bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
Luke 9
Luke 9
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 8
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 10 →
1
Ac wedi galw y deuddeg ynghyd, rhoddes iddynt allu ac awdurdod ar yr holl gythreuliaid, ac i iachau clefydau;
2
a danfonodd hwynt i bregethu teyrnas Dduw, ac i iachau y cleifion: a dywedodd wrthynt,
3
Na chymmerwch ddim i’r daith, na ffon, nac ysgrepan, na bara, nac arian, ac na fyddwch a dwy bais genych.
4
Ac i ba dŷ bynnag yr eloch i mewn, yno arhoswch, ac oddi yno ewch allan.
5
A chynnifer ag na’ch derbyniant, wrth fyned allan o’r ddinas honno, y llwch ysgydwch ymaith oddiwrth eich traed, yn dystiolaeth yn eu herbyn.
6
A chan fyned allan yr aethant trwy’r pentrefi, gan efengylu ac iachau ym mhob lle.
7
A chlywodd Herod y Tetrarch yr holl bethau a ddigwyddent, a phetrusai o herwydd y dywedid gan rai, Ioan a gyfododd o feirw;
8
a chan rai, Elias a ymddangosodd; a chan eraill, Prophwyd, un o’r rhai gynt, a adgyfododd.
9
A dywedodd Herod, Ioan, myfi a dorrais ei ben; ond pwy yw hwn, am yr hwn y clywaf y fath bethau? A cheisiai ei weled Ef.
10
Ac wedi dychwelyd, yr apostolion a fynegasant Iddo faint o bethau a wnaethent. Ac wedi eu cymmeryd Atto, ciliodd o’r neilldu i ddinas a elwir Bethtsaida.
11
A’r torfeydd, gan wybod hyn, a’i canlynasant Ef; ac wedi eu derbyn, llefarodd wrthynt am deyrnas Dduw; ac y rhai ag arnynt eisiau eu hiachau, a iachaodd Efe.
12
A’r dydd a ddechreuodd hwyrhau; ac wedi dyfod Atto, y deuddeg a ddywedasant Wrtho, Gollwng ymaith y dyrfa, fel wedi myned i’r pentrefi oddi amgylch, ac i’r wlad, y llettyont ac y caffont fwyd, canys yma, mewn lle anial yr ydym.
13
A dywedodd Efe wrthynt, Rhoddwch chwi iddynt beth i’w fwytta. A hwy a ddywedasant, Nid oes genym fwy na phum torth a dau bysgodyn, onid awn ni a phrynu bwyd i’r holl bobl hyn,
14
canys yr oeddynt ynghylch pum mil o wŷr. A dywedodd wrth Ei ddisgyblion, Gwnewch iddynt led-orwedd yn finteioedd o ynghylch deg a deugain bob un.
15
A gwnaethant felly, a pharasant iddynt oll led-orwedd.
16
Ac wedi cymmeryd y pum torth a’r ddau bysgodyn, gan edrych i fynu i’r nef bendithiodd hwynt, a thorrodd, a rhoddodd i’w ddisgyblion i osod ger bron y dyrfa.
17
A bwyttasant, a digonwyd hwy oll; a chymmerwyd i fynu yr hyn oedd dros ben iddynt o friw-fwyd, ddeuddeg basgedaid.
18
A bu pan yr oedd Efe yn gweddïo o’r neilldu, yr oedd Ei ddisgyblion gydag Ef; a gofynodd iddynt, gan ddywedyd, Pwy y dywaid y torfeydd Fy mod I?
19
A hwy, gan atteb, a ddywedasant, Ioan Fedyddiwr; ac eraill, Elias; ac eraill, mai prophwyd, un o’r rhai gynt, a adgyfododd.
20
A dywedodd Efe wrthynt, A chwychwi, pwy y dywedwch Fy mod I? A chan atteb, Petr a ddywedodd, Crist Duw.
