bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
Luke 1
Luke 1
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 2 →
1
Gan fod llawer wedi cymmeryd mewn llaw drefnu traethawd am y pethau a gyflawnwyd yn ein plith,
2
fel y traddododd i ni y rhai oeddynt o’r dechreuad yn llygad-dystion ac yn weinidogion y Gair,
3
gwelwyd yn dda genyf finau hefyd, wedi canlyn o honof bob peth o’r dechreuad gyda manylrwydd, ysgrifenu attat mewn trefn, O ardderchoccaf Theophilus,
4
fel y gwybyddech y sicrwydd am y pethau y’th ddysgwyd ynddynt.
5
Yr oedd yn nyddiau Herod, frenhin Iwdea, ryw offeiriad a’i enw Zacariah, o ddydd-gylch Abia; a gwraig oedd iddo o ferched Aaron, a’i henw oedd Elishabet.
6
Ac yr oeddynt yn gyfiawn, ill dau, ger bron Duw, yn rhodio yn holl orchymynion a deddfau’r Arglwydd yn ddifeius.
7
Ac nid oedd ganddynt blentyn, gan fod Elishabet yn anffrwythlawn, a’r ddau oeddynt wedi dyfod i ddyddiau oedrannus.
8
A bu wrth wasanaethu o hono swydd offeiriad, yn nhrefn ei ddydd-gylch,
9
ger bron Duw, yn ol arfer swydd yr offeiriaid, ei ran oedd arogl-darthu, ar ol myned i mewn i deml yr Arglwydd.
10
A holl liaws y bobloedd yn gweddïo, allan, ar awr yr arogl-darthiad.
11
Ac ymddangosodd iddo angel yr Arglwydd, yn sefyll o’r tu dehau i allor yr arogl-darth;
12
a chynhyrfwyd Zacariah pan welodd ef, ac ofn a syrthiodd arno.
13
A dywedodd yr angel wrtho, Nac ofna, Zacariah; canys gwrandawyd dy ddeisyfiad, a’th wraig Elishabet a ddwg fab i ti; a gelwi ei enw ef Ioan.
14
A bydd llawenydd i ti, a gorfoledd; a llawer, wrth ei enedigaeth ef,
15
a lawenychant, canys bydd efe yn fawr ger bron yr Arglwydd; ac na gwin na diod gadarn nid yf efe ddim; ac o’r Yspryd Glân y llenwir hyd yn oed o groth ei fam;
16
a llawer o feibion Israel a dry efe at yr Arglwydd eu Duw;
17
ac efe a â o’i flaen Ef yn yspryd a gallu Elias, i droi calonnau tadau at y plant, a’r anufudd i rodio yn noethineb y cyfiawnion, i barottoi i’r Arglwydd bobl barod.
18
A dywedodd Zacariah wrth yr angel, Wrth ba beth y gwybyddaf hyn, canys myfi wyf henafgwr, ac fy ngwraig wedi dyfod i ddyddiau oedranus?
19
A chan atteb, yr angel a ddywedodd wrtho, Myfi wyf Gabriel, yr hwn wyf yn sefyll ger bron Duw; a danfonwyd fi i lefaru wrthyt ac i fynegi i ti y newyddion da hyn.
20
Ac wele, byddi fud ac heb allu llefaru hyd y dydd y digwydd y pethau hyn, am na chredaist i’m geiriau i, y rhai a gyflawnir yn eu hamser hwynt.
21
Ac yr oedd y bobl yn disgwyl am Zacariah, a rhyfeddent wrth oedi o hono yn y deml.
22
Ac wedi dyfod allan ni allai lefaru wrthynt; a gwybuant mai gweledigaeth a welsai efe yn y deml; ac efe oedd yn amneidio iddynt, ac a arhosodd yn fud.
23
A bu, pan gyflawnwyd dyddiau ei weinidogaeth, yr aeth ymaith i’w dŷ ei hun.
