bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
Luke 21
Luke 21
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 20
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 22 →
1
A chan edrych i fynu, gwelai y rhai yn bwrw eu rhoddion i’r drysorfa, a hwy yn oludog;
2
a gwelodd ryw wraig weddw dlawd yn bwrw yno ddwy hatling;
3
a dywedodd, Yn wir y dywedaf wrthych, Y weddw dlawd hon, mwy na’r oll a fwriodd hi;
4
canys yr holl rai hyn, o’r hyn oedd dros ben ganddynt y bwriasant at y rhoddion, ond hyhi, o’i phrinder, yr holl fywyd a oedd ganddi a fwriodd hi.
5
A rhai yn dywedyd am y deml, mai â meini teg ac offrymmau yr addurnwyd,
6
dywedodd, Y pethau hyn, y rhai yr edrychwch arnynt, daw dyddiau yn y rhai ni adewir maen ar faen yma, yr hwn ni ddattodir.
7
A gofynasant Iddo, gan ddywedyd, Athraw, pa bryd, ynte, y bydd y pethau hyn? a pha beth yw’r arwydd pan fo’r pethau hyn ar ddigwydd?
8
Ac Efe a ddywedodd, Edrychwch na’ch arweinier ar gyfeiliorn; canys llawer a ddeuant yn Fy enw, gan ddywedyd, Myfi wyf y Crist, ac, Yr amser a nesaodd.
9
Nac ewch ar eu hol. A phan glywoch am ryfeloedd a therfysgoedd, na chymmerwch fraw, canys rhaid sydd i’r pethau hyn ddigwydd yn gyntaf; eithr nid yn uniawn y mae’r diwedd.
10
Yna y dywedodd wrthynt, Cyfyd cenedl yn erbyn cenedl, a theyrnas yn erbyn teyrnas;
11
a daeargrynfaau mawrion, ac mewn rhai lleoedd newyn a heintiau a fyddant, a phethau ofnadwy ac arwyddion mawrion o’r nef a fyddant.
12
A chyn yr holl bethau hyn rhoddant eu dwylaw arnoch, ac y’ ch erlidiant, gan eich traddodi i’r sunagogau ac i garcharau, gan eich dwyn ger bron brenhinoedd a rhaglawiaid o achos Fy enw.
13
Digwydd i chwi yn dystiolaeth.
14
Gosodwch, gan hyny, yn eich calonnau, i beidio â rhag-fyfyrio am eich amddiffyn eich hunain;
15
canys Myfi a roddaf i chwi enau a doethineb yr hon ni ellir ei gwrth-sefyll na’i gwrth-ddywedyd gan eich holl wrthwynebwyr.
16
A thraddodir chwi hyd yn oed gan rieni a brodyr a cheraint a chyfeillion; a marwolaeth a barant i rai o honoch.
17
A byddwch yn gas gan bawb o achos Fy enw:
18
ac am flewyn o’ch pen ni dderfydd ddim.
19
Trwy eich amynedd yr ennillwch eich eneidiau.
20
Ond pan weloch amgylchu Ierwshalem gan luoedd, yna gwybyddwch y nesaodd ei hanghyfanedd-dra;
21
yna bydded i’r rhai yn Iwdea ffoi i’r mynyddoedd, ac i’r rhai yn ei chanol fyned allan; a’r rhai yn y maesydd, nac elont i mewn iddi,
22
canys dyddiau ymweliad yw y rhai hyn, fel y cyflawner yr holl bethau a ysgrifenwyd.
23
Gwae y beichiogion a’r rhai yn rhoi bronnau yn y dyddiau hyny, canys bydd angen mawr yn y tir, a digofaint ar y bobl hyn;
24
a syrthiant trwy fin cleddyf, a chaeth-gludir hwynt at yr holl genhedloedd, ac Ierwshalem fydd yn cael ei sathru gan genhedloedd, hyd oni chyflawner amseroedd y cenhedloedd.
25
A bydd arwyddion yn yr haul a’r lleuad a’r ser, ac ar y ddaear ing cenhedloedd mewn dyryswch gan ruad y môr a’r môr-gesyg,
26
gyda llewygu o ddynion gan ofn a disgwyl am y pethau sy’n dyfod ar y byd, canys galluoedd y nefoedd a ysgydwir;
27
ac yna y gwelant Fab y Dyn yn dyfod mewn cwmmwl gyda gallu a gogoniant mawr.
28
A phan ddechreuo’r pethau hyn ddigwydd, ymsythwch, a chodwch eich pennau, canys nesau y mae eich prynedigaeth.
29
A dywedodd ddammeg wrthynt, Gwelwch y ffigysbren a’r holl brennau: pan flaguront yn awr,
30
gan weled o honoch eich hunain y gwyddoch mai agos yn awr yw’r haf.
31
Felly chwithau hefyd, pan weloch y pethau hyn yn digwydd, gwybyddwch mai agos yw teyrnas Dduw.
32
Yn wir y dywedaf wrthych nad aiff y genhedlaeth hon ddim heibio, hyd oni fydd i’r cwbl ddigwydd.
33
Y nef a’r ddaear a ant heibio, ond y geiriau mau Fi, nid ant ddim heibio.
34
Ond cymmerwch ofal rhag ysgatfydd y trymhaer eich calonnau chwi gan lythineb a meddwdod a gofalon y bywyd hwn, ac yn ddisymmwth ddyfod arnoch o’r dydd hwnw fel magl,
35
canys daw ar bawb sy’n trigo ar wyneb yr holl ddaear.
36
A gwyliwch bob amser, gan ddeisyfu y byddoch abl i ddiangc rhag y pethau hyn oll y sydd ar ddigwydd, ac i sefyll ger bron Mab y Dyn.
37
Ac yr oedd Efe, y dyddiau, yn y deml, yn dysgu; a’r nosau, gan fyned allan y llettyai ar y mynydd a elwir Mynydd yr Olewydd.
38
A’r holl bobl a fore-gyrchent Atto yn y deml, i’w glywed Ef.
← Chapter 20
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 22 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24