bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
Luke 2
Luke 2
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 3 →
1
A bu yn y dyddiau hyny, yr aeth allan orchymyn oddiwrth Cesar Augustus, i gofrestru’r holl fyd.
2
A’r cofrestriad hwn oedd y cyntaf, pan yr oedd Cwirinius yn rhaglaw ar Syria.
3
Ac aeth pawb i’w cofrestru, bob un i’w ddinas ei hun.
4
Ac aeth Ioseph hefyd i fynu o Galilea, o ddinas Natsareth, i Iwdea, i ddinas Dafydd, yr hon a elwir Bethlehem,
5
gan ei fod o dŷ a thylwyth Dafydd, i’w gofrestru gyda Mair, yr hon a ddyweddïasid yn wraig iddo, a hithau yn feichiog.
6
A bu, tra yr oeddynt yno, cyflawnwyd y dyddiau i esgor o honi,
7
ac esgorodd ar ei Mab cyntaf-anedig, a rhwymodd Ef mewn cadachau, a dododd Ef mewn preseb gan nad oedd iddynt le yn y lletty.
8
Ac yr oedd bugeiliaid yn y wlad honno, yn aros yn y maes, ac yn gwylied, liw nos, dros eu praidd.
9
Ac angel yr Arglwydd a safodd gerllaw iddynt, a gogoniant yr Arglwydd a ddisgleiriodd o’u hamgylch; ac ofnasant ag ofn mawr.
10
A dywedodd yr angel wrthynt, Nac ofnwch; canys wele, efangylu yr wyf i chwi lawenydd mawr, yr hwn a fydd i’r holl bobl,
11
Ganwyd i chwi heddyw Iachawdwr, yr Hwn yw Crist yr Arglwydd, yn ninas Dafydd.
12
A hwn fydd i chwi yn arwydd, Cewch blentyn wedi ei rwymo mewn cadachau ac yn gorwedd mewn preseb.
13
Ac yn ddisymmwth yr oedd gyda’r angel liaws o lu nefol yn moliannu Duw, ac yn dywedyd,
14
Gogoniant yn y goruchafion, i Dduw, Ac, ar y ddaear, dangnefedd i ddynion y boddlonwyd ynddynt.
15
A bu, pan aeth yr angylion ymaith oddiwrthynt i’r nef, y bugeiliaid a ddywedasant wrth eu gilydd, Awn drosodd, ynte, hyd Bethlehem, a gwelwn y peth hwn a ddigwyddodd, yr hwn y bu i’r Arglwydd ei hyspysu i ni.
16
A daethant ar frys, a chawsant Mair ac Ioseph, a’r plentyn yn gorwedd yn y preseb.
17
A phan welsant, hyspysasant am yr ymadrodd a lefarasid wrthynt am y plentyn hwn.
18
A phawb o’r a’u clywsant, a ryfeddasant am y pethau a lefarwyd gan y bugeiliaid wrthynt.
19
Ond Mair a gadwai yr holl ymadroddion hyn, gan eu hystyried yn ei chalon.
20
A dychwelodd y bugeiliaid, gan ogoneddu a moliannu Duw am yr holl bethau a glywsent ac a welsent, fel y llefarasid wrthynt.
21
A phan gyflawnwyd wyth niwrnod i amdorri Arno, galwyd Ei enw IESU, yr hwn a alwesid gan yr angel cyn Ei ymddwyn yn y groth.
22
A phan gyflawnwyd dyddiau eu puredigaeth yn ol Cyfraith Mosheh, dygasant Ef i fynu i Ierwshalem, i’w gyflwyno i’r Arglwydd;
23
(fel yr ysgrifenwyd yn Nghyfraith yr Arglwydd, “Pob gwrryw yn agoryd croth, sanctaidd i’r Arglwydd a elwir Ef,”)
24
ac i roddi aberth yn ol yr hyn a ddywedwyd yn Nghyfraith yr Arglwydd, “Par o durturod, neu ddau gyw colommen.”
25
Ac wele, yr oedd gŵr yn Ierwshalem, a’i enw Shimeon, a’r gŵr hwn oedd gyfiawn a duwiol, yn disgwyl am ddiddanwch yr Israel: a’r Yspryd Glân oedd arno.
