bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
Luke 8
Luke 8
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 7
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 9 →
1
A bu wedi hyny, ac Efe a ymdeithiodd trwy ddinas a phentref yn pregethu ac efengylu teyrnas Dduw,
2
ac y deuddeg ynghydag Ef, a gwragedd rai, y rhai a iachasid oddiwrth ysprydion drwg a chlefydau; Mair yr hon a elwid Magdalen, o’r hon y bu i saith gythraul fyned allan;
3
ac Ioanna, gwraig Cwza goruchwyliwr Herod, a Shwshanna, ac eraill lawer, y rhai a weinient Iddo o’u heiddo.
4
Ac wedi dyfod ynghyd o dyrfa fawr, a’r rhai o bob
5
dinas yn dyfod Atto, dywedodd trwy ddammeg, Aeth yr hauwr allan i hau; ac wrth hau o hono, peth a syrthiodd ar ymyl y ffordd, ac a fathrwyd, ac ehediaid y nef a’i bwyttasant;
6
a pheth arall a syrthiodd ar y graig, ac wedi tyfu o hono, gwywodd am nad oedd iddo wlybwr.
7
Ac arall a syrthiodd ynghanol y drain, ac wedi cyd-dyfu o’r drain ynghydag ef, tagasant ef.
8
A pheth arall a syrthiodd ar y tir da; ac wedi tyfu dug ffrwyth ar ei ganfed. Wrth ddywedyd y pethau hyn, llefodd, Y neb sydd a chanddo glustiau, gwrandawed.
9
A gofynodd Ei ddisgyblion Iddo, pa beth oedd y ddammeg hon.
10
Ac Efe a ddywedodd, I chwi y rhoddwyd gwybod dirgeloedd teyrnas Dduw; ond i’r lleill ar ddamhegion,
11
fel yn gweled na welant, ac yn clywed na ddeallant.
12
A hon yw’r ddammeg: Yr had yw Gair Duw; a’r rhai ar ymyl y ffordd yw y rhai a glywsant; gwedi’n dyfod y mae diafol, ac yn dwyn ymaith y Gair o’u calon, rhag, wedi credu o honynt, iddynt fod yn gadwedig.
13
A’r rhai ar y graig yw y rhai pan glywont, a dderbyniant y Gair gyda llawenydd; a’r rhai hyn nid oes ganddynt wreiddyn, y rhai am amser y credant, ac yn amser profedigaeth y ciliant.
14
A’r hwn a syrthiodd ym mysg y drain, y rhai hyn yw’r rhai a glywsant, a chan ofalon a golud a phleserau buchedd, wrth fyned eu ffordd, y’u tagir, ac ni ddygant ffrwyth i berffeithrwydd.
15
A’r hwn ar y tir da, y rhai hyn yw’r rhai wedi iddynt a chalon fad a da glywed y Gair, a’i cadwant, ac a ddygant ffrwyth gydag amynedd.
16
Nid yw neb wedi goleu llusern yn ei gorchuddio â llestr, neu tan wely y gesyd hi, eithr ar safle’r llusern y gesyd hi, fel y bo i’r rhai sy’n dyfod i mewn weled y goleuni;
17
canys nid oes dim dirgel na ddaw yn amlwg, na chuddiedig na wybyddir ac na ddaw i’r amlwg.
18
Edrychwch, gan hyny, pa fodd y clywch; canys pwy bynnag sydd a chanddo, rhoddir iddo; a phwy bynnag nad oes ganddo, ïe, yr hyn y tybia ei fod ganddo, a ddygir oddi arno.
19
A daeth Atto Ei fam a’i frodyr, ac ni allent ddyfod hyd Atto o achos y dyrfa.
20
A mynegwyd Iddo, Dy fam a’th frodyr sy’n sefyll allan, yn ewyllysio Dy weled.
21
Ac Efe, gan atteb, a ddywedodd wrthynt, Fy mam ac Fy mrodyr yw y rhai hyn, sef y rhai y sy’n clywed Gair Duw ac yn ei wneuthur.
22
A bu ar un o’r dyddiau hyny, ac Efe a aeth i mewn i gwch, ac Ei ddisgyblion hefyd; a dywedodd wrthynt, Awn trosodd i’r tu hwnt i’r llyn; a chychwynasant.
23
Ac a hwynt yn hwylio, hunodd Efe; a disgynodd cawod o wynt ar y llyn, ac yr oeddynt yn llenwi o ddwfr, ac mewn enbydrwydd;
24
ac wedi dyfod Atto, deffroisant Ef, gan ddywedyd, O Feistr, Feistr, ar ddarfod yr ydym. Ac Efe wedi deffro a ddwrdiodd y gwynt a’r tonnau dwfr;
25
a pheidiasant, a bu tawelwch: a dywedodd wrthynt, Pa le y mae eich ffydd? Ac wedi eu dychrynu rhyfeddasant, gan ddywedyd wrth eu gilydd, Pwy, ynte, yw Hwn, gan mai i’r gwyntoedd y gorchymyn, ac i’r dwfr; ac ufuddhant Iddo?
26
A hwyliasant i wlad y Geraseniaid, yr hon sydd gyferbyn â Galilea.
27
Ac wedi dyfod allan o Hono i dir, cyfarfu ag Ef ryw ŵr o’r ddinas, a chanddo gythreuliaid: ac am amser maith ni wisgai gochl; ac mewn tŷ nid arhosai, eithr yn y beddau.
