bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
Luke 7
Luke 7
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 6
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 8 →
1
Pan orphenasai Ei holl ymadroddion ynghlyw y bobl, aeth i mewn i Caphernahwm.
2
A gwas rhyw ganwriad, yn ddrwg ei hwyl, oedd ym mron marw, yr hwn oedd mewn anrhydedd ganddo.
3
Ac wedi clywed am yr Iesu, danfonodd Atto henuriaid yr Iwddewon, gan ofyn Iddo ddyfod ac achub ei was.
4
A hwy, wedi dyfod at yr Iesu, a attolygasant Arno yn daer, gan ddywedyd, Haeddu y mae ganiattau o Honot hyn iddo, canys caru ein cenedl y mae;
5
ac y sunagog efe a adeiladodd i ni.
6
A’r Iesu a aeth gyda hwynt; ac Efe weithian ddim ymhell oddiwrth y tŷ, danfonodd y canwriad Atto gyfeillion, gan ddywedyd Wrtho, Arglwydd, nac ymboena, canys nid wyf deilwng i ddyfod o Honot i mewn dan fy nghronglwyd;
7
o herwydd paham ni’m tybiais fy hun yn deilwng i ddyfod Attat: eithr dywaid â gair, ac iacheir fy ngwas;
8
canys myfi hefyd wyf ddyn wedi ei osod dan awdurdod, a chenyf filwyr danaf fy hun; a dywedaf wrth hwn, Dos, a myned y mae; ac wrth arall, Tyred, a dyfod y mae; ac wrth fy ngwas, Gwna hyn, ac ei wneud y mae.
9
Ac wedi clywed y pethau hyn, yr Iesu a ryfeddodd wrtho; ac wedi troi o Hono, wrth y dyrfa oedd yn Ei ganlyn y dywedodd, Dywedaf wrthych, hyd yn oed yn yr Israel, cymmaint ffydd ni chefais.
10
Ac wedi dychwelyd i’w tŷ, y rhai a ddanfonasid a gawsant y gwas yn iach.
11
A bu, ar ol hyny, yr aeth i ddinas a elwid Nain; a myned gydag Ef yr oedd ei ddisgyblion a thyrfa fawr.
12
A phan nesaodd at borth y ddinas, wele, dygid allan un marw, mab unig-anedig ei fam, a hithau oedd weddw; a thyrfa fawr o’r ddinas oedd gyda hi.
13
Ac wedi ei gweled hi, yr Arglwydd a dosturiodd wrthi, a dywedodd wrthi, Na wyla.
14
A daeth at, a chyffyrddodd â’r elor; a’r rhai yn ei dwyn, a safasant: a dywedodd, Ieuangc, wrthyt y dywedaf, Cyfod.
15
A chododd y marw yn ei eistedd, a dechreuodd lefaru; a rhoddes Efe ef i’w fam.
16
Ac ofn a gymmerth afael ar bawb, a gogoneddasant Dduw, gan ddywedyd, Prophwyd mawr a gyfododd yn ein plith; ac, Ymwelodd Duw â’i bobl.
17
Ac aeth y gair hwn am Dano allan drwy holl Iwdea, a thrwy’r holl wlad oddi amgylch.
18
Ac wrth Ioan y mynegodd ei ddisgyblion am yr holl bethau hyn.
19
Ac wedi galw atto ryw ddau o’i ddisgyblion, Ioan a ddanfonodd at yr Arglwydd, gan ddywedyd, Ai Tydi yw’r Hwn sy’n dyfod, neu un arall a ddisgwyliwn?
20
Ac wedi dyfod Atto, y dynion a ddywedasant, Ioan Fedyddiwr a’n danfonodd Attat, gan ddywedyd, “Ai Tydi yw’r Hwn sy’n dyfod, neu un arall a ddisgwyliwn?”
21
Yr awr honno yr iachaodd Efe lawer oddiwrth glefydau a phlaau ac ysprydion drwg; ac i ddeillion lawer y rhoddes olwg.
22
A chan atteb, dywedodd wrthynt, Wedi myned, mynegwch i Ioan y pethau a welsoch ac a glywsoch: y mae deillion yn ail-weled; cloffion yn rhodio; cleifion gwahanol yn cael eu glanhau; a byddariaid yn clywed; meirw yn cael eu cyfodi: a thlodion yn cael pregethu’r efengyl iddynt;
23
a dedwydd yw pwy bynnag na thramgwydder Ynof.
24
Ac wedi myned ymaith o genhadau Ioan, dechreuodd ddywedyd wrth y torfeydd am Ioan, Pa beth yr aethoch allan i’r anialwch i edrych arno? Ai corsen a gwynt yn ei hysgwyd?
25
Eithr pa beth yr aethoch allan i’w weled? Ai dyn a gwisgoedd esmwyth am dano? Wele, y rhai y sydd mewn trwsiad gogoneddus a moethau, mewn palasau brenhinoedd y maent.
