bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
Luke 17
Luke 17
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 16
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 18 →
1
A dywedodd wrth Ei ddisgyblion, Ammhosibl yw na fo i’r tramgwyddau ddyfod; ond gwae y neb trwy yr hwn y deuant;
2
gwell fyddai iddo pe bai maen melin yn cael ei roddi o amgylch ei wddf, a’i daflu ef i’r môr, nag iddo beri tramgwydd i un o’r rhai bychain hyn.
3
Cymmerwch ofal. Os pecha dy frawd, dwrdia ef; ac os edifarha, maddeu iddo;
4
ac os seithwaith yn y dydd y pecha yn dy erbyn, a seithwaith droi attat gan ddywedyd, Y mae yn edifar genyf, maddeui iddo.
5
A dywedodd yr apostolion wrth yr Arglwydd, Anghwanega ein ffydd.
6
A dywedodd yr Arglwydd, Pe byddai genych ffydd fel gronyn o had mwstard, dywedech wrth y sycamorwydden hon, Dadwreiddier di, a phlanner di yn y môr, ac ufuddhai i chwi.
7
A phwy o honoch a chanddo was yn aredig neu yn bugeilio, a ddywaid wrtho, wedi dyfod o hono i mewn o’r maes, Tyred yn uniawn a lled-orwedda,
8
eithr na ddywaid wrtho, Arlwya beth y swpperaf arno, a chan ymwregysu gwasanaetha arnaf nes i mi fwytta ac yfed;
9
ac wedi hyny y bwyttai ac yr yfi dithau. A oes ganddo ddiolch i’r gwas am wneuthur o hono y pethau a orchymynwyd iddo.
10
Felly chwithau hefyd, ar ol gwneuthur o honoch yr holl bethau a orchymynwyd i chwi, dywedwch, gweision anfuddiol ydym; yr hyn a ddylasem ei wneuthur a wnaethom.
11
A bu ar y daith i Ierwshalem, yr oedd Efe yn myned trwy ganol Shamaria a Galilea.
12
Ac wrth fyned o Hono i mewn i ryw bentref, cyfarfu ag Ef ddeg o ddynion gwahanglwyfus, y rhai a safasant o hirbell;
13
a hwy a godasant eu llais gan ddywedyd, Iesu, Feistr, trugarha wrthym.
14
A phan welodd hwynt, dywedodd wrthynt, Ewch a dangoswch eich hunain i’r offeiriaid. A bu wrth fyned ymaith o honynt, y glanhawyd hwynt.
15
Ac un o honynt gan weled yr iachawyd ef, a ddychwelodd dan ogoneddu Duw â llais uchel,
16
a syrthiodd ar ei wyneb wrth Ei draed Ef dan ddiolch Iddo.
17
Ac efe, Shamariad ydoedd. A chan atteb, yr Iesu a ddywedodd, Oni fu i’r deg eu glanhau? A’r naw, pa le y maent?
18
Ni chaed a ddychwelasant i roi gogoniant i Dduw, oddieithr yr estron hwn.
19
A dywedodd wrtho, Cyfod a dos dy ffordd: dy ffydd a’th iachaodd.
20
A phan ofynwyd Iddo gan y Pharisheaid, Pa bryd y daw teyrnas Dduw, attebodd iddynt, a dywedodd, Ni ddaw teyrnas Dduw gyda gwylied arni: ac ni ddywedant,
21
“Wele yma,” neu “Accw,” canys wele, teyrnas Dduw, o’ch mewn y mae.
22
A dywedodd wrth Ei ddisgyblion, Daw dyddiau pan chwennychwch weled un o ddyddiau Mab y Dyn, ac nis gwelwch.
23
A dywedant wrthych, “Wele, accw;” “Wele, yma;”
24
nac ewch ymaith, ac na chanlynwch; canys fel y mae’r fellten, gan felltennu o un ran dan y nef, yn disgleirio i ran arall dan y nef, felly y bydd Mab y Dyn yn Ei ddydd.
25
Ond yn gyntaf y mae rhaid Iddo ddioddef llawer, a’i wrthod gan y genhedlaeth hon.
26
Ac fel y bu yn nyddiau Noach, felly y bydd hefyd yn nyddiau Mab y Dyn;
27
bwyttaent, yfent, priodent, rhoddid yn briod, hyd y dydd yr aeth Noach i mewn i’r arch, ac y daeth y diluw ac y’u difethodd hwynt oll.
28
Yr un ffunud fel y bu yn nyddiau Lot; bwyttaent, yfent, prynent, gwerthent, plannent, adeiladent;
29
ond y dydd yr aeth Lot allan o Sodom, gwlawiodd tân a brwmstan o’r nef ac a’u difethodd hwynt oll.
30
Yn yr un modd y bydd yn y dydd y mae Mab y Dyn yn cael Ei ddatguddio.
31
Yn y dydd hwnw, yr hwn a fydd ar ben y tŷ, a’i ddodrefn yn y tŷ, na ddisgyned i’w cymmeryd hwynt; a’r hwn yn y maes, yr un ffunud, na ddychweled yn ei ol.
32
Cofiwch wraig Lot. Pwy bynnag a geisio gadw ei einioes, a’i cyll;
33
a phwy bynnag a’i collo, a’i bywha hi.
34
Canys dywedaf wrthych, Yn y nos honno y bydd dau mewn un gwely; y naill a gymmerir, a’r llall a adewir:
35
y bydd dwy yn malu ynghyd; y naill a gymmerir, a’r llall a adewir.
37
A chan atteb, dywedasant Wrtho, Pa le, Arglwydd? Ac Efe a ddywedodd wrthynt, Lle y mae ’r corph, yno hefyd yr adar rheibus a gydgesglir.
← Chapter 16
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 18 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24