bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Jeremiah 22
Jeremiah 22
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 21
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 23 →
1
Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Dos i lawr i balas brenin Jwda, a rho'r neges yma iddo:
2
‘Frenin Jwda, gwrando ar neges yr ARGLWYDD — ti sy'n perthyn i deulu brenhinol Dafydd, dy swyddogion a phawb arall sy'n mynd drwy'r giatiau yma.
3
Mae'r ARGLWYDD yn dweud: “Gwnewch beth sy'n gyfiawn ac yn deg, ac achubwch bobl sy'n dioddef o grafangau'r rhai sy'n eu gormesu nhw. Peidiwch cam-drin a chymryd mantais o fewnfudwyr, plant amddifad a gweddwon. A peidiwch lladd pobl ddiniwed.
4
Os ewch chi ati i wneud beth dw i'n ddweud bydd disgynyddion Dafydd yn dal i deyrnasu. Byddan nhw'n dod drwy'r giatiau yma mewn cerbydau ac ar gefn ceffylau, gyda'i swyddogion a'u pobl.
5
Ond os byddwch chi'n gwrthod gwrando, dw i'n addo ar fy llw y bydd y palas yma yn rwbel.”’” Yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
6
Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud am balas brenin Jwda: “Ti fel tir ffrwythlon Gilead i mi, neu fel y coed ar fynyddoedd Libanus. Ond bydda i'n dy wneud di'n anialwch, a fydd neb yn byw yn dy drefi di.
7
Mae gen i rai sy'n barod i dy ddinistrio di, pob un yn cario ei arfau. Byddan nhw'n torri'r coed cedrwydd gorau, ac yn taflu'r cwbl i'r tân.
8
“Bydd pobl o wledydd eraill yn pasio heibio'r ddinas yma, ac yn gofyn, ‘Pam mae'r ARGLWYDD wedi gwneud y fath beth i'r ddinas wych yma?’
9
A bydd yr ateb yn cael ei roi. ‘Am fod y bobl wedi troi cefn ar yr ymrwymiad i'r ARGLWYDD eu Duw, ac wedi addoli a gwasanaethu duwiau eraill.’”
10
“Paid crïo am fod y brenin wedi marw. Paid galaru ar ei ôl. Crïa am y brenin sy'n cael ei gymryd i ffwrdd. Fydd e ddim yn dod yn ôl adre, Gaiff e byth weld ei wlad eto.
11
Achos dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud am Shalwm fab Joseia brenin Jwda, ddaeth i deyrnasu ar ôl ei dad Joseia: ‘Mae e wedi ei gymryd i ffwrdd, a fydd e byth yn dod yn ôl.
12
Bydd e'n marw yn y wlad lle cafodd ei gymryd yn gaeth. Fydd e byth yn gweld y wlad yma eto.’”
13
“Gwae yr un anghyfiawn sy'n adeiladu ei balas; yr un sy'n trin pobl yn annheg wrth godi'r lloriau uchaf. Mae'n gwneud i'w bobl weithio am ddim; dydy e ddim yn talu cyflog iddyn nhw.
14
Mae'n dweud wrtho'i hun, ‘Dw i'n mynd i adeiladu palas gwych, gyda llofftydd mawr, a digon o ffenestri. Dw i'n mynd i osod paneli o goed cedrwydd drwyddo, a'i beintio yn goch llachar.’
15
Ydy bod â mwy o baneli cedrwydd yn dy wneud di'n well brenin? Meddylia am dy dad. Roedd e'n hapus os oedd ganddo fwyd a diod. Roedd yn gwneud beth oedd yn gyfiawn ac yn deg, ac roedd pethau'n mynd yn dda gydag e.
16
Roedd yn amddiffyn hawliau pobl dlawd ac anghenus, ac roedd pethau'n mynd yn dda. Onid dyna beth mae fy nabod i yn ei olygu?” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
17
“Ond rwyt ti'n hunanol ac yn anonest. Ti'n lladd pobl ddiniwed, yn twyllo ac yn gorthrymu'r bobl.”
18
Felly, dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud am Jehoiacim fab Joseia, brenin Jwda: “Fydd neb yn galaru ar ei ôl, a dweud, ‘O, dw i mor drist, fy mrawd! O, dw i mor drist, fy chwaer!’ Fydd neb yn dweud ‘O, druan o'n harglwydd ni’ ‘O, druan o'r brenin!’
19
Fydd ei angladd ddim gwell na phan mae asyn yn marw — Bydd ei gorff yn cael ei lusgo allan o'r ddinas a'i daflu tu allan i giatiau Jerwsalem.”
20
Dringwch fynyddoedd Libanus, a galaru yno. Gwaeddwch yn uchel ar fryniau Bashan. Ewch i alaru ar fynyddoedd Afarîm Mae eich ‛cariadon‛ i gyd wedi eu concro!
21
Gwnes i eich rhybuddio pan oeddech chi'n byw'n ddibryder, ond yr ymateb ges i oedd, “Dŷn ni ddim am wrando.” Dyma sut dych chi wedi bod o'r dechrau cyntaf — dych chi erioed wedi bod yn barod i wrando.
22
Bydd eich arweinwyr yn cael eu chwythu i ffwrdd gan y gwynt. Bydd eich ‛cariadon‛ i gyd wedi eu cymryd yn gaeth. Bryd hynny bydd gynnoch chi gywilydd go iawn o'r holl bethau drwg wnaethoch chi.
23
Falle eich bod chi'n teimlo'n reit saff, fel aderyn yn nythu ar goed cedrwydd Libanus. Ond byddwch yn griddfan mewn poen pan ddaw'r farn. Byddwch fel gwraig mewn poen wrth gael babi.
24
“Mor sicr a'm bod i fy hun yn fyw,” meddai'r ARGLWYDD, “er dy fod ti, Jehoiachin fab Jehoiacim, brenin Jwda wedi bod yn sêl-fodrwy ar fy llaw dde, bydda i'n dy dynnu i ffwrdd.
25
Bydda i'n dy roi di yn nwylo'r rhai sydd eisiau dy ladd di, y rhai hynny rwyt ti eu hofni nhw, sef Nebwchadnesar, brenin Babilon a'i fyddin.
26
A bydda i'n dy daflu di a dy fam i wlad ddieithr, a dyna ble byddwch chi'n marw.
27
Gewch chi byth ddod yn ôl yma, er eich holl hiraeth.”
28
Ai jwg diwerth wedi ei dorri ydy'r dyn Jehoiachin? (fel potyn pridd does neb ei eisiau). Pam mae e a'i blant wedi eu taflu i ffwrdd? (wedi eu taflu i wlad ddieithr).
29
Wlad, wlad, wlad, gwrando ar neges yr ARGLWYDD.
30
Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Gwnewch gofnod fod y dyn yma'n ddi-etifedd! (dyn fydd yn gweld dim llwyddiant). Fydd dim un o'i blant yn teyrnasu yn Jwda ar ei ôl. Fydd neb yn ei ddilyn ar orsedd Dafydd.”
← Chapter 21
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 23 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52