bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
Luke 15
Luke 15
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 14
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 16 →
1
Ac nesau Atto yr oedd yr holl dreth-gymmerwyr a’r pechaduriaid, i wrando Arno.
2
A grwgnachodd y Pharisheaid a’r ysgrifenyddion hefyd, gan ddywedyd, Hwn, pechaduriaid a dderbyn Efe; a bwytta gyda hwynt y mae.
3
Ac adroddodd wrthynt y ddammeg hon, gan ddywedyd,
4
Pa ddyn o honoch a chanddo gant o ddefaid, ac wedi colli o honynt un, na âd y cant namyn un yn yr anialwch, a myned ar ol yr hon a gollwyd nes caffael o hono hi?
5
Ac wedi ei chael, dŷd hi ar ei ysgwyddau dan lawenychu;
6
ac wedi dyfod i’w dŷ, gwahodda ynghyd ei gyfeillion a’i gymmydogion, gan ddywedyd wrthynt, Cyd-lawenhewch â mi, canys cefais fy nafad a gollasid.
7
Dywedaf wrthych, Felly llawenydd sydd yn y nef am un pechadur yn edifarhau rhagor am gant namyn un o gyfiawnion, y rhai sydd heb raid iddynt wrth edifeirwch.
8
Neu, pa wraig a chanddi ddeg drachm, os cyll un drachm, na oleua lusern ac ysgubo’r tŷ a cheisio yn ddyfal hyd oni chaffo ef.
9
Ac wedi ei gael ef, gwahodda ynghyd ei chyfeillesau a’i chymmydogesau, gan ddywedyd, Cyd-lawenhewch â mi, canys cefais y drachm a gollaswn.
10
Felly, dywedaf wrthych, Y mae llawenydd yngwydd angylion Duw am un pechadur yn edifarhau.
11
A dywedodd, Rhyw ddyn oedd a chanddo ddau fab.
12
A dywedodd yr ieuengaf o honynt wrth ei dad, Fy nhad, dyro i mi y rhan a ddigwydd o’r da; ac efe a rannodd iddynt ei fywyd.
13
Ac ar ol nid nemawr o ddyddiau, wedi casglu’r cwbl ynghyd, y mab ieuengaf a aeth ymaith i wlad bell; ac yno y gwasgarodd ei dda, gan fyw yn afradlawn.
14
Ac wedi gwario o hono y cwbl, digwyddodd newyn tost trwy’r wlad honno,
15
ac efe a ddechreuodd fod mewn eisiau: ac aeth ac ymlynodd wrth un o ddinaswyr y wlad honno; a danfonodd efe ef i’w faesydd i borthi moch.
16
A chwenychai ei lenwi â’r cibau a fwyttai’r moch; ac ni roddodd neb iddo.
17
Ac wedi dyfod i’w bwyll dywedodd, Pa sawl gwas cyflog o’r eiddo fy nhad sydd a chanddynt dros ben o fara; ac myfi, o newyn yr wyf yma ar ddarfod am danaf?
18
Gan gyfodi yr af at fy nhad, a dywedaf wrtho,
19
Fy nhad, pechais yn erbyn y nef ac o’th flaen di; mwyach nid ydwyf deilwng i’m galw dy fab; gwna fi fel un o’th weision cyflog.
20
Ac wedi cyfodi o hono yr aeth at ei dad. Ac efe etto ym mhell oddi wrtho, gwelodd ei dad ef, a thosturiodd, a chan redeg, syrthiodd ar ei wddf, a chusanodd ef.
21
Ac wrtho y dywedodd y mab, Fy nhad, pechais yn erbyn y nef ac o’th flaen di: mwyach nid wyf deilwng i’m galw dy fab.
22
A dywedodd y tad wrth ei weision, Ar frys dygwch allan wisg, yr oreu; a gwisgwch am dano;
23
a rhoddwch fodrwy ar ei law, ac esgidiau am ei draed; a deuwch â’r llo pasgedig, a lleddwch ef; a chan fwytta,
24
ymhyfrydwn, canys hwn, fy mab, marw ydoedd, ac adfywiodd; yr oedd wedi ei golli, a chafwyd ef. A dechreuasant ymhyfrydu.
25
Ac yr oedd ei fab hynaf yn y maes; a phan, wrth ddyfod, y nesaodd at y tŷ, clywai gynghanedd a dawnsiau;
26
ac wedi galw atto un o’r gweision, gofynodd pa beth oedd y pethau hyn.
27
Ac efe a ddywedodd wrtho, Dy frawd sydd wedi dyfod, a lladdodd dy dad y llo pasgedig, am mai yn iach y cafodd ef.
28
A llidiodd efe, ac nid ewyllysiai fyned i mewn; a’i dad, wedi dyfod allan, a ddeisyfiodd arno.
29
Ac efe gan atteb, a ddywedodd wrth ei dad, Wele cynnifer o flynyddoedd yr wyf yn dy wasanaethu, a’th orchymyn ni throseddais erioed; ac i mi ni roddaist erioed fynn, fel ynghyda’m cyfeillion yr ymhyfrydwn;
30
ond pan fu i’th fab hwn, yr hwn a lwyr-ddifaodd dy fywyd ynghyda’r putteiniaid, ddyfod, lleddaist iddo y llo pasgedig.
31
Ac efe a ddywedodd wrtho, Fy mhlentyn, tydi, pob amser ynghyda mi yr wyt, a phob peth y sydd eiddof, eiddot ti yw.
32
Ymhyfrydu a llawenychu yr oedd rhaid, canys dy frawd hwn, marw oedd, a byw y mae; ac wedi ei golli, a chafwyd ef.
← Chapter 14
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 16 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24