26
Eithr pa beth yr aethoch allan i’w weled? Ai prophwyd? Ië, meddaf i chwi, a rhagorolach na phrophwyd.
27
Hwn yw efe am yr hwn yr ysgrifenwyd, “Wele yr wyf Fi yn danfon Fy nghennad o flaen Dy wyneb, Yr hwn a barottoa Dy ffordd o’th flaen.”
28
Dywedaf wrthych, Un mwy ymhlith y rhai a anwyd o wragedd, nag Ioan, nid oes neb; ond y lleiaf yn nheyrnas Dduw, mwy nag ef yw.
29
A’r holl bobl wedi clywed, ac y treth-gymmerwyr, a gyfiawnhasant Dduw, yn cael eu bedyddio â bedydd Ioan;
30
ond y Pharisheaid a’r cyfreithwyr a ddiystyrasant gyngor Duw iddynt eu hunain, gan fod heb eu bedyddio ganddo.
31
I ba beth, gan hyny, y cyffelybaf ddynion y genhedlaeth hon; ac i ba beth y maent yn gyffelyb?
32
Cyffelyb ydynt i blant y sydd yn eistedd yn y farchnad, ac yn llefain wrth eu gilydd, y rhai a ddywedant, Canasom bibell i chwi,
33
ac ni ddawnsiasoch: canasom alarnad, ac ni wylasoch: canys daeth Ioan Fedyddiwr, nac yn bwytta bara, nac yn yfed gwin,
34
a dywedasant, Cythraul sydd ganddo: daeth Mab y Dyn yn bwytta ac yn yfed, a dywedwch, Wele, dyn glwth ac yfwr gwin, cyfaill treth-gymmerwyr a phechaduriaid:
35
ond cyfiawnheir doethineb gan ei phlant i gyd.
36
A gofynodd rhyw un o’r Pharisheaid Iddo fwytta gydag ef; ac wedi myned i mewn i dŷ y Pharishead, lled-orweddodd wrth y ford;
37
ac wele, gwraig a oedd yn y ddinas, pechadures, ac yn gwybod Ei fod yn lled-orwedd yn nhŷ’r Pharishead, gan ddyfod â blwch alabastr o ennaint,
38
a chan sefyll o’r tu ol, wrth Ei draed Ef, a than wylo, ddechreuodd wlychu Ei draed â’i dagrau, ac â gwallt ei phen y sychodd hwynt; a chusanodd Ei draed, ac enneiniodd hwynt â’r ennaint.
39
A chan weled o’r Pharishead, yr hwn a wahoddasai Ef, llefarodd ynddo ei hun, gan ddywedyd, Hwn, pe bai yn brophwyd, a wybuasai pwy, ac o ba fath y mae y wraig y sydd yn cyffwrdd ag Ef, mai pechadures yw.
40
A chan atteb, yr Iesu a ddywedodd wrtho, Shimon, y mae Genyf ryw beth i’w ddywedyd wrthyt ti. Ac efe a ddywedodd, Athraw, dywaid.
41
Dau ddyledwr oedd gan ryw echwynwr; y naill oedd ag arno bum can denar o ddyled, a’r llall ddeg a deugain.
42
A chan na allent dalu, i’r ddau y maddeuodd. Pa un, gan hyny, o honynt a’i câr ef yn fwyaf?
43
Gan atteb, Shimon a ddywedodd, Tybiaf mai yr hwn i ba un y maddeuodd fwyaf.
44
Ac Efe a ddywedodd, Uniawn y bernaist; ac wedi troi at y wraig, wrth Shimon y dywedodd, A weli di y wraig hon? Daethum i mewn i’th dŷ di, a dwfr i’m traed ni roddaist i Mi; ond hon â’i dagrau a wlychodd Fy nhraed I, ac â’i gwallt y sychodd hwynt.
45
Cusan ni roddaist i Mi; ond hon, o’r awr y daethum i mewn, ni pheidiodd a chusanu Fy nhraed I.
46
Ag olew, Fy mhen nid enneiniaist; ond hon ag ennaint a enneiniodd Fy nhraed.
47
Ac o herwydd hyn, dywedaf wrthyt, Maddeuwyd ei phechodau, a hwythau yn llawer, o herwydd caru o honi yn fawr. Ac i’r neb ond ychydig a faddeuir, ychydig a gâr efe.
48
A dywedodd wrthi, Maddeuwyd dy bechodau di.
49
A dechreuodd y rhai oedd yn eu lled-orwedd gydag Ef, ddywedyd ynddynt eu hunain, Pwy yw hwn, yr hwn hyd yn oed pechodau a faddeu efe?
50
A dywedodd wrth y wraig, Dy ffydd a’th gadwodd; dos mewn tangnefedd.
← Chapter 6
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 8 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24