bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
Luke 18
Luke 18
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 17
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 19 →
1
A dywedodd ddammeg wrthynt, fod yn rhaid gweddïo o honynt yn wastad,
2
a pheidio â llwfrhau, gan ddywedyd, Rhyw farnwr oedd mewn rhyw ddinas; Duw nid ofnai efe, a dyn ni pharchai.
3
Ac rhyw wraig weddw oedd yn y ddinas honno, a deuai atto, gan ddywedyd, Gwna gyfiawnder i mi oddiwrth fy ngwrth-ymgyfreithiwr.
4
Ac nid ewyllysiai efe am ryw amser; ond wedi hyny, dywedodd ynddo ei hun, Er mai Duw nid ofnaf, a dyn ni pharchaf,
5
etto o herwydd peri blinder i mi gan y weddw hon, gwnaf gyfiawnder iddi, rhag iddi yn y diwedd ddyfod a’m baeddu.
6
A dywedodd yr Arglwydd, Clywch pa beth y mae’r barnwr anghyfiawn yn ei ddweud.
7
A Duw, oni wna Efe gyfiawnder Ei etholedigion y sy’n llefain Arno ddydd a nos, ac Efe yn hir-ymarhous tuag attynt?
8
Dywedaf wrthych, y gwna Efe eu cyfiawnder ar frys. Eithr, Mab y Dyn, pan ddelo, a gaiff Efe ffydd ar y ddaear?
9
A dywedodd wrth rai a ymddiriedent ynddynt eu hunain eu bod yn gyfiawn, ac na wnaent ddim o bawb arall,
10
y ddammeg hon, Dau ddyn a aethant i fynu i’r deml i weddïo, y naill yn Pharishead a’r llall yn dreth-gymmerwr.
11
Y Pharishead yn ei sefyll, hyn, rhyngddo ac ef ei hun, a weddïodd efe, O Dduw, diolchaf i Ti am nad wyf fel y lleill o ddynion, rheibusion, anghyfiawnion, godinebwyr, neu fel y treth-gymmerwr hwn.
12
Ymprydio yr wyf ddwy waith yn yr wythnos, degymmu yr wyf y cwbl a ennillaf.
13
A’r treth-gymmerwr, yn sefyll o hirbell, nid ewyllysiai hyd yn oed godi ei lygaid tua’r nef, eithr curai ei ddwyfron, gan ddywedyd, O Dduw, cymmoder Di â mi, y pechadur.
14
Dywedaf wrthych, Aeth hwn i wared i’w dŷ wedi ei gyfiawnhau rhagor y llall; canys pob un a ddyrchafo ei hun a ostyngir, ac a ostyngo ei hun a ddyrchefir.
15
A dygasant Atto eu plant bychain hefyd, fel y cyffyrddai â hwynt; a chan weled o’i ddisgyblion, dwrdiasant hwynt;
16
ond yr Iesu a’u galwodd Atto, gan ddywedyd, Gadewch i’r plant bychain ddyfod Attaf, canys i’r cyfryw rai y perthyn teyrnas Dduw.
17
Yn wir meddaf i chwi, Pwy bynnag na dderbynio deyrnas Dduw fel plentyn, nid a efe er dim i mewn iddi.
18
A gofynodd rhyw un Iddo, llywodraethwr, gan ddywedyd, Athraw da, wedi gwneuthur pa beth, y byddaf a bywyd tragywyddol yn etifeddiaeth i mi?
19
Ac wrtho, y dywedodd yr Iesu, Paham y’m gelwi Fi yn dda? Nid oes neb yn dda oddieithr un, sef Duw.
20
Y gorchymynion a wyddost, “Na odineba, Na ladd, Na ladratta, Na ddwg au-dystiolaeth, Anrhydedda dy dad a’th fam.”
21
Ac efe a ddywedodd, Y pethau hyn oll a gedwais o’m hieuengctid.
22
Ac wedi clywed hyny, yr Iesu a ddywedodd wrtho, Etto un peth sydd i ti yn ddiffygiol: yr oll, cymmaint ag a feddi, gwerth a rhanna ef i dlodion, a byddi a chenyt drysor yn y nef; a thyred, canlyn Fi.
23
Ac efe, wedi clywed y pethau hyn, yn dra-athrist yr aeth, canys yr oedd yn oludog iawn.
24
A chan ei weled ef, yr Iesu a ddywedodd, Mor anhawdd y bydd i’r rhai sydd a golud ganddynt,
25
fyned i mewn i deyrnas Dduw: canys haws yw myned o gamel i mewn trwy grau nodwydd ddur, na myned o oludog i mewn i deyrnas Dduw.
26
A dywedodd y rhai a glywsant, A phwy all fod yn gadwedig?
27
Ac Efe a ddywedodd, Y pethau ammhosibl gyda dynion, posibl ydynt gyda Duw.
28
A dywedodd Petr, Wele, nyni wedi gadael ein heiddo, a’th ganlynasom.
29
Ac Efe a ddywedodd wrthynt, Yn wir y dywedaf wrthych, Nid oes neb a adawodd dŷ, neu wraig, neu frodyr, neu rieni, neu blant, o achos teyrnas Dduw,
30
yr hwn ni dderbyn lawer cymmaint yn y pryd hwn, ac yn y byd a ddaw fywyd tragywyddol.
31
Ac wedi cymmeryd y deuddeg Atto, dywedodd wrthynt, Wele, myned i fynu i Ierwshalem yr ydym, a chwblheir yr holl bethau a ysgrifenwyd trwy’r prophwydi, i Fab y Dyn,
32
canys traddodir Ef i’r cenhedloedd, a gwatworir Ef,
33
a sareir Ef, a phoerir Arno; ac ar ol Ei fflan-gellu y lladdant Ef, ac y trydydd dydd yr adgyfyd Efe.
34
A hwy ni ddeallent ddim o’r pethau hyn, ac yr oedd yr ymadrodd hwn yn guddiedig oddi wrthynt, ac ni chanfyddent y pethau a ddywedwyd.
35
A bu, wrth nesau o Hono at Iericho, rhyw ddyn dall a eisteddai yn ymyl y ffordd yn cardotta:
36
ac wedi clywed tyrfa yn myned heibio, gofynodd pa beth oedd hyn.
37
A mynegasant iddo, Iesu y Natsaread sy’n myned heibio.
38
A llefodd efe, gan ddywedyd, Iesu, Fab Dafydd, trugarha wrthyf.
39
Ac y rhai yn myned o’r blaen a’i dwrdiasant i dewi; ond efe, llawer mwy y gwaeddodd, Mab Dafydd, trugarha wrthyf.
40
A chan sefyll, yr Iesu a orchymynodd ei ddwyn ef Atto; ac wedi nesau o hono, gofynodd, Pa beth yr ewyllysi ei wneuthur Genyf i ti?
41
Ac efe a ddywedodd, Arglwydd, ail-weled o honof.
42
A dywedodd yr Iesu wrtho, Ail-wêl, dy ffydd a’th iachaodd.
43
Ac allan o law yr ail-welodd efe, a chanlynodd Ef dan ogoneddu Duw: a’r holl bobl, gan weled, a roisant fawl i Dduw.
← Chapter 17
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 19 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24