bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
Luke 6
Luke 6
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 5
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 7 →
1
A bu ar Sabbath, fyned o Hono trwy faesydd yd, a thynnodd Ei ddisgyblion y tywys, a bwyttasant gan eu rhwbio â’u dwylaw.
2
A rhai o’r Pharisheaid a ddywedasant, Paham y gwnewch yr hyn nid yw gyfreithlawn ei wneuthur ar Sabbathau?
3
A chan atteb iddynt, dywedodd yr Iesu, Oni ddarllenasoch chwaith hyn, pa beth a wnaeth Dafydd, pan yr oedd chwant bwyd arno, efe a’r rhai oedd gydag ef;
4
y modd yr aeth i mewn i dŷ Dduw, a bara’r gosodiad ger bron a gymmerth ac a fwyttaodd efe, a rhoddes hefyd i’r rhai oedd gydag ef, yr hwn nid cyfreithlawn yw ei fwytta, oddieithr gan yr offeiriaid yn unig?
5
A dywedodd wrthynt, Arglwydd yw Mab y dyn ar y Sabbath.
6
A bu ar Sabbath arall, fyned o Hono i mewn i’r sunagog a dysgu; ac yr oedd yno ddyn a’i law ddehau wedi gwywo.
7
A gwylied Ef a wnaeth yr ysgrifenyddion a’r Pharisheaid ai ar y Sabbath yr iachai Efe ef, fel y caffent beth i’w gyhuddo Ef.
8
Ac Efe a wybu eu hymresymmiadau; a dywedodd wrth y dyn oedd a’r llaw ddehau wedi gwywo, Cyfod, a saf yn y canol; ac wedi cyfodi o hono, safodd.
9
A dywedodd yr Iesu wrthynt, Gofynaf i chwi, Ai cyfreithlawn ar y Sabbath wneuthur da, ynte gwneuthur drwg; cadw einioes, a’i colli?
10
Ac wedi edrych o amgylch arnynt oll, dywedodd wrtho, Estyn dy law; ac efe a wnaeth felly, ac adferwyd ei law ef;
11
a hwy a lanwyd o ynfydrwydd, ac ymddiddanasant y naill wrth y llall, pa beth a wnaent i’r Iesu.
12
A bu yn y dyddiau hyny, fyned allan o Hono i’r mynydd i weddïo; a pharhaodd ar hyd y nos yn ei weddi ar Dduw.
13
A phan aeth hi yn ddydd, galwodd Atto Ei ddisgyblion; ac wedi dethol allan o honynt ddeuddeg,
14
y rhai hefyd a enwodd Efe yn Apostolion, sef Shimon, yr hwn hefyd a enwodd Efe Petr, ac Andreas ei frawd,
15
ac Iago ac Ioan, a Philip a Bartholomëus, a Matthew a Thomas,
16
ac Iago fab Alphëus, a Shimon, yr hwn a elwid Zelotes, ac Iwdas brawd Iago, a Iwdas Ishcariot yr hwn a aeth yn fradwr.
17
Ac wedi dyfod i wared gyda hwynt, safodd ar le gwastad, a thyrfa fawr o’i ddisgyblion, a lliaws mawr o bobl o holl Iwdea a Ierwshalem, ac o duedd môr Tyrus a Tsidon, y rhai a ddaethant i’w glywed Ef ac i’w hiachau o’u clefydau;
18
a’r rhai a flinid gan ysprydion aflan a iachawyd;
19
ac yr holl dyrfa a geisiai gyffwrdd ag Ef, canys gallu oedd yn dyfod allan o Hono, ac a iachaodd bawb.
20
Ac Efe, wedi dyrchafu Ei lygaid ar Ei ddisgyblion, a ddywedodd, Gwyn eich byd y tlodion, canys eiddoch chwi yw teyrnas Dduw.
21
Gwyn eich byd y rhai sydd a newyn arnoch yr awr hon, canys digonir chwi. Gwyn eich byd y rhai yn gwylo yn awr, canys chwerthin a gewch.
22
Gwyn eich byd pan y’ch casao dynion, a phan y’ch didolant chwi, ac y’ ch gwaradwyddant, ac y bwriant allan eich enw megis drwg, o achos Mab y Dyn.
23
Llawenychwch yn y dydd hwnw, a llemmwch, canys wele, eich gwobr sydd fawr yn y nef, canys yr un ffunud y gwnaeth eu tadau i’r prophwydi.
24
Ond gwae chwi y goludogion, canys derbyniasoch eich diddanwch.
25
Gwae chwi y rhai a lanwyd yn awr, canys newyn fydd arnoch. Gwae y rhai sy’n chwerthin yn awr, canys galaru a gwylo a gewch.
