bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
Luke 19
Luke 19
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 18
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 20 →
1
Ac ar ol myned i mewn, yr aeth Efe trwy Iericho.
2
Ac wele, gŵr yr hwn wrth ei enw a enwid Zaccëus, ac efe oedd ben treth-gymmerwr, ac efe yn oludog;
3
a cheisiai weled yr Iesu, pwy ydoedd; ac ni allai o’r dyrfa, canys o ran maint, bychan oedd efe.
4
Ac wedi rhedeg rhagddo i’r blaen, dringodd i sycamorwydden fel y gwelai Ef, canys y ffordd honno yr oedd Efe ar fyned heibio.
5
A phan ddaeth i’r lle, wedi edrych i fynu, yr Iesu a ddywedodd wrtho, Zaccëus, brysia i ddisgyn, canys heddyw yn dy dŷ di y mae rhaid i Mi aros.
6
Ac ar frys y disgynodd, a derbyniodd Ef yn llawen.
7
A chan weled, yr oll o honynt a rwgnachasant, gan ddywedyd, At bechadur o ddyn yr aeth i mewn i lettya.
8
A chan sefyll, Zaccëus a ddywedodd wrth yr Arglwydd, Wele, hanner fy meddiannau, Arglwydd, yr wyf yn ei roddi i’r tlodion; ac os gan neb y cefais ddim ar gam, ei roddi yn ol yr wyf ar ei bedwerydd.
9
A dywedodd yr Iesu wrtho, Heddyw, iachawdwriaeth a ddaeth i’r tŷ hwn, gan ei fod ef hefyd yn fab i Abraham,
10
canys daeth Mab y Dyn i geisio ac i gadw yr hyn a gollwyd.
11
A phan glywent hwy y pethau hyn, chwanegodd ddywedyd dammeg, gan mai agos yr oedd Efe i Ierwshalem, a thybied o honynt mai allan o law yr oedd teyrnas Dduw ar fedr ymddangos.
12
Dywedodd, gan hyny, Rhyw ŵr boneddig a aeth i wlad bell i dderbyn iddo ei hun deyrnas, ac i ddychwelyd.
13
Ac wedi galw ei ddeg gwas, rhoddes iddynt ddeg maneh, a dywedodd wrthynt, Marchnattewch hyd oni ddelwyf.
14
Ond ei ddinaswyr a’i casaent ef, a danfonasant gennadwri ar ei ol, gan ddywedyd, Nid ewyllysiwn i hwn deyrnasu arnom.
15
A bu, ar ol dychwelyd o hono, wedi derbyn y frenhiniaeth, y dywedodd hefyd am alw atto y geision hyny i’r rhai y rhoddasai yr arian, fel y gwybyddai pa faint a elwasant wrth farchnatta.
16
A daeth y cyntaf gan ddywedyd, Arglwydd, dy faneh a ynnillodd atti ddeg maneh.
17
A dywedodd efe wrtho, Da, was da: gan mai mewn peth bychan iawn ffyddlawn fuost, bydd ag awdurdod genyt ar ddeg dinas.
18
A daeth yr ail, gan ddywedyd, Dy faneh, arglwydd, a wnaeth bum maneh.
19
A dywedodd efe wrth hwnw hefyd, Da, was da; a thydi, bydd ar bum dinas.
20
Ac y llall a ddaeth, gan ddywedyd, Arglwydd, wele dy faneh, yr hon oedd genyf wedi ei dodi heibio mewn napcyn;
21
canys ofnais di gan mai gŵr tost wyt: cymmeryd i fynu yr wyt yr hyn na roddaist i lawr, ac yn medi yr hyn na heuaist.
22
Dywedodd efe wrtho, O’th enau y’th farnaf, was drwg. Gwyddit fy mod i yn ddyn tost, yn cymmeryd i fynu yr hyn na roddais i lawr,
23
ac yn medi yr hyn na heuais; a phaham na roddaist fy arian at fwrdd yr arianwyr, ac myfi, wedi dyfod, gyda llog y’i cawswn?
