bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
Luke 4
Luke 4
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 5 →
1
A’r Iesu yn llawn o’r Yspryd Glân, a ddychwelodd oddiwrth yr Iorddonen, ac a arweiniwyd gan yr Yspryd yn yr anialwch ddeugain niwrnod,
2
yn cael ei demtio gan ddiafol; ac ni fwyttaodd ddim yn y dyddiau hyny; ac wedi eu diweddu, chwant bwyd fu Arno.
3
A dywedodd diafol Wrtho, Os Mab Duw wyt, dywaid wrth y garreg hon i fyned yn fara.
4
Ac attebodd yr Iesu iddo, Ysgrifenwyd,
5
“Nid ar fara yn unig y bydd byw dyn.” Ac wedi Ei ddwyn Ef i fynu, dangosodd Iddo holl deyrnasoedd y byd mewn munud o amser.
6
A dywedodd diafol Wrtho, I Ti y rhoddaf yr awdurdod hon i gyd ac eu gogoniant; canys i mi eu traddodwyd, ac i bwy bynnag yr ewyllysiaf y rhoddaf hi;
7
os Tydi, gan hyny, a ymochreini o’m blaen, bydd yr oll yn eiddo Ti.
8
A chan atteb iddo, dywedodd yr Iesu, Ysgrifenwyd, “I Iehofah dy Dduw yr ymochreini, ac Ef yn unig a wasanaethi.”
9
A dug efe Ef i Ierwshalem, a gosododd Ef ar binacl y deml, a dywedodd Wrtho,
10
Os Mab Duw wyt, bwrw Dy Hun oddi yma i lawr, canys ysgrifenwyd, “I’w angylion y gorchymyn Efe am Danat;
11
Ac ar eu dwylaw y’th ddygant, Rhag un amser i Ti daro Dy droed wrth garreg.”
12
A chan atteb, dywedodd yr Iesu wrtho, Dywedwyd, “Ni themti Iehofah dy Dduw.”
13
Ac wedi gorphen yr holl demtasiwn, diafol a ymadawodd ag Ef tan amser cyfaddas.
14
A dychwelodd yr Iesu yn nerth yr Yspryd i Galilea, a son a aeth allan am Dano trwy’r holl fro oddi amgylch;
15
ac Efe a ddysgai yn eu sunagogau, yn cael Ei ogoneddu gan bawb.
16
A daeth i Natsareth, lle y magesid Ef, ac aeth i mewn, yn ol Ei arfer, ar ddydd y Sabbath, i’r sunagog, a safodd i fynu i ddarllain;
17
a rhoddwyd Atto Lyfr y Prophwyd Eshaiah; ac wedi agor o Hono y llyfr, cafodd y lle yr oedd yn ysgrifenedig,
18
“Yspryd Iehofah sydd Arnaf, Canys enneiniodd fi i efengylu i dlodion; Danfonodd fi i gyhoeddi i gaethion ollyngdod, Ac i ddeillion gaffaeliad golwg,
19
I ddanfon ymaith ddrylliedigion, mewn rhydd-deb, I gyhoeddi blwyddyn foddhaol Iehofah.”
20
Ac wedi cau’r llyfr, a’i roddi i’r gweinidog, eisteddodd; a llygaid pawb yn y sunagog oeddynt yn craffu Arno.
21
A dechreuodd ddywedyd wrthynt, Heddyw y cyflawnwyd yr Ysgrythyr hon yn eich clustiau.
22
A phawb a dystiolaethent Iddo, ac a ryfeddent wrth y geiriau grasusol oedd yn dyfod allan o’i enau; a dywedasant, Onid hwn yw mab Ioseph?
23
A dywedodd wrthynt, Yr oll o honoch a adroddwch Wrthyf y ddammeg hon, “Feddyg, iacha dy hun;” cymmaint ag a glywsom eu gwneuthur yn Caphernahwm, gwna hefyd yma yn Dy wlad Dy hun.