24
Ac ar ol y dyddiau hyn, beichiogodd Elishabet ei wraig ef,
25
ac ymguddiodd bum mis, gan ddywedyd, Fel hyn, erof y gwnaeth yr Arglwydd, yn y dyddiau yr edrychodd arnaf i dynu ymaith fy ngwaradwydd ymhlith dynion.
26
Ac yn y chweched mis, danfonwyd yr angel Gabriel oddiwrth Dduw, i ddinas yn Galilea, a’i henw Natsareth,
27
at forwyn wedi ei dyweddïo i ŵr a’i enw Ioseph, o dŷ Dafydd; ac enw’r forwyn oedd Miriam.
28
Ac wedi myned i mewn atti, dywedodd, Henffych well, yr hon a gefaist ffafr.
29
Yr Arglwydd fo gyda thi. A hithau, wrth yr ymadrodd y mawr-gynhyrfwyd hi, ac ymresymmodd pa fath oedd y cyfarchiad hwn;
30
a dywedodd yr angel wrthi, Nac ofna, Miriam,
31
canys cefaist ffafr gyda Duw: ac wele, beichiogi yn dy groth, ac esgori ar fab, a gelwi Ei enw IESU.
32
Efe fydd fawr, Mab y Goruchaf a elwir Ef: Ac Iddo y rhydd yr Arglwydd Dduw orsedd Dafydd, Ei dad:
33
A theyrnasa ar dŷ Iacob yn dragywydd; Ac o’i frenhiniaeth ni fydd diwedd.
34
A dywedodd Miriam wrth yr angel, Pa fodd y bydd hyn, canys gŵr nid adwaen i?
35
A chan atteb, yr angel a ddywedodd wrthi, Yr Yspryd Glân a ddaw arnat, A gallu’r Goruchaf a gysgoda drosot; Gan hyny hefyd y Peth Sanctaidd a enir, Gelwir Ef Mab Duw.
36
Ac wele, Elishabet dy gares, hithau hefyd a feichiogodd ar fab yn ei henaint; a hwn yw’r chweched mis iddi hi yr hon a elwid yn anffrwythlawn;
37
canys nid ammhosibl gyda Duw yw neb rhyw beth.
38
A dywedodd Miriam, Wele, gwasanaethyddes yr Arglwydd. Bydded i mi yn ol dy ymadrodd. Ac aeth yr angel ymaith oddiwrthi.
39
Ac wedi cyfodi o Miriam yn y dyddiau hyn, yr aeth i’r mynydd-dir ar frys, i ddinas o Iwda;
40
ac aeth i mewn i dŷ Zacariah, a chyfarchodd well i Elishabet.
41
A bu pan glywodd Elishabet gyfarchiad Miriam, llammodd y plentyn yn ei chroth,
42
a llanwyd Elishabet o’r Yspryd Glân, a chododd ei llais â gwaedd fawr, a dywedodd, Bendigedig wyt ti ymhlith gwragedd, A bendigedig yw ffrwyth dy groth.
43
Ac o ba beth y cefais hyn, ddyfod o fam fy Arglwydd attaf?
44
Canys wele, pan ddaeth llais dy gyfarchiad i’m clustiau, llammodd y plentyn o orfoledd yn fy nghroth.
45
A dedwydd yw ’r hon a gredodd, canys bydd cyflawniad i’r pethau a lefarwyd wrthi oddiwrth yr Arglwydd.
46
A dywedodd Miriam, Mawrhau’r Arglwydd y mae fy enaid,
47
A gorfoleddodd fy yspryd yn Nuw fy Iachawdwr, Canys edrychodd ar ostyngeiddrwydd Ei wasanaethyddes,
48
Canys wele, o hyn allan, dedwydd y’m geilw yr holl genhedlaethau,
49
Canys gwnaeth y Galluog i mi bethau mawrion, A sanctaidd yw Ei enw,
50
A’i dosturi sydd i genhedlaethau a chenhedlaethau, I’r rhai sydd yn Ei ofni.