24
Ac wrth y rhai yn sefyll ger llaw y dywedodd, Cymmerwch oddi arno y faneh, a rhoddwch i’r hwn sydd a deg maneh ganddo.
25
A dywedasant wrtho, Arglwydd, y mae ganddo ddeg maneh.
26
Dywedaf wrthych I bob un y sydd a chanddo, y rhoddir; ac oddi ar yr hwn nad oes ganddo, hyd yn oed yr hyn y sydd ganddo a gymmerir oddi arno.
27
Eithr fy ngelynion hyny, y rhai nid ewyllysiasant i mi deyrnasu arnynt, deuwch â hwynt yma, a lleddwch ger fy mron.
28
Ac wedi dweud y pethau hyn, teithiodd o’r blaen, gan fyned i fynu i Ierwshalem.
29
A bu pan nesaodd at Bethphage a Bethania, at y mynydd a elwir Mynydd yr Olewydd, danfonodd ddau o’i ddisgyblion,
30
gan ddywedyd, Ewch i’r pentref sydd ar eich cyfer, yn yr hwn, wrth fyned i mewn, y cewch ebol yn rhwym, ar yr hwn ni fu i neb o ddynion erioed eistedd: wedi ei ollwng, deuwch ag ef yma.
31
Ac os bydd i neb ofyn i chwi, Paham y gollyngwch ef? fel hyn y dywedwch, Yr Arglwydd sydd a rhaid wrtho.
32
Ac wedi myned ymaith, y rhai a ddanfonwyd a gawsant fel y dywedodd Efe wrthynt.
33
Ac wrth ollwng o honynt yr ebol, dywedodd ei berchennogion wrthynt, Paham y gollyngwch yr ebol?
34
A hwy a ddywedasant, Yr Arglwydd sydd a rhaid wrtho ef;
35
a daethant ag ef at yr Iesu; ac wedi bwrw eu cochlau eu hunain ar yr ebol, dodasant yr Iesu arno.
36
Ac wrth fyned o Hono rhagddo, tanasant eu cochlau ar y ffordd.
37
Ac wrth nesau o Hono yn awr, wrth ddisgynfa mynydd yr Olewydd, dechreuodd holl luaws y disgyblion, dan lawenychu, glodfori Duw â llef uchel am yr holl wyrthiau a welsent,
38
gan ddywedyd, Bendigedig yw’r Brenhin sy’n dyfod yn enw’r Arglwydd, Tangnefedd yn y nef, a gogoniant yn y goruchafion.
39
A rhai o’r Pharisheaid o’r dyrfa a ddywedasant Wrtho, Athraw, dwrdia Dy ddisgyblion.
40
A chan atteb, dywedodd, Dywedaf wrthych, Os y rhai hyn a dawant, y cerrig a waeddant.
41
A phan nesaodd, gan weled y ddinas, gwylodd drosti,
42
gan ddywedyd, Pe gwybuasit yn y dydd hwn, ïe, tydi, y pethau i’ th heddwch! Ond yn awr, cuddiwyd hwynt oddiwrth dy lygaid.
43
Canys daw’ r dyddiau arnat, ac y bwrw dy elynion glawdd o’th amgylch, Ac amgylchynant di, a gwarchaeant di o bob parth,
44
A drylliant ti a’th blant o’th fewn, Ac ni adawant faen ar faen ynot, Gan nad adnabuost amser dy ymweliad.
45
Ac wedi myned i mewn i’r deml, dechreuodd fwrw allan y rhai yn gwerthu,
46
gan ddywedyd wrthynt, Ysgrifenwyd, “A bydd Fy nhŷ yn dŷ gweddi;” a chwychwi a’i gwnaethoch yn ogof lladron.
47
Ac yr oedd Efe yn dysgu beunydd yn y deml. A’r archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion a geisient Ei ladd Ef,
48
ac felly hefyd pennaethiaid y bobl: ond ni chaent pa beth a wnaent, canys y bobl oll oedd ynglyn Wrtho, dan wrandaw.
← Chapter 18
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 20 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24