bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
Luke 5
Luke 5
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 6 →
1
A bu, pan yr oedd y dyrfa yn pwyso Arno ac yn clywed Gair Duw, yr oedd Efe yn sefyll yn ymyl llyn Gennesaret:
2
a gwelodd ddau gwch yn sefyll wrth y llyn, a’r pysgodwyr, wedi myned allan o honynt, a olchent eu rhwydau.
3
Ac wedi myned i mewn i un o’r cychod, yr hwn oedd eiddo Shimon, gofynodd iddo wthio ychydig oddiwrth y tir; ac wedi eistedd, dysgodd y torfeydd, allan o’r cwch.
4
A phan beidiodd â llefaru, dywedodd wrth Shimon, Gwthia i’r dwfn, a gollyngwch i wared eich rhwydau am helfa.
5
A chan atteb, Shimon a ddywedodd, O Feistr, yr holl nos y poenasom, ac ni ddaliasom ddim; ond ar Dy air Di gollyngaf i wared y rhwydau.
6
A phan hyn a wnelsent, cyd-gauasant liaws mawr o bysgod, ac ar dorri yr oedd eu rhwydau;
7
ac amneidiasant at eu cyd-gyfranogion oedd yn y cwch arall i ddyfod i’w cynnorthwyo hwynt; a dyfod a wnaethant, a llanwasant y ddau gwch fel yr oeddynt ar soddi.
8
A chan weled o Shimon Petr hyn, syrthiodd wrth liniau’r Iesu, gan ddywedyd, Dos allan oddiwrthyf, canys dyn pechadurus wyf, O Arglwydd;
9
canys syndod a gymmerth afael arno ef a’r holl rai oedd gydag ef, wrth yr helfa bysgod a ddaliasent,
10
a’r un ffunud hefyd ar Iago ac Ioan, meibion Zebedëus, y rhai oeddynt gyfranogion â Shimon. Ac wrth Shimon y dywedodd yr Iesu, Nac ofna; o hyn allan, dynion a ddeli.
11
Ac wedi dwyn y cychod i’r tir, gan adael pob peth, canlynasant Ef.
12
A bu, pan yr oedd Efe yn un o’r dinasoedd, ac wele, gŵr llawn o wahan-glwyf; ac wedi gweled yr Iesu, wedi syrthio ar ei wyneb, ymbiliodd ag Ef, gan ddywedyd, Arglwydd, os ewyllysi, abl wyt i’m glanhau i.
13
Ac wedi estyn allan Ei law, cyffyrddodd Efe ag ef, gan ddywedyd, Ewyllysiaf: glanhaer di; ac yn uniawn y gwahan-glwyf a aeth ymaith oddiwrtho.
14
Ac Efe a orchymynodd iddo na ddywedai wrth neb; eithr, wedi myned ymaith, dangos dy hun i’r offeiriad, a thyred â’r offrwm am dy lanhad, fel yr ordeiniodd Mosheh, yn dystiolaeth iddynt.
15
Ac yn fwy ar led yr aeth y gair am Dano; a daeth ynghyd dorfeydd mawrion i glywed ac i’w hiachau o’u clefydau:
16
ond Efe oedd yn cilio yn yr anial-leoedd ac yn gweddïo.
17
A bu, ar un o’r dyddiau hyny, ac Efe oedd yn dysgu, ac yr oedd yn eu heistedd Pharisheaid ac Athrawon y Gyfraith, y rhai a ddaethent o bob pentref yn Galilea, ac Iwdea ac Ierwshalem;
18
a gallu’r Arglwydd oedd i iachau o Hono; ac wele, dynion yn dwyn ar wely ddyn a oedd glaf o’r parlys, a cheisient ddyfod ag ef i mewn, a’i ddodi ger Ei fron Ef.