28
A chan weled yr Iesu, gan waeddi, syrthiodd ger Ei fron Ef, ac â llef fawr y dywedodd, Pa beth sydd i mi a wnelwyf â Thi, O Iesu, fab y Duw Goruchaf?
29
Attolygaf i Ti na’m poenech i: canys gorchymynasai Efe i’r yspryd aflan ddyfod allan o’r dyn: canys llawer o amserau y cipiasai ef; a rhwymesid ef â chadwynau a llyffetheiriau, ac mewn cadwraeth; a chan ddryllio y rhwymau, gyrrid ef gan y cythraul i’r anial-leoedd.
30
A gofynodd yr Iesu iddo, Pa beth yw dy enw di? Ac efe a ddywedodd, Lleng, canys cythreuliaid lawer a aethent i mewn iddo.
31
A deisyfiasant Arno na orchymynai iddynt fyned ymaith i’r dyfnder.
32
Ac yr oedd yno genfaint o foch lawer, yn pori ar y mynydd; a deisyfiasant Arno ganiattau iddynt fyned i mewn iddynt hwy; a chaniattaodd iddynt.
33
Ac wedi myned o’r cythreuliaid allan o’r dyn, aethant i mewn i’r moch; a rhuthrodd y genfaint i lawr y dibyn i’r llyn, a boddwyd hwynt.
34
A chan weled o’r meichiaid yr hyn a ddigwyddodd, ffoisant a mynegasant yn y ddinas ac yn y wlad.
35
Ac aethant allan i weled yr hyn a ddigwyddasai; a daethant at yr Iesu, ac yn ei eistedd y cawsant y dyn o’r hwn y bu i’r cythreuliaid fyned allan, wedi ei wisgo, ac yn ei iawn bwyll, wrth draed yr Iesu; a dychrynwyd hwynt.
36
Ac wrthynt y mynegodd y rhai a welsent, pa fodd yr iachasid y cythreulig.
37
Ac Iddo y gofynodd yr holl liaws o gylch gwlad y Geraseniaid, i fyned ymaith oddi wrthynt, canys ag ofn mawr y daliwyd hwynt; ac Efe, wedi myned i mewn i’r cwch, a ddychwelodd.
38
A deisyf Arno a wnaeth y gŵr o’r hwn yr aethai y cythreuliaid allan, am fod gydag Ef: ond gollyngodd Efe ef ymaith, gan ddywedyd,
39
Dychwel i’th dŷ, ac adrodda faint a wnaeth Duw i ti. Ac ymaith yr aeth efe, dan gyhoeddi trwy’r holl ddinas, faint a wnaethai yr Iesu iddo.
40
Ac wrth ddychwelyd o’r Iesu, derbyniodd y dyrfa Ef, canys yr oeddynt oll yn disgwyl am Dano.
41
Ac wele, daeth gŵr a’i enw Iair; ac efe, llywodraethwr y sunagog ydoedd; ac wedi syrthio wrth draed yr Iesu,
42
attolygodd Iddo ddyfod i mewn i’w dŷ, canys merch unig-anedig oedd ganddo, ynghylch deuddeng mlwydd oed, a hon oedd yn marw; ac wrth fyned o Hono y torfeydd a’i gwasgent Ef.
43
A gwraig yr hon oedd mewn diferlif gwaed er ys deuddeng mlynedd, yr hon a dreuliasai ar feddygon ei holl fywyd, ni allai gael gan neb ei hiachau;
44
ac wedi dyfod Atto o’r tu cefn, cyffyrddodd ag ymyl ei gochl, ac yn uniawn y safodd diferlif ei gwaed.
45
A dywedodd yr Iesu, Pwy yw ’r hwn a gyffyrddodd â Mi? Ac a phawb yn gwadu, dywedodd Petr a’r rhai oedd gydag ef, O Feistr, y torfeydd a’th warchaeant ac a bwysant Arnat.
46
A’r Iesu a ddywedodd, cyffwrdd â Mi a wnaeth rhyw un; canys Mi a ganfyddais allu yn myned allan o Honof.
47
A chan weled o’r wraig nad oedd hi guddiedig, dan grynu y daeth, ac wedi syrthio ger Ei fron, mynegodd yngwydd yr holl bobl am ba achos y cyffyrddodd ag Ef, ac fel yr iachasid hi yn uniawn.
48
Ac Efe a ddywedodd wrthi, O ferch, dy ffydd a’th iachaodd: dos mewn tangnefedd.
49
Ac Efe etto yn llefaru, daeth un o dŷ yr arch-sunagogydd, gan ddywedyd, Bu farw dy ferch: na phoena yr Athraw.
50
A’r Iesu wedi clywed hyn a attebodd iddo, Nac ofna; cred yn unig, ac iacheir hi.
51
Ac wedi dyfod i’r tŷ, ni adawodd i neb fyned i mewn gydag Ef, oddieithr Petr ac Ioan ac Iago, a thad yr eneth ac ei mam.
52
A gwylo yr oeddynt oll, a chwynfan am dani. Ac Efe a ddywedodd, Na wylwch, canys ni bu farw, eithr cysgu y mae.
53
A chwarddasant am Ei ben, gan wybod ei marw hi.
54
Ac Efe, wedi ymaflyd yn ei llaw, a lefodd, gan ddywedyd, Eneth, cyfod.
55
A dychwelodd ei hyspryd, a chyfododd hi yn uniawn; a gorchymynodd Efe y rhodder iddi beth i’w fwytta.
56
A synnodd ei rhieni; ac Efe a orchymynodd iddynt na ddywedent wrth neb yr hyn a ddigwyddasai.
← Chapter 7
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 9 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24