bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
Luke 23
Luke 23
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 22
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 24 →
1
Ac wedi cyfodi o’r holl haws o honynt, dygasant Ef at Pilat;
2
a dechreuasant Ei gyhuddo, gan ddywedyd, Hwn a gawsom yn gwyr-droi ein cenedl, ac yn rhwystro rhoi teyrnged i Cesar, ac yn dywedyd mai Efe Ei hun yw Crist Frenhin.
3
A Pilat a ofynodd Iddo, gan ddywedyd, Ai Tydi yw Brenhin yr Iwddewon? Ac Efe, gan atteb iddo, a ddywedodd, Ti a ddywedi.
4
A Pilat a ddywedodd wrth yr archoffeiriaid a’r torfeydd, Nid oes dim bai a gaf yn y dyn hwn.
5
A hwy oeddynt daerach, gan ddywedyd, Cyffroi’r bobl y mae, gan ddysgu trwy holl Iwdea, ac wedi dechreu o Galilea hyd yma.
6
A Pilat, wedi clywed hyn, a ofynodd a oedd y dyn yn Galilead.
7
A chan wybod mai o lywodraeth Herod yr ydoedd, danfonodd Ef at Herod, yr hwn oedd yntau hefyd yn Ierwshalem y dyddiau hyny.
8
A Herod, wedi gweled yr Iesu, a lawenychodd yn fawr, canys yr oedd er’s amser maith yn ewyllysio Ei weled Ef, o herwydd ei fod yn clywed am Dano; a gobeithiai hefyd weled rhyw arwydd yn cael ei wneuthur Ganddo;
9
a holodd Ef â geiriau lawer; ond Efe ni roes ddim atteb iddo.
10
A safodd yr archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion, gan Ei gyhuddo yn haerllug.
11
A Herod wedi Ei ddiystyru Ef, ynghyda’i filwyr, ac wedi Ei watwar Ef, gan Ei wisgo â gwisg ddisglaer, a’i danfonodd yn Ei ol at Pilat.
12
Ac aeth Pilat a Herod yn gyfeillion â’u gilydd y dydd hwnw, canys cyn hyny yr oeddynt mewn gelyniaeth â’u gilydd.
13
A Pilat wedi galw ynghyd yr archoffeiriaid a’r llywiawdwyr a’r bobl,
14
a ddywedodd wrthynt, Dygasoch attaf y dyn hwn megis yn gwyrdroi y bobl; ac wele Myfi yn eich gwydd a holais Ef, ac ni chefais yn y dyn hwn ddim bai,
15
o ran y cyhuddiadau genych yn Ei erbyn: nac hyd yn oed Herod, canys danfonodd Ef yn Ei ol attom: ac wele, nid oes dim yn haeddu marwolaeth wedi ei wneuthur Ganddo.
16
Wedi ei geryddu, gan hyny, gollyngaf Ef yn rhydd.
18
A gwaeddasant, yr holl liaws, gan ddywedyd, Cymmer hwn ymaith, a gollwng yn rhydd i ni Barabbas;
19
yr hwn oedd, o achos rhyw derfysg a ddigwyddodd yn y ddinas, a llofruddiaeth, wedi ei daflu i garchar.
20
A thrachefn, Pilat a lefarodd wrthynt, gan ewyllysio gollwng yn rhydd yr Iesu:
21
a hwy a leisiasant gan ddywedyd, Croes-hoelia, croes-hoelia Ef.
22
Ac efe, y drydedd waith, a ddywedodd wrthynt, Canys pa ddrwg a wnaeth Hwn? Nid oes ddim bai marwolaeth a gefais Ynddo: wedi ei geryddu, gan hyny, gollyngaf Ef yn rhydd.
23
A hwy fuant daerion arno, gyda lleisiau uchel, yn gofyn Ei groes-hoelio Ef;
24
a gorfu eu lleisiau hwynt; a Pilat a farnodd wneuthur eu gofyniad;
25
a gollyngodd yn rhydd yr hwn o achos terfysg a llofruddiaeth a fwriasid yngharchar, yr hwn a ofynasant: a’r Iesu a draddododd efe i’w hewyllys hwynt.
26
Ac fel y dygent Ef ymaith, wedi cymmeryd gafael yn rhyw Shimon o Cyrene yn dyfod o’r wlad, dodasant arno ef y groes i’w dwyn ar ol yr Iesu.