51
Gwnaeth gadernid â’i fraich, Gwasgarodd feilchion ym mwriad eu calon,
52
Tynnodd i lawr gedyrn oddiar orsedd-feingciau, A dyrchafodd ostyngedigion:
53
Rhai newynog a lanwodd Efe â phethau da, A chyfoethogion a ddanfonodd Efe ymaith yn weigion.
54
Cynnorthwyodd Israel, Ei was, I gofio tosturi,
55
(Fel y llefarodd wrth ein tadau), I Abraham a’i had yn dragywydd.
56
Ac arhosodd Mair gyda hi ynghylch tri mis, a dychwelodd i’w thŷ.
57
Ac i Elishabet y cyflawnwyd y tymp i esgor o honi, ac esgorodd ar fab.
58
A chlywodd ei chymmydogion a’i cheraint, fawrhau o’r Arglwydd Ei dosturi wrthi, a chydlawenychasant â hi.
59
A bu ar yr wythfed dydd y daethant i amdorri ar y plentyn, a galwasant ef, yn ol enw ei dad, Zacariah.
60
A chan atteb, ei fam a ddywedodd, Nage; eithr gelwir ef Ioan.
61
A dywedasant wrthi, Nid oes neb o’th dylwyth a elwir wrth yr enw hwn.
62
Ac amneidiasant i’w dad, pa beth yr ewyllysiai ei alw ef.
63
Ac wedi gofyn o hono am argraphlech, ysgrifenodd gan ddywedyd, Ioan yw ei enw; a rhyfeddasant oll.
64
Ac agorwyd ei enau ef yn ebrwydd, ac ei dafod; a llefarodd gan fendithio Duw.
65
Ac yr oedd ofn ar bawb oedd yn trigo yn eu cylch hwy; ac yn holl fynydd-dir Iwdea y llefarwyd yr holl bethau hyn.
66
A phawb o’r rhai a’u clywsant, a’u rhoisant yn eu calonnau gan ddywedyd, Pa beth, gan hyny, fydd y plentyn hwn? canys llaw’r Arglwydd oedd gydag ef.
67
A Zacariah, ei dad, a lanwyd o’r Yspryd Glân, ac a brophwydodd, gan ddywedyd,
68
Bendigedig fyddo’r Arglwydd, Duw Israel, Canys ymwelodd ag, a gwnaeth brynedigaeth i’w, bobl:
69
A dyrchafodd gorn iachawdwriaeth i ni yn nhŷ Dafydd, ei was,
70
(fel y llefarodd trwy enau Ei brophwydi sanctaidd er’s dechreuad y byd,)
71
Ymwared oddiwrth ein gelynion, Ac o law pawb o’n caseion;
72
I wneuthur tosturi â’n tadau, Ac i gofio Ei gyfammod sanctaidd,
73
Y llw a dyngodd Efe wrth Abraham, ein tad,
74
Ar roddi i ni, gwedi ein rhyddhau o law ein gelynion, Ei wasanaethu Ef yn ddiofn,
75
Mewn sancteiddrwydd a chyfiawnder ger Ei fron ein holl ddyddiau.
76
A thithau, blentyn, prophwyd y Goruchaf y’th elwir, Canys ai o flaen gwyneb yr Arglwydd, i barottoi Ei ffyrdd Ef,
77
I roddi gwybodaeth iachawdwriaeth i’w bobl Trwy faddeuant o’u pechodau,
78
Trwy diriondeb trugaredd ein Duw, Trwy’r hon yr ymwêl â ni godiad haul o’r uchelder,
79
I lewyrchu i’r rhai sy’n eistedd mewn tywyllwch a chysgod angau, Er mwyn cyfeirio ein traed i ffordd tangnefedd.
80
A’r bachgen a gynnyddodd ac a gryfhawyd mewn yspryd, ac a fu yn yr anial-leoedd hyd ddydd ei ymddangosiad i Israel.
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 2 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24