21
Ac Efe, gan ddwrdio, a orchymynodd iddynt na ddywedent hyn i neb,
22
gan ddywedyd, Y mae rhaid i Fab y Dyn ddioddef llawer, a’i wrthod gan yr henuriaid a’r archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion, ac Ei ladd, ac ar y trydydd dydd adgyfodi.
23
A dywedodd wrth bawb, Os yw neb yn ewyllysio dyfod ar Fy ol, ymwaded ag ef ei hun, a chyfoded ei groes beunydd, a chanlyned Fi;
24
canys pwy bynnag a ewyllysio gadw ei einioes, a’i cyll; ond pwy bynnag a gollo ei einioes o’m hachos I, hwnw a’i ceidw.
25
Canys pa beth y lleseir dyn wedi ennill y byd oll, ond a chydag ef ei hun wedi myned ar goll neu yn ddirwy?
26
Canys pwy bynnag fo ag arno gywilydd o Myfi a’m geiriau, O hono ef y bydd gan Fab y Dyn gywilydd Pan ddelo yn Ei ogoniant Ei hun Ac yngogoniant y Tad a’r sanctaidd angylion.
27
A dywedaf wrthych yn wir, Y mae rhai o’r sawl sy’n sefyll yma, y rhai nid archwaethant mo angau nes gweled o honynt deyrnas Dduw.
28
A bu, ar ol y geiriau hyn, ynghylch wyth niwrnod wedi’n, wedi cymmeryd Atto Petr ac Ioan ac Iago, yr aeth i fynu i’r mynydd i weddïo.
29
Ac wrth weddïo o Hono yr aeth gwedd Ei wyneb yn arall, ac Ei wisg yn wen-felltenaidd.
30
Ac wele, dau ŵr a gydymddiddanent ag Ef, y rhai oeddynt Mosheh ac Elias;
31
y rhai gan ymddangos mewn gogoniant, a lefarent am Ei ymadawiad yr hwn yr oedd Efe ar fedr ei gyflawni yn Ierwshalem.
32
A Petr a’r rhai gydag ef oeddynt wedi eu trymhau gan gwsg; ond wedi dihuno gwelsant Ei ogoniant a’r ddau ŵr a oedd yn sefyll gydag Ef.
33
A bu, wrth ymddidoli o honynt oddiwrtho Ef, dywedodd Petr wrth yr Iesu, Athraw, ardderchog yw bod o honom yma; a gwnawn dair pabell, un i Ti; ac i Mosheh un; ac un i Elias, heb wybod pa beth a ddywedodd.
34
Ac efe yn dywedyd y geiriau hyn, bu cwmmwl a chysgododd hwynt; a dychrynwyd hwy wrth fyned o honynt i mewn i’r cwmmwl;
35
a llais fu o’r cwmmwl yn dywedyd, Hwn yw Fy Mab dewisedig; arno Ef gwrandewch.
36
Ac wedi bod y llais, cafwyd yr Iesu ar Ei ben Ei hun. A hwy a dawsant, ac wrth neb ni fynegasant, yn y dyddiau hyny, ddim o’r pethau a welsant.
37
A bu drannoeth, wedi dyfod o honynt i wared o’r mynydd, y cyfarfu ag Ef dyrfa fawr.
38
Ac wele, gŵr, o’r dyrfa, a ddolefodd gan ddywedyd, Athraw, attolygaf i Ti edrych ar fy mab, canys unig-anedig yw i mi;
39
ac wele, yspryd a’i cymmer ef, ac yn ddisymmwth y gwaedda: a dryllio ef y mae ynghyda bwrw ewyn; a braidd y cilia oddiwrtho ar ol ei ysigo ef.
40
Ac attolygais i’th ddisgyblion ei fwrw ef allan, ond ni allasant.