19
A phan na chawsant pa fodd y deuent ag ef i mewn, o achos y dyrfa, wedi esgyn ar y tŷ, trwy’r pridd-lechau y gollyngasant ef i wared ynghyda’r gwely bach, i’r canol ger bron yr Iesu.
20
Ac wedi gweled eu ffydd, dywedodd Efe, O ddyn, maddeuwyd i ti dy bechodau.
21
A dechreu ymresymmu a wnaeth yr ysgrifenyddion a’r Pharisheaid, gan ddywedyd, Pwy yw hwn y sy’n llefaru cableddau? Pwy sy’n abl i faddeu pechodau oddieithr Duw yn unig?
22
A chan ganfod o’r Iesu eu hymresymmiadau, gan atteb y dywedodd wrthynt, Paham yr ymresymmwch yn eich calonnau?
23
Pa un sydd hawsaf, ai dywedyd “Maddeuwyd i ti dy bechodau,” neu ddywedyd “Cyfod a rhodia?”
24
Ond fel y gwypoch fod awdurdod gan Fab y Dyn ar y ddaear i “faddeu pechodau” (dywedodd wrth y claf o’r parlys), Wrthyt y dywedaf Cyfod, a chan godi dy wely bach, dos i’th dŷ.
25
A chan gyfodi yn uniawn yn eu gwydd hwynt, ac wedi codi yr hyn y gorweddai arno, yr aeth ymaith i’w dŷ, dan ogoneddu Duw.
26
A syndod a gymmerth arnynt i gyd, a gogoneddasant Dduw, a llanwyd hwy o ofn, gan ddywedyd Gwelsom bethau anhygoel heddyw.
27
Ac ar ol y pethau hyn, aeth Efe allan, a gwelodd dreth-gymmerwr a’i enw Lefi, yn ei eistedd wrth y dollfa,
28
a dywedodd wrtho, Canlyn Fi: a chan adael pob peth, wedi sefyll i fynu y canlynodd Ef.
29
A gwledd fawr a wnaeth Lefi Iddo yn ei dŷ; ac yr oedd tyrfa fawr o dreth-gymmerwyr ac eraill, y rhai oeddynt ynghyda hwynt, yn lled-orwedd wrth y ford.
30
A murmurodd y Pharisheaid a’u hysgrifenyddion wrth Ei ddisgyblion gan ddywedyd, Paham mai gyda’r treth-gymmerwyr a phechaduriaid y bwyttewch ac yr yfwch?
31
A chan atteb, yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Nid oes rhaid i’r rhai iach wrth feddyg,
32
eithr i’r rhai drwg eu hwyl; ni ddaethum i alw cyfiawnion, eithr pechaduriaid, i edifeirwch.
33
A hwy a ddywedasant Wrtho, Disgyblion Ioan a ymprydiant yn fynych, a gweddïau a wnant; ac yn y cyffelyb fodd yr eiddo y Pharisheaid, ond yr eiddot Ti a fwyttant ac a yfant.
34
A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, A ellwch chwi wneuthur i feibion yr ystafell briodas ymprydio, tra y mae’r priodas-fab gyda hwynt?
35
Ond daw’r dyddiau; a phan ddyger y priodas-fab oddi arnynt, yna yr ymprydiant yn y dyddiau hyny.
36
A llefarodd hefyd ddammeg wrthynt, Nid yw neb, ar ol rhwygo llain oddiwrth ddilledyn newydd, yn ei roddi ar ddilledyn hen: onite y newydd a rwyga efe, ac â’r hen ni chyttuna y llain y sydd oddiwrth y newydd.
37
Ac ni fwrw neb win newydd i gostrelau hen: onite, dryllia’r gwin newydd y costrelau, ac a efe a dywelltir allan, ac am y costrelau y derfydd;
38
eithr gwin newydd, i gostrelau newyddion y mae efe i’w fwrw.
39
Ac nid oes neb, pan yn yfed yr hen, yn chwennych gwin newydd; canys ebr efe, Yr hen sydd dda.
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 6 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24