24
A dywedodd, Yn wir y dywedaf wrthych, Nid yw un prophwyd yn gymmeradwy yn ei wlad ei hun.
25
Mewn gwirionedd y dywedaf wrthych, Llawer o wragedd gweddwon oedd, yn nyddiau Elias, yn yr Israel, pan gauwyd y nef dair blynedd a chwe mis, fel y bu newyn mawr trwy’r holl dir,
26
ac nid at yr un o honynt yr anfonwyd Elias, oddieithr i Sarepta yngwlad Tsidon at wraig weddw;
27
a llawer o wahan-gleifion oedd yn Israel yn amser Elisha y prophwyd, ac nid yr un o honynt a lanhawyd oddieithr Naaman y Tsuriad.
28
A llanwyd o ddigofaint bawb a oedd yn y sunagog,
29
wrth glywed y pethau hyn, ac wedi codi o honynt bwriasant Ef allan o’r ddinas, a dygasant Ef hyd ael y bryn ar yr hwn yr oedd eu dinas wedi ei hadeiladu, i’w fwrw Ef bendramwnwgl i lawr:
30
ond Efe, wedi myned drwy eu canol, a aeth Ei ffordd.
31
A daeth i wared i Caphernahwm, dinas yn Galilea; ac yr oedd yn eu dysgu hwynt ar y Sabbath;
32
ac aruthr fu ganddynt o herwydd Ei ddysgad, canys gydag awdurdod yr oedd Ei ymadrodd.
33
Ac yn y sunagog yr oedd dyn a chanddo yspryd cythraul aflan, a gwaeddodd â llais mawr,
34
Och, pa beth sydd i ni a wnelom â Thi, Iesu y Natsaread? A ddaethost i’n difetha ni? Adwaenwn Di pwy ydwyt, Sanct Duw.
35
A dwrdiodd yr Iesu Ef, gan ddywedyd, Distawa, a thyred allan o hono ef. Ac wedi ei daflu ef i’r canol, y cythraul a ddaeth allan o hono, heb wneuthur dim niweid iddo.
36
Ac yr oedd aruthredd ar bawb, a chyd-lefarasant â’u gilydd gan ddywedyd, Pa beth yw’r gair hwn, canys gydag awdurdod a nerth y gorchymyn Efe i’r ysprydion aflan, a dyfod allan y maent?
37
Ac aeth allan son am Dano i bob man o’r wlad oddi amgylch.
38
Ac wedi cyfodi o Hono o’r sunagog, aeth i mewn i dŷ Shimon; a chwegr Shimon oedd wedi ei dala gan gryd mawr; a gofynasant iddo drosti.
39
A chan sefyll uwch ei phen hi, dwrdiodd y cryd, ac efe a’i gadawodd hi; ac wedi cyfodi o honi yn uniawn, gwasanaethodd arnynt.
40
Ac wrth fachludo o’r haul cymmaint ag oedd a chanddynt gleifion o amryw glefydau, a ddaethant â hwynt Atto Ef: ac Efe, gan roddi Ei ddwylaw ar bob un o honynt, a’u hiachaodd hwynt;
41
a dyfod allan yr oedd cythreuliaid, o laweroedd, dan waeddi a dywedyd, Ti yw Mab Duw; a chan eu dwrdio, ni adawai iddynt ddweud y gwyddent mai Efe oedd y Crist.
42
A phan aethai hi yn ddydd, wedi myned allan yr aeth i le anial; a’r torfeydd a’i ceisiasant Ef, ac a ddaethant hyd Atto, ac a’i hattaliasant rhag myned oddi wrthynt; ond Efe a ddywedodd wrthynt,
43
I’r dinasoedd eraill hefyd y mae rhaid i Mi efengylu teyrnas Dduw, canys i hyny y’m danfonwyd.
44
Ac yr oedd Efe yn pregethu yn sunagogau Galilea.
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 5 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24