41
A chan atteb, yr Iesu a ddywedodd, O genhedlaeth ddi-ffydd a throfaus, hyd ba bryd y byddaf gyda chwi, ac y’ch goddefaf? Tyred yma â’th fab.
42
Ac efe etto yn dyfod, rhwygodd y cythraul ef, ac y’i drylliodd. A dwrdiodd yr Iesu yr yspryd aflan; ac iachaodd y bachgen, a rhoddes ef i’w dad.
43
A bu aruthr gan bawb o herwydd mawredd Duw. Ac a phawb yn rhyfeddu am yr holl bethau a wnaeth Efe,
44
dywedodd wrth Ei ddisgyblion, Gosodwch chwi yn eich clustiau y geiriau hyn, Y mae Mab y Dyn ar fedr Ei draddodi i ddwylaw dynion.
45
A hwy ni wybuant yr ymadrodd hwn, ac yn orchuddiedig oedd oddi wrthynt, fel na ddeallent ef; ac ofnasant ofyn Iddo am yr ymadrodd hwn.
46
A daeth ymresymmiad yn eu plith, pwy a fyddai fwyaf o honynt.
47
A’r Iesu, gan weled ymresymmiad eu calon, wedi cymmeryd bachgenyn, a’i gosododd ef yn Ei ymyl,
48
a dywedodd wrthynt, Pwy bynnag a dderbynio y bachgenyn hwn yn Fy enw, Myfi a dderbyn efe; a phwy bynnag a’m derbynio I, derbyn y mae yr Hwn a’m danfonodd; canys yr hwn sydd leiaf yn eich plith chwi oll, efe sydd fawr.
49
A chan atteb, Ioan a ddywedodd, O Feistr, gwelsom ryw un oedd yn Dy enw Di yn bwrw allan gythreuliaid, a rhwystrasom ef, gan nad yw yn canlyn gyda ni.
50
Ac wrtho y dywedodd yr Iesu, Na rwystrwch, canys y neb nad yw i’ch erbyn, trosoch y mae.
51
A bu wrth gyflawni dyddiau Ei gymmeryd i fynu,
52
ac Efe a gadarn-osododd Ei wyneb i fyned i Ierwshalem, a danfonodd genhadau o flaen Ei wyneb; ac wedi myned o honynt, aethant i mewn i bentref o Shamariaid, i barottoi Iddo.
53
Ac ni dderbyniasant Ef, gan fod Ei wyneb ar fyned i Ierwshalem.
54
A chan weled hyn, Ei ddisgyblion Iago ac Ioan a ddywedasant, Arglwydd, a ewyllysi Di ddywedyd o honom am i dân ddyfod i lawr o’r nef a’u difa hwynt?
55
Ac wedi troi, dwrdiodd hwynt:
56
ac aethant i bentref arall.
57
Ac wrth fyned o honynt, ar y ffordd y dywedodd rhywun Wrtho, Canlynaf Di i ba le bynnag yr elych.
58
Ac wrtho y dywedodd yr Iesu, Y llwynogod sydd a ffauau ganddynt, ac ehediaid y nef a llettyau ganddynt; ond gan Fab y Dyn nid oes lle y rhoddo Ei ben i lawr.
59
A dywedodd wrth un arall, Canlyn Fi. Ac efe a ddywedodd, Arglwydd, gad i mi, wedi myned ymaith,
60
yn gyntaf gladdu fy nhad: a dywedodd wrtho, Gad i’r meirwon gladdu eu meirw eu hun; a thydi wedi myned ymaith, cyhoedda deyrnas Dduw.
61
A dywedodd un arall hefyd, Canlynaf Di, Arglwydd; ond yn gyntaf, caniatta i mi ganu yn iach i’r rhai sydd gartref:
62
ac wrtho y dywedodd yr Iesu, Nid oes neb wedi rhoi ei law ar yr aradr ac yn edrych yn ei ol, yn gymmwys i deyrnas Dduw.
← Chapter 8
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 10 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24