26
Ac iddo ef yr oedd wedi ei hyspysu gan yr Yspryd Glân na welai angau cyn na welai Crist yr Arglwydd.
27
A daeth, yn yr Yspryd, i’r deml; ac wrth ddwyn i mewn o’i rieni y plentyn Iesu, er mwyn gwneuthur o honynt am Dano,
28
yn ol Defod y Gyfraith, efe hefyd a’i cymmerth Ef yn ei freichiau, ac a fendithiodd Dduw, ac a ddywedodd,
29
Yr awr hon y gollyngi Dy was, O Arglwydd, Yn ol Dy air, mewn tangnefedd,
30
Canys fy llygaid a welsant Dy iachawdwriaeth,
31
Yr hon a barottoaist ger bron wyneb yr holl bobloedd;
32
Goleuni yn ddatguddiad cenhedloedd, Ac yn ogoniant Dy bobl Israel.
33
Ac yr oedd Ei dad Ef, a’i fam yn rhyfeddu wrth y pethau a lefarwyd am Dano.
34
A’u bendithio hwynt a wnaeth Shimeon, a dywedodd wrth Mair, Ei fam, Wele, Hwn a osodwyd yn gwymp ac yn gyfodiad llawer yn yr Israel, Ac yn arwydd y dywedir yn ei erbyn;
35
A thrwy dy enaid di dy hun yr aiff cleddyf, Fel y datguddier meddyliau o lawer o galonnau.
36
Ac yr oedd Anna brophwydes, merch Phanwel, o lwyth Asher, a hon wedi myned i ddyddiau oedranus, ac wedi byw gyda gŵr saith mlynedd o’i morwyndod,
37
a hithau yn weddw am bedair a phedwar ugain mlynedd, yr hon nid ymadawai â’r deml, gydag ymprydiau a gweddïau y gwasanaethai nos a dydd;
38
hithau hefyd, yr awr honno, gan sefyll ger llaw, a ddiolchodd i Dduw, ac a lefarodd am Dano Ef wrth y rhai oll oedd yn disgwyl ymwared Ierwshalem.
39
A phan orphenasent bob peth yn ol Cyfraith yr Arglwydd, dychwelasant i Galilea, i’w dinas, Natsareth.
40
A’r plentyn a gynnyddodd, ac a gryfhawyd, yn gyflawn o ddoethineb; a gras Duw oedd Arno.
41
Ac elai ei rieni, bob blwyddyn, i Ierwshalem, ar wyl y Pasg;
42
a phan oedd Efe yn ddeuddeng mlwydd oed, a myned i fynu o honynt yn ol arfer yr wyl;
43
ac wedi cyflawni’r dyddiau, wrth ddychwelyd o honynt, arhosodd y bachgen Iesu yn Ierwshalem;
44
ac ni wyddai Ei rieni; a chan dybied Ei fod Ef yn y fintai, aethant daith diwrnod, ac edrychasant am Dano ymhlith eu ceraint a’u cydnabod:
45
a chan na chawsant Ef, dychwelasant i Ierwshalem, gan edrych am Dano.
46
A bu, ar ol tridiau y cawsant Ef yn y deml, yn eistedd ynghanol yr athrawon, ac yn gwrando arnynt, ac yn ymofyn â hwynt.
47
A synnodd pawb o’r a’i clywent Ef, wrth Ei ddeall a’i attebion.
48
A phan welsant Ef, bu aruthr ganddynt; ac Wrtho Ei fam a ddywedodd, Fy mhlentyn, paham y gwnaethost fel hyn â ni? Wele, dy dad a myfi yn ofidus a edrychasom am Danat.
49
A dywedodd Efe wrthynt, Paham yr “edrychech am Danaf?” Oni wyddech mai yn nhŷ Fy Nhad y mae rhaid i Mi fod?
50
A hwy ni ddeallasant yr ymadrodd a lefarodd Efe wrthynt.
51
Ac aeth i wared gyda hwynt, a daeth i Natsareth, ac yr oedd yn ddarostyngedig iddynt; ac Ei fam a gadwai yr holl bethau hyn yn ei chalon.
52
A’r Iesu a aeth rhagddo mewn doethineb, a chorpholaeth, a ffafr gyda Duw a dynion.
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 3 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24