holl-bwerus.
20
“Ymhell bell yn ôl torrais yr iau oedd ar dy war a dryllio'r rhaffau oedd yn dy rwymo; ond dyma ti'n dweud, ‘Wna i ddim dy wasanaethu di!’ Felly addolaist dy ‛dduwiau‛ ar ben pob bryn a than pob coeden ddeiliog, a gorweddian ar led fel putain.
21
Roeddwn i wedi dy blannu di yn y tir fel gwinwydden arbennig o'r math gorau. Sut wnest ti droi'n winwydden wyllt a'i ffrwyth yn ddrwg a drewllyd?
22
Gelli drïo defnyddio powdr golchi a llwythi o sebon i geisio ymolchi, ond dw i'n dal i weld staen dy euogrwydd di.” —Y Meistr, yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
23
“Sut elli di ddweud, ‘Dw i ddim yn aflan. Wnes i ddim addoli duwiau Baal’? Meddylia beth wnest ti yn y dyffryn! Rwyt fel camel ifanc yn rhuthro i bob cyfeiriad a ddim yn gwybod ble i droi!
24
Rwyt fel asen wyllt wedi ei magu yn yr anialwch yn sniffian yr awyr am gymar pan mae'n amser paru. Does dim modd ei dal hi'n ôl pan mae'r nwyd yna. Does dim rhaid i'r asynnod flino yn rhedeg ar ei hôl, mae hi yna'n disgwyl amdanyn nhw adeg paru.
25
Paid gadael i dy esgidiau dreulio a dy wddf sychu yn rhedeg ar ôl duwiau eraill. Ond meddet ti, ‘Na! Does dim pwynt! Dw i'n caru'r duwiau eraill yna, a dw i am fynd ar eu holau nhw eto.’
26
Fel lleidr, dydy Israel ond yn teimlo cywilydd pan mae wedi cael ei dal! Brenhinoedd a swyddogion, offeiriaid a phroffwydi — maen nhw i gyd yr un fath.
27
Maen nhw'n dweud wrth ddarn o bren, ‘Ti ydy fy nhad i!’ ac wrth garreg, ‘Ti ydy fy mam, ddaeth â fi i'r byd!’ Ydyn, maen nhw wedi troi cefn arna i yn lle troi ata i. Ond wedyn, pan maen nhw mewn trafferthion maen nhw'n gweiddi arna i, ‘Tyrd, achub ni!’
28
Felly ble mae'r duwiau wyt ti wedi eu gwneud i ti dy hun? Gad iddyn nhw ddod i dy achub di, os gallan nhw, pan wyt ti mewn trafferthion! Wedi'r cwbl, Jwda, mae gen ti gymaint o dduwiau ag sydd gen ti o drefi!
29
Pam ydych chi'n rhoi'r bai arna i? Chi ydy'r rhai sydd wedi gwrthryfela yn fy erbyn i.” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
30
“Dyma fi'n cosbi dy bobl, ond doedd dim pwynt; doedden nhw ddim yn fodlon cael eu cywiro. Chi eich hunain laddodd eich proffwydi fel llew ffyrnig yn ymosod ar ei brae.”
31
Bobl, gwrandwch beth mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud! “Ydw i wedi bod fel anialwch i Israel? Ydw i wedi bod fel tir tywyll i chi? Felly pam mae fy mhobl yn dweud, ‘Dŷn ni'n rhydd i wneud beth leiciwn ni Dŷn ni ddim am droi atat byth eto’?
32
Ydy merch ifanc yn anghofio gwisgo ei thlysau? Ydy priodferch yn anghofio ei gwisg briodas? Na! — Ond mae fy mhobl wedi fy anghofio i ers gormod o flynyddoedd i'w cyfri.
33
Ti'n un da iawn am redeg ar ôl dy gariadon. Byddai'r butain fwya profiadol yn dysgu lot fawr gen ti!
34
Ar ben hynny mae olion gwaed y tlawd a'r diniwed ar eich dillad, er eich bod chi ddim wedi eu dal nhw yn torri i mewn i'ch tai. Ac eto, er gwaetha'r cwbl
35
ti'n dal i ddweud, ‘Dw i wedi gwneud dim byd o'i le; does bosib ei fod e'n dal yn ddig hefo fi!’ Gwylia dy hun! Dw i'n mynd i dy farnu di am ddweud, ‘Dw i ddim wedi pechu.’
36
Pam wyt ti'n ei chael hi mor hawdd i newid ochr? Gofyn am help un, ac wedyn y llall! Byddi di'n cael dy siomi gan yr Aifft yn union fel y cest ti dy siomi gan Asyria.
37
Byddi'n dod allan o'r sefyllfa yma hefo dy ddwylo dros dy wyneb mewn cywilydd. Mae'r ARGLWYDD wedi gwrthod y rhai rwyt ti'n pwyso arnyn nhw; fyddi di ddim yn llwyddo gyda'i help nhw.
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 3 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52