27
Ac yn Ei ganlyn Ef yr oedd lliaws mawr o bobl, ac o wragedd a wylent ac a alarent o’i blegid Ef:
28
ac wedi troi attynt, yr Iesu a ddywedodd, Merched Ierwshalem, na wylwch o’m plegid I, Eithr o’ch plegid eich hunain gwylwch, ac o blegid eich plant;
29
Canys wele, dyfod y mae’r dyddiau yn y rhai y dywedant, Gwyn eu byd y gwragedd anffrwythlawn, A’r crothau nad eppiliasant, a’r bronnau na feithrinasant.
30
Yna y dechreuant ddweud wrth y mynyddoedd, Syrthiwch arnom, Ac wrth y bryniau, Gorchuddiwch ni:
31
Canys os yn y pren îr y pethau hyn a wnant, Yn y crin pa beth a ddigwydd?
32
A dygpwyd hefyd ddau eraill, drwg-weithredwyr, gydag Ef i’w rhoi i’w marwolaeth.
33
A phan ddaethant at y lle a elwir Y Benglog, yno y croes-hoeliasant Ef, a’r drwgweithredwyr, y naill ar y llaw ddehau, a’r llall ar yr aswy.
34
A’r Iesu a ddywedodd, O Dad, maddeu iddynt, canys ni wyddant pa beth y maent yn ei wneud. Ac wrth rannu o honynt Ei ddillad, bwriasant goelbren.
35
A safai’r bobl yn edrych; ond gwatwar yr oedd y pennaethiaid hefyd, gan ddywedyd, Eraill a waredodd Efe; gwareded Ef Ei hun, os Hwn yw Crist Duw, Y Dewisedig?
36
Ac Ei watwar a wnaeth y milwyr hefyd, gan ddyfod Atto, gan gynnyg finegr Iddo,
37
a dywedyd, Os Tydi yw brenhin yr Iwddewon, gwared Dy Hun.
38
Ac yr oedd hefyd arysgrifen uwch Ei ben, “Brenhin yr Iwddewon yw Hwn.”
39
Ac un o’r drwg-weithredwyr a grogid, a’i cablodd Ef, gan ddywedyd, Onid Tydi wyt y Crist? Gwared Dy Hun a ninnau.
40
Ond gan atteb, y llall, yn ei ddwrdio ef, a ddywedodd, Onid ofni di Dduw, gan mai yn yr un condemniad yr wyt?
41
A nyni yn wir yn gyfiawn, canys yr hyn a haeddodd ein gweithredoedd a dderbyniwn; ond Hwn,
42
nid oes dim allan o’i le a wnaeth Efe: a dywedodd, O Iesu,
43
cofia fi pan ddelych yn Dy deyrnas: a dywedodd Efe wrtho, Yn wir y dywedaf wrthyt, Heddyw ynghyda Mi y byddi ym mharadwys.
44
Ac yr oedd hi weithian ynghylch y chweched awr, a thywyllwch ddigwyddodd ar yr holl ddaear hyd y nawfed awr, yr haul yn diffygio;
45
a rhwygwyd llen y deml yn ei chanol;
46
a chan lefain â llef uchel, yr Iesu a ddywedodd, Tad, i’th ddwylaw yr wyf yn rhoddi i gadw Fy yspryd; a phan hyn a ddywedasai, trengodd.
47
A chan weled o’r canwriad yr hyn a ddigwyddasai, gogoneddodd Dduw, gan ddywedyd, Yn wir, y dyn hwn cyfiawn ydoedd.
48
A’r holl dorfeydd a oedd yn bresennol wrth y golwg hwn, wedi gweled y pethau a ddigwyddasant, dan guro eu bronnau y dychwelasant.
49
A safai Ei holl gydnabod o hirbell, ac y gwragedd y rhai a’i canlynasant Ef o Galilea, yn edrych ar y pethau hyn.
50
Ac wele, gŵr a’i enw Ioseph, ac efe yn gynghorwr, gŵr da a chyfiawn,
51
(efe ni fu yn cyttuno â’u cynghor ac â’u gweithred) o Arimathea, dinas yr Iwddewon, yr hwn a ddisgwyliai am deyrnas Dduw,
52
hwn wedi myned at Pilat, a ofynodd gorph yr Iesu;
53
ac wedi Ei dynu Ef i lawr, amdôdd Ef mewn lliain main; a rhoddodd Ef mewn bedd wedi ei naddu mewn carreg, lle nid oedd neb etto yn gorwedd.
54
A dydd y Parottoad ydoedd, a’r Sabbath oedd yn nesau.
55
A chan ganlyn, y gwragedd, y rhai a ddaethent o Galilea ynghydag Ef, a welsant y bedd, a pha fodd y dodwyd Ei gorph:
56
ac wedi dychwelyd, parottoisant ber-aroglau ac enneiniau.
← Chapter 22
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 24 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24