26
Gwae pan yn dda y dywaid pob dyn am danoch, canys yr un ffunud y gwnelai eu tadau i’r gau-brophwydi.
27
Eithr wrthych chwi y sy’n clywed y dywedaf, Cerwch eich gelynion:
28
gwnewch dda i’r rhai a’ch casant: bendithiwch y rhai a’ch melldithiant; gweddïwch dros y rhai a’ch drygant;
29
i’r hwn a’th darawo ar y naill gern, cynnyg y llall hefyd; ac i’r hwn a ddygo ymaith dy gochl, na wahardd dy bais hefyd: i bob un a ofyno genyt, dyro;
30
a chan yr hwn a ddygo ymaith yr eiddot, na chais eilchwyl.
31
Ac fel yr ewyllysiwch wneuthur o ddynion i chwi, gwnewch chwithau hefyd iddynt yr un ffunud.
32
Ac os cerwch y rhai a’ch carant, pa ddiolch sydd i chwi, canys y pechaduriaid a garant y rhai sydd yn eu caru hwynt?
33
Ac os gwnewch dda i’r rhai sy’n gwneuthur da i chwi, pa ddiolch sydd i chwi, canys y pechaduriaid a wnant yr un peth?
34
Ac os rhoddwch echwyn i’r rhai y gobeithiwch gael ganddynt, pa ddiolch sydd i chwi? Pechaduriaid hefyd i bechaduriaid a roddant echwyn, fel y derbyniont y cymmaint.
35
Ond “cerwch” eich gelynion, a “gwnewch dda,” a “rhoddwch echwyn,” heb obeithio dim drachefn; a bydd eich gwobr yn fawr, a byddwch blant y Goruchaf, canys Efe, daionus yw i’r rhai anniolchgar a drwg.
36
Byddwch drugarogion, fel y mae eich Tad yn drugarog.
37
Ac na fernwch ac ni’ch bernir ddim; ac na chondemniwch ac ni’ch condemnir ddim;
38
gollyngwch yn rhydd, a gollyngir chwi yn rhyddion: rhoddwch, a rhoddir i chwi; mesur da, dwysedig, wedi ei ysgwyd, ac yn myned trosodd, a roddant yn eich mynwes, canys â pha fesur y mesurwch, y mesurir drachefn i chwi.
39
A dywedodd hefyd ddammeg wrthynt, A ddichon dyn dall dywyso dyn dall? Onid y ddau a syrthiant i’r ffos?
40
Nid yw disgybl uwchlaw ei athraw; ond pob un a berffeithiwyd fydd fel ei athraw.
41
A phaham yr edrychi ar y brycheuyn y sydd yn llygad dy frawd, ond y trawst y sydd yn dy lygad dy hun nad ystyri?
42
Neu pa fodd y gelli ddywedyd wrth dy frawd, Fy mrawd, gad i mi fwrw allan y brycheuyn y sydd yn dy lygad, a thithau ni weli y trawst y sydd yn dy lygad dy hun? O ragrithiwr, bwrw allan, yn gyntaf, y trawst o’th lygad dy hun, ac yna y gweli yn eglur i fwrw allan y brycheuyn y sydd yn llygad dy frawd.
43
Canys nid oes pren da yn dwyn ffrwyth llygredig, nac etto bren llygredig yn dwyn ffrwyth da;
44
canys pob pren wrth ei ffrwyth ei hun a adwaenir; canys nid oddiar ddrain y casglant ffigys, nac oddiar berth yr heliant rawnwin.
45
Y dyn da o drysor da ei galon, a ddwg allan yr hyn sydd dda; a’r dyn drwg o’r trysor drwg, a ddwg allan yr hyn sydd ddrwg; canys o orlawnder y galon y llefara ei enau ef.
46
A phaham y gelwch Fi, Arglwydd, Arglwydd, ac heb wneud o honoch y pethau a ddywedaf?
47
Pob un y sy’n dyfod Attaf, ac yn clywed Fy ngeiriau, ac yn eu gwneuthur,
48
dangosaf i chwi i bwy y mae yn gyffelyb; cyffelyb yw i ddyn yn adeiladu tŷ, yr hwn a gloddiodd ac a aeth yn ddwfn, ac a osododd y sail ar y graig; a llifeiriant wedi digwydd, torrodd yr afon ar y tŷ hwnw, ac ni allai ei siglo o herwydd mai da yr adeilesid ef.
49
Ond yr hwn a glyw, ac ni wna, cyffelyb yw i ddyn a adeiladodd dŷ ar y ddaear, heb sail, ar yr hwn y torrodd yr afon, ac yn uniawn y syrthiodd efe yn bentwr, ac yr oedd torriad y tŷ hwnw yn fawr.
← Chapter 5